Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Apelio ar athrawon yn Lloegr i ddod yn 么l i Gymru
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 91热爆 Cymru
Mae ysgolion wedi bod yn ymateb i broblemau recriwtio drwy apelio ar athrawon sy'n siarad Cymraeg ac yn gweithio yn Lloegr i ystyried swyddi adref.
Wythnos ddiwetha' dywedodd un o bwyllgorau'r Senedd y byddai'r cynlluniau ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn methu heb gynnydd sylweddol yn nifer y staff.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithredu gan gynnwys cymelliadau ariannol a grantiau.
Fe wnaeth gr诺p o ysgolion yn ne-ddwyrain Cymru fanteisio ar grant i gynnal ffair swyddi ar-lein yn gynharach eleni wedi'i hanelu at athrawon o Gymru sy'n gweithio dros y ffin.
Daeth yr arian o gronfa sy'n ceisio dysgu ysgolion am ffyrdd creadigol i ddelio 芒 heriau recriwtio.
Dywedodd Trystan Edwards, Pennaeth Ysgol Garth Olwg ger Pontypridd a chadeirydd y gr诺p o ysgolion bod y sefyllfa yn "heriol" ond bod angen bod yn "bositif" a dangos "blaengaredd".
"Y gobaith yw adeiladu ar lwyddiant y fenter hon drwy gynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol," meddai.
Penderfynu dychwelyd
Yn 么l Sian Bradley ac Amanda Williams, dwy athrawes sydd wedi bod yn gweithio yn Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd ers mis Medi wedi blynyddoedd yn dysgu yn Llundain, mae yna adnodd i'w gael tu hwnt i Gymru.
Treuliodd Sian 15 mlynedd yn dysgu yn Llundain ac yn ystod y pandemig fe benderfynodd geisio dychwelyd i Gymru.
Roedd hi'n awyddus i adeiladu hyder wrth ddefnyddio'r iaith eto a chafodd le ar gwrs pontio sydd fel arfer yn cefnogi athrawon cynradd i symud i'r sector uwchradd, a oedd o gymorth mawr.
Dywedodd ei bod wedi dod ar draws nifer o siaradwyr Cymraeg tra'n dysgu yn Llundain a "bod 'na lot o bobl i gael ond dy'n nhw ddim yn gwybod sut i symud a falle bod nhw ddim eisiau jyst mynd syth mewn i swydd".聽
"Maen nhw eisiau gwneud rhywbeth sydd yn y canol falle, er mwyn gweld y gwahaniaeth rhwng dysgu yn y Gymraeg a dysgu yn y Saesneg," meddai.
Daeth Amanda Williams i'r ysgol fel pennaeth cerddoriaeth wedi iddi aros yn Llundain ar 么l coleg.
Rhesymau teuluol oedd y tu 么l i'r penderfyniad ond mae'n credu ei fod yn gyfnod da i symud 'n么l gyda chwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno.
"I fod yn onest o'n i ddim mor ymwybodol a 'na o beth oedd yn y cwricwlwm yng Nghymru cyn bo' fi'n dechre edrych mewn i symud," meddai.
"Ond mae fe yn eitha' cyffrous. Mae 'na lot o ryddid.
"Felly bydden i yn meddwl bod e'n rhywbeth byddai'n gallu denu bobl."
'Y niferoedd ddim ble ni moyn'
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod angen i'r cyflenwad o athrawon sy'n dysgu Cymraeg fel pwnc a sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion uwchradd i "gynyddu'n sylweddol" i gyrraedd targedau yn ei strategaeth iaith 'Cymraeg 2050'
Erbyn 2021 y nod oedd bod 600 o athrawon uwchradd yn dysgu Cymraeg fel pwnc - dim ond 391 oedd i gael.
Roedd 'na 2,004 o athrawon uwchradd yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ond y targed ar gyfer 2021 oedd 2,200 er mwyn cyrraedd 4,200 erbyn 2050.
Mae cynyddu'r niferoedd sy'n dechrau cyrsiau ymarfer dysgu yn parhau yn "heriol".
Dywedodd Dr Anna Bryant, o Brifysgol Met Caerdydd, ei bod yn edrych yn "bositif iawn" o ran recriwtio i gyrsiau ymarfer dysgu cynradd yn Gymraeg a Saesneg.
Ond o ran y pynciau prin, fel y gwyddorau, mathemateg ac ieithoedd modern, yn yr uwchradd yn y ddwy iaith "dyw'r niferoedd falle ddim ble ni moyn bo nhw".
Mae denu myfyrwyr i gyrsiau ymarfer dysgu ar gyfer bron pob pwnc yn y sector uwchradd Cymraeg yn her meddai.
Dywedodd bod sawl cynllun yn digwydd i ddod i'r afael 芒'r broblem allai gymryd amser i ddwyn ffrwyth, a gwaith yn cael ei wneud i hybu hyder a sgiliau Cymraeg y rhai sy'n hyfforddi i fod yn athrawon.
"Ma' nifer o brifathrawon wedi dod i siarad 芒'r gr诺p a falle'n dweud wel ni moyn pobol fel chi, does dim rhaid bod yr iaith yn berffaith, ni'n mynd i weithio 'da chi ar hwnna.
"Mae 'da chi'r holl gymwysterau 'ma, mae 'da chi'r holl sgiliau arbennig 'ma, ni moyn chi yn ein hysgol ni."
'Yn gynyddol heriol i recriwtio'
Mae Trefor Jones newydd symud i fod yn bennaeth mewn ysgol uwchradd ddwyieithog - Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun - ar 么l arwain ysgol yn y sector Gymraeg.
"Dros y ddwy flynedd ddiwetha' mae wedi bod yn gynyddol heriol i ni allu recriwtio," meddai.
Dywedodd bod llenwi swyddi fel athrawon mathemateg, Saesneg, Cymraeg yn ogystal 芒'r gwyddorau wedi bod yn broblem.
"Mae ganddoch chi ddim digon yn dod mewn i'r proffesiwn ar un ochor, ac wedyn ma' ganddoch chi alw cynyddol.
"Ac mae'n her wedyn i geisio llenwi'r bwlch hynny er mwyn sicrhau bod ganddoch chi athrawon Cymraeg eu hiaith da, sy'n mynd i allu addysgu'r plant yn symud ymlaen."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol er mwyn gwireddu ein huchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050".
Mae cymhelliad gwerth 拢5,000 i bobl sy'n astudio i ddod yn athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg, a bwrsari 拢5,000 i gadw athrawon yn y proffesiwn, ymhlith y cynlluniau sydd wedi cael eu cyflwyno, ychwanegodd.em.