Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mwy o gwynion gan weithwyr ambiwlans am aflonyddu
- Awdur, Maia Davies
- Swydd, Newyddion 91热爆 Cymru
Mae gweithiwr ambiwlans a ddioddefodd ymosodiad rhyw gan glaf wedi dweud fod camymddwyn rhywiol gan y cyhoedd yn gwneud iddi deimlo'n "andros o fregus".
Bob blwyddyn ers 2018, fe gynyddodd nifer y cwynion o gamymddwyn rhywiol tuag at weithwyr ambiwlans yng Nghymru.
Cafodd 86 achos o aflonyddu ac ymosod rhywiol eu cofnodi o ddechrau 2018 hyd at fis Mawrth 2023.
Roedd bron i ddau ym mhob tri ymosodiad corfforol yn rhywiol.
Yn 么l Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, mwy o barodrwydd i gwyno sy'n gyfrifol am y cynnydd, a hynny o ganlyniad i'w gwaith o roi cefnogaeth i'w staff.
'Llusgo'i law lawr fy nghorff'
Roedd Sara - oedd ddim am i'r 91热爆 ddefnyddio'i henw iawn - yn tywys claf at ambiwlans pan ymosododd arni.
"Fe roddodd ei law ar fy mron a'i lusgo lawr fy nghorff tuag at fy ardal breifat."
Mae gweithwyr ambiwlans yn wynebu'r fath gamdriniaeth "yn rhy aml o lawer," medd Sara.
"Pethau fel, 'tyrd draw fan hyn i roi body check i fi'.
"Pan wyt ti mewn tafarn ac mae 'na lwyth o bobl feddw o dy amgylch, ac mae rhywun yn dweud rhywbeth fel 'na, mi wyt ti'n teimlo'n fregus tu hwnt."
Dim ond un achos gafodd ei gofnodi yn 2018 o'i gymharu 芒 30 yn 2022, yn 么l Cais Rhyddid Gwybodaeth gan raglen Newyddion S4C i'r gwasanaeth ambiwlans.
Roedd 13 achos wedi eu cofnodi'n barod erbyn diwedd mis Mawrth 2023, gan awgrymu cynnydd pellach eleni.
Dywed Sara mai mwy o barodrwydd i gwyno sydd fwy na thebyg yn gyfrifol am y cynnydd hwnnw, ac mae'n canmol y gefnogaeth dderbyniodd ar 么l iddi wneud ei chwyn.
Ond mae hi'n poeni bod sawl un yn parhau i ddal yn 么l rhag cwyno yn sgil yr "ofn" o gael eu "bychanu" gan gydweithwyr.
"Doeddwn i ddim am i fy nghydweithwyr wybod beth ddigwyddodd. Roedd cywilydd arna' i," meddai.
"O'n i'n teimlo y bydden nhw'n fy meirniadu i, nid ei feirniadu e."
Mae hynny'n ofn cyffredin, medd Cymorth i Ferched Cymru, ac mae'n golygu fod nifer y cwynion am gamymddwyn rhywiol "bob tro" yn is na'r nifer sy'n digwydd mewn gwirionedd.
Yn 么l Stephanie Grimshaw o'r elusen, mae'n fwy o broblem yn y gweithle.
"Mae 'na gred y gallai cwyno effeithio ar eu swydd, neu y byddai pobl yn edrych arnyn nhw'n wahanol," meddai.
'Gofid'
Cafodd Deddf Ymosodiadau ar Weithwyr Brys ei chyflwyno yn 2018, gan ddyblu'r ddedfryd uchaf am ymosodiadau o'r fath.
Yn 么l yr Aelod Seneddol a gynigodd y gyfraith honno, mae'n "ofid" bod unigolion yn dal i gael eu cam-drin bron i bum mlynedd yn ddiweddarach.
Dywed Syr Chris Bryant AS nad yw'r gyfraith ar ei phen ei hun yn ddigon i ddiogelu gweithwyr.
"Mae'n rhaid i chi hefyd sicrhau fod pob gweithiwr ambiwlans yn ddiogel yn y gweithle.
"Ry'n ni'n barod yn cael trafferth cael gwasanaeth ambiwlans go iawn sy'n cyrraedd pobl mewn pryd.
"Os ydyn ni'n colli pobl am eu bod nhw'n meddwl na allan nhw ymdopi 芒'r gwaith yma mwyach, fe fydd pethau ddwywaith mor heriol."
'Gellir gwneud mwy, bob tro'
Yn 么l prif weithredwr y gwasanaeth ambiwlans, Jason Killens, mae'r cynnydd yn nifer yr achosion a gofnodwyd yn adlewyrchu mwy o barodrwydd i gwyno.
"Yn rhannol gyfrifol am hynny mae'r gwaith ry'n ni wedi ei wneud yn fewnol er mwyn annog ein pobl i gwyno, ac i'w cefnogi pan fydd pethau fel hyn yn digwydd," meddai.
Ychwanegodd Mr Killens bod eu hymgyrch Gyda Ni, Nid yn ein Herbyn, wedi tynnu sylw at y sefyllfa ers ei lansio yn 2021.
Fe dywedodd ei fod yn "drist" o glywed am brofiad Sara.
"Gellir gwneud mwy bob tro, a dyna pam ry'n ni moyn i'n pobl ddweud wrthym sut hoffen nhw gael eu cefnogi."
Cyfeiriodd y gwasanaeth 98% o'r cwynion iddyn nhw eu derbyn at yr heddlu.
"Ry'n ni'n gweithio er mwyn sicrhau bod y rheiny sy'n euog o ymosod ar ein staff yn cael eu dwyn i gyfri a'u cosbi," meddai Mr Killens.
Ychwanegodd llefarydd fod gan y gwasanaeth "ystod eang o fesurau lles" i gefnogi staff, gan gynnwys ffordd anhysbys o gwyno.
"Mae hynny'n rhoi mwy o sicrwydd i'n staff sy'n poeni am effaith cwyn ar eu gwaith a'u gyrfa."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 91热爆.