BPD: ‘Mae o’n anodd bod yn fi weithiau’
- Cyhoeddwyd
"Mae o fatha bod mewn cell yn dy ben dy hun. Ti'n trio'i gadw o i gyd at ei gilydd, ond weithiau ti jyst yn gorfod ei adael o i fynd."
Cafodd Sophie Ross ddiagnosis o Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (Borderline Personality Disorder neu BPD) ym mis Medi 2022, wedi blynyddoedd o ddioddef symptomau.
Cafodd sgwrs gydag Aled Hughes ar 91Èȱ¬ Radio Cymru am y cyflwr, beth mae hi'n ei wneud i helpu ei hun a pha mor bwysig yw hi i siarad yn agored am iechyd meddwl.
Dyma ei phrofiad hi:
Mae pobl sydd yn dioddef o BPD yn profi ansefydlogrwydd yn eu hunan-ddelwedd, eu hwyliau a'u hymddygiad. Mae'n aml yn cael ei gymharu ag anhwylder deubegynol (bipolar) gan fod y symptomau yn gallu bod yn debyg, ond fod pyliau o iselder neu mania dioddefwyr BPD yn para' am gyfnodau llawer byrrach.
Roedd cael diagnosis yn benllanw blynyddoedd o chwilio am atebion i Sophie, sy'n wreiddiol o Langollen ond bellach yn byw yn Y Fflint.
"Ges i diagnosis mis Medi 2022," meddai Sophie, "ond dwi wedi bod yn delio efo'r symptomau ers mod i tua 16/17, ac wedi bod ar foddion ers mod i'n 17. Ond roedd Mam yn gwybod bod 'na rywbeth yn bod neu yn wahanol ers mod i reit ifanc.
"Dwi'n meddwl bod ymchwil yn deud ei bod hi'n cymryd 14 mlynedd i ferched gael ar gyfartaledd. Mae'n cymryd lot o amser."
O chwerthin i feichio crio
Mae anhwylder Sophie yn golygu fod pob diwrnod yn wahanol iddi; dydi hi ddim yn gallu rhagweld sut fydd hi'n teimlo nac yn gwybod beth yw achos y pyliau mae hi'n eu cael bob amser, meddai.
"Pythefnos yn ôl ges i episode o iselder, 'nes i golli stôn mewn wythnos achos o'n i jyst ddim yn gallu bwyta. Do'n i'm yn gwybod pam mod i'n teimlo'n isel ond o'n i'n gwybod mod i'n isel.
"Ond wedyn un noson, 'nes i ddechrau chwerthin, a 'nes i chwerthin, chwerthin, chwerthin am rhyw 20 munud; o'dd o reit frawychus deud y gwir.
"Wedyn es i i'r gwely ac o'n i'n beichio crio. Y diwrnod nesa', o'dd o fel bod 'na ddim byd wedi digwydd o gwbl. So mae o reit extreme.
"Mae o fatha bod mewn cell yn dy ben dy hun. Achos ti'n trio'i gadw o i gyd at ei gilydd, ond weithiau ti jyst yn gorfod ei adael o i fynd. Y rhan fwyaf o'r amser pan mae'r episode yn digwydd, dwi'n berson arall.
"Mae o'n anodd bod yn fi weithiau, ac mae'n anodd i'r bobl sydd o gwmpas hefyd. Dydi gŵr fi byth yn gwybod beth mae o am ddod adra i."
Chwilio am help
Er fod cael diagnosis wedi helpu Sophie i roi label ar yr anhwylder sydd arni, dydi gwybod enw'r cyflwr ddim yn ddigon iddi. Dyna pam ei bod hi'n parhau i chwilio am ffyrdd gwahanol o helpu ei hun i leddfu ei symptomau neu eu cadw o dan reolaeth:
"Fasa fo'n haws i mi ista'n ôl a jest delio efo fo a ddim gneud dim byd. Ond dwi'n gwybod fod angen ymarfer corff, cadw'n heini a bwyta'n iawn, sy'n gneud gwahaniaeth enfawr.
"A hefyd, mae'n bwysig edrych i mewn i pam fod o'n digwydd. Beth oedd y trigger? A beth fedra i wneud i leihau'r effaith y tro nesa'?
"Dwi 'di bod i therapi, ac o'dd o mor werthfawr. Roedd y therapydd yn fy helpu i ddeall bod y ffordd dwi'n ei deimlo'n ocê, ei bod hi'n iawn i mi deimlo fel hyn. Ond rhoi'r toolkit at ei gilydd i mi drio interceptio [fy nheimladau] cyn ffrwydro.
"Mae 'na fath o therapi sy'n debyg sy'n berffaith i drin BPD; mwy hands-on, mindfulness, trio dod â ti nôl at realiti. Edrych o gwmpas, beth ydych chi'n gallu ei weld, beth ydych chi'n gallu ei deimlo, ei arogli, ei glywed...?
"Jyst i ddod â chi nôl i'r foment i 'neud chi'n fwy presennol, ac mae hynny wedi bod yn help masif i mi."
Symptomau Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (o wefan y GIG)
Ansefydlogrwydd emosiynol
Patrymau o feddwl neu ddirnadaeth afreolaidd
Ymddygiad byrbwyll
Perthynasoedd dwys ond ansefydlog ag eraill
Therapi cerdd
Un symptom o BPD yw newid diddordebau yn gyflym ac yn rheolaidd, sydd bendant yn wir i Sophie, er fod un diddordeb wedi parhau, sydd hefyd yn helpu gyda'i iechyd meddwl, meddai:
"Efo BPD, 'da ni reit sporadic, 'da ni'n neidio o un peth i'r llall. Mae hobis fi'n newid fel machlud yr haul. Dwi'n mynd drwy phases; 'na i gael tri mis o redeg bob dydd, tri mis o beintio, tri mis o rywbeth arall... ond cerddoriaeth 'di'r un peth dwi'n dod nôl ati.
"Dwi wedi bod yn canu ers dwi'n bedair oed. Dwi wedi bod yn perfformio am flynyddoedd, ond yn broffesiynol ers blwyddyn, dros ogledd Cymru i gyd.
"Mae cerddoriaeth yn therapi. Fedra i ddim deud pa mor dda ydi o i'n iechyd meddwl i'n gyffredinol; mae'n dda canu i gael yr hormonau hapus allan."
Siarad yn agored
Ynghyd â siarad â therapydd, mae siarad ag eraill yn hanfodol bwysig hefyd, meddai, ac yn un o'r rhesymau pam fod Sophie wedi penderfynu bod yn agored am ei iechyd meddwl, gyda'r gobaith y byddai'n helpu eraill.
"Mae o mor bwysig i ni siarad am bopeth. Achos os 'da chi'n ei gadw i mewn mae o'n stiwio a mae hwnna'n waeth, yn enwedig efo BPD... mae o mor bwysig i siarad efo pobl.
"Os dwi'n gallu helpu un person, fydda i'n hapus. Dyna pam dwi mor agored am fy iechyd meddwl, achos mae o mor bwysig, a dwisho helpu gymaint o bobl â dwi'n gallu."
Hefyd o ddiddordeb: