Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth i ymddeol yn gynnar
Mae is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o'r swydd ar ddiwedd y flwyddyn.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure y byddai'n gadael yn gynt nag y bwriadwyd yn wreiddiol "yn dilyn triniaeth feddygol ddiweddar a pharhaus".
Ers ei phenodi yn 2017, aeth y brifysgol drwy ddatblygiadau academaidd gan gynnwys cynnig addysg nyrsio am y tro cyntaf, ac agor unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru.
Dywedodd Prifysgol Aberystwyth fod yr Athro Treasure hefyd wedi arwain prosiectau i ailwampio rhai o adeiladau eiconig y sefydliad megis Neuadd Pantycelyn, a phrosiect parhaus yr Hen Goleg sy'n rhoi bywyd newydd i adeilad gwreiddiol y brifysgol ar bromen芒d Aberystwyth.
Roedd yr Athro Treasure wedi nodi'n flaenorol y byddai'n rhoi'r gorau i'w swydd fel is-ganghellor ym mis Medi 2024.
Bydd Cyngor y Brifysgol nawr yn symud ymlaen i benodi is-ganghellor newydd.