Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sage Todz: Yr Eisteddfod wedi eu 'tristau'n fawr' gan hiliaeth
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud eu bod wedi'u "tristau'n fawr" gan hiliaeth a anelwyd at Sage Todz ac eraill wedi ei benderfyniad i beidio â pherfformio yn y Brifwyl eleni am ei fod yn canu'n ddwyieithog.
Mae'r rapiwr o Benygroes yn Nyffryn Nantlle yn cyfuno'r Gymraeg a'r Saesneg, a daeth i'r amlwg yr wythnos hon na fydd yn perfformio yn Eisteddfod LlÅ·n ac Eifionydd ym mis Awst.
Dywedodd ei fod yn parchu'r rheol iaith ond na fyddai'n newid ei ganeuon am eu bod yn gyfansoddiadau gorffenedig.
Dywedodd cadeirydd Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod Genedlaethol, Ashok Ahir, fod y Brifwyl "wedi ein tristau'n fawr gan yr hiliaeth a anelwyd ato ef ac eraill, ar gyfryngau cymdeithasol, yn dilyn ei gyhoeddiad".
Dim ailystyried y rheol iaith
Ychwanegodd Mr Ahir ei fod yn parchu angerdd ac ymrwymiad Sage Todz i'r ieithoedd y mae'n canu ynddyn nhw, ac y bydd y Brifwyl yn parhau i gydweithio gyda phartneriaid er mwyn cyflwyno'r iaith i ystod ehangach o unigolion a grwpiau.
Mae hefyd wedi atgyfnerthu'r neges mai gŵyl Gymraeg yw'r Brifwyl, wedi i'r gweinidog economi alw am ailystyried y rheol iaith.
Dywedodd Vaughan Gething ar Twitter y byddai cynnwys artist fel Sage Todz yn yr Eisteddfod yn dod â'r Gymraeg i gynulleidfa ehangach.
Mewn datganiad yn enw Mr Ahir dywedodd yr Eisteddfod: "Gŵyl Gymraeg yw'r Eisteddfod Genedlaethol, ac rydyn ni'n ymfalchïo'n fawr mewn dathlu iaith ar draws pob genre o'r celfyddydau.
"Rydyn ni'n creu llawer o gyfleoedd i artistiaid berfformio yn Gymraeg am y tro cyntaf.
"Rydyn ni'n parhau i weithio gyda nifer o bartneriaid i wneud y Gymraeg yn hygyrch i ystod ehangach o unigolion a grwpiau.
"Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n gweithio yn y sector creadigol nad ydynt yn hyderus, neu sy'n newydd i'r iaith.
"Perfformio, cystadlu, a thrafod yn y Gymraeg - a dim ond yn y Gymraeg - yw prif bwrpas yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer yr un wythnos yn y flwyddyn pan y cynhelir yr ŵyl."
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
'Gŵyl gynhwysol sy'n dathlu amrywiaeth'
Ychwanegwyd eu bod yn parchu angerdd ac ymrwymiad Sage Todz i'r ieithoedd y mae'n dewis eu defnyddio yn ei gerddoriaeth" ac mai "ei benderfyniad ef oedd ei fod yn dymuno perfformio yn Saesneg ac yn ddwyieithog yn unig".
"Roedden ni'n awyddus iddo berfformio yn yr ŵyl ond rydyn ni'n parchu ei benderfyniad i beidio â pherfformio yn y Gymraeg yn unig," meddai Mr Ahir.
"Rydyn ni wedi ein tristau'n fawr gan yr hiliaeth a anelwyd ato ef ac eraill, ar gyfryngau cymdeithasol, yn dilyn ei gyhoeddiad.
"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ymrwymedig i fod yn ŵyl gynhwysol sy'n parchu ac yn dathlu amrywiaeth yn ein holl weithgareddau a gweithdrefnau."
Dywedodd elusen gwrth-hiliaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth eu bod "wedi dychryn gan yr hiliaeth", a oedd hefyd wedi'i anelu at Mr Ahir.
"Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth wedi'u dychryn gan yr hiliaeth ar y cyfryngau cymdeithasol ers i Sage Todz gyhoeddi na fydd yn perfformio yn yr Eisteddfod," meddai'r corff mewn datganiad.
"Mae sylwadau wedi'u hanelu at unigolion sy'n herio safbwynt yr Eisteddfod ac at gadeirydd yr Eisteddfod, Ashok Ahir.
"Fel Sage rydym yn parchu penderfyniad yr Eisteddfod ond yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at drafodaeth ehangach ar bolisi iaith yr ŵyl, sy'n bodoli ers blynyddoedd lawer."
Ychwanegodd yr elusen fod Mr Ahir "wedi cefnogi ein nod o ddarparu addysg gwrth-hiliaeth yng Nghymru ers blynyddoedd lawer".
'Triniaeth anghredadwy'
Un o'r grwpiau oedd wedi mynegi eu siom ynglŷn â'r ffaith na fyddai Sage Todz yn perfformio yn yr Eisteddfod oedd Race Council Cymru.
Yn ymateb i erthygl gan Nation.Cymru ar y pwnc, dywedodd y corff ar Twitter: "Ry'n ni'n siomedig iawn i ddarllen am y driniaeth anghredadwy yma o gerddor Cymreig du, sydd wedi gwneud llawer i hyrwyddo'r iaith Gymraeg".
Yn ymateb i'r trydariad hwnnw mae Mr Ahir wedi eu cyhuddo o fod yn "amhroffesiynol iawn", gan awgrymu nad ydyn nhw'n deall yr amgylchiadau'n llawn.
"Annwyl Race Council Cymru. Roedd eich penderfyniad i gyfrannu i'r mater yn y ffordd yma yn amhroffesiynol iawn," meddai.
"Rwy'n siŵr eich bod chi'n deall pwysigrwydd ymchwil a dealltwriaeth ddyfnach cyn gwneud datganiad cyhoeddus.
"Os gwelwch yn dda ystyriwch ddileu'r post yma."