Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Statws gwarchodedig wisgi Cymreig 'yn garreg filltir'
Mae wisgi brag sengl Cymreig wedi cael statws gwarchodedig, fel cig oen.
Dyma'r gwirod cyntaf i dderbyn y statws dynodiad daearyddol (GI) dan y cynllun gafodd ei lansio yn y DU yn 2021 ar 么l Brexit o'r enw UKGI.
Roedd pedair distyllfa'n rhan o'r cais terfynol ar gyfer y statws, sef Penderyn, In the Welsh Wind, Da Mhile a Coles.
Mae gwaith cynhyrchu'r ddiod wedi ehangu dros yr ugain mlynedd diwethaf ac mae'n cael ei dosbarthu ar hyd mwy na 45 o wledydd erbyn hyn gyda disgwyl iddi gynhyrchu 拢23m eleni.
Mae cyfanswm o 20 o gynnyrch bwyd a diod wedi eu gwarchod yn swyddogol yng Nghymru, gan gynnwys Halen M么n, Caws Caerffili, Ham Caerfyrddin, Eirin Dinbych yn ogystal 芒 gwin, cennin a chig oen Cymreig.
Dywedodd pennaeth cwmni Penderyn, Stephen Davies, fod cael y statws yn "garreg filltir arwyddocaol".
"Mae'n helpu gyda diogelu ansawdd y cynnyrch yn ogystal a'i darddiad," ychwanegodd.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod y diwydiant whisgi Cymreig yn "chwarae r么l bwysig yn sector bwyd a diod" Cymru.
"Dw i'n bles iawn dros bawb fu ynghlwm 芒 chael y statws pwysig hwn ac mae'n sicrhau fod y cynnyrch arbennig hwn yn derbyn y cydnabyddiaeth a'r bri y mae'n ei haeddu," dywedodd.
'Hybu gwerthiant, creu swyddi a thyfu'r economi'
Fe gafodd statws UKGI ei sefydlu i sicrhau fod bwydydd a diodydd penodol o'r DU yn gallu sicrhau gwarchodaeth gyfreithiol ar 么l gadael yr Undeb Ewropeaidd - sydd hefyd yn rhedeg ei chynllun ei hun.
Dywedodd Ysgrifennydd Bwyd a Ffermio'r DU Therese Coffey fod dyfarnu'r statws yn "hybu gwerthiant gartref a thramor, creu swyddi a thyfu ein heconomi".
"Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd 芒 rhai o'r distyllwyr yn Sioe Frenhinol Cymru a dathlu hanes rhyfeddol y cynnyrch unigryw hwn," ychwanegodd.