Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Polisi gofal plant yn 'ddibynnol ar recriwtio mwy o staff'
Mae addewid Llywodraeth Cymru i ddarparu gofal plant am ddim i bob plentyn dyflwydd oed yn dibynnu ar allu'r sector i recriwtio mwy o staff, yn 么l y dirprwy weinidog sy'n gofalu am y polisi. 聽
Dywedodd Julie Morgan ei bod hi'n "eithaf anodd" dod o hyd i weithwyr ar hyn o bryd, ac os nad oes modd cael staff "allwch chi ddim bwrw 'mlaen".聽
Mae'r polisi'n ganolog i'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Senedd.
Pwysleisiodd Ms Morgan bod y llywodraeth yn buddsoddi yn y sector a'i bod hi'n obeithiol bydd modd cyflwyno'r polisi'n llawn cyn yr etholiad nesaf yn 2026.
Methu recriwtio staff yn 'broblem'
Mae cost gofal plant yn y Deyrnas Unedig gyda'r drytaf yn y byd ac ar gyfartaledd mae rhieni yng Nghymru'n talu 拢249.24 yr wythnos am ofal llawn amser i blentyn dyflwydd oed.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru'n ariannu 30 awr o ofal plant am ddim i blant sy'n dair a phedair oed bob wythnos, gydag amodau.
Mae hefyd yn cynnig 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant dyflwydd oed bob wythnos mewn rhai ardaloedd difreintiedig. 聽
Nawr mae'r llywodraeth yn ehangu'r cynllun yna i gynnwys pob plentyn dwy oed yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Ond mewn cyfweliad gyda rhaglen Politics Wales 91热爆 Cymru, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan: "Rydyn ni'n dibynnu ar gael staff er mwyn gwneud hyn ac mae'n eithaf anodd cael staff ar hyn o bryd, felly mae'n rhaid i ni wneud yn si诺r bod y capasiti yna."
Pan ofynnwyd iddi a allai'r heriau recriwtio fygwth y polisi, dywedodd Ms Morgan: "Os nad oes modd cael y staff i weithio, yn amlwg allwch chi ddim bwrw 'mlaen. Mae'n broblem.
"Ond rydyn ni'n gwneud popeth allwn ni i ddenu staff i'r sector felly rwy'n obeithiol y byddwn ni'n llwyddo i'w wneud."
Dywedodd Ms Morgan bod y llywodraeth yn buddsoddi 拢70m yn y sector i wella meithrinfeydd a chreu mwy o lefydd.
'Effaith ariannol enfawr ar fusnesau'
Yn y cyfamser mae un rheolwr cwmni gofal plant wedi rhybuddio bod y polisi'n cael ei gyflwyno mewn modd allai beryglu rhai busnesau.
Jodie Evans yw'r uwch-reolwr ardal i gwmni meithrinfeydd St Aubin's, sy'n rhedeg naw busnes ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.
Fe ddywedodd hi wrth y rhaglen y bydd darparwyr gofal yn cael llai o arian drwy gynllun y llywodraeth i'w digolledu ar gyfer yr oriau y bydd rhieni'n eu cael am ddim.
Eglurodd hefyd bod meithrinfeydd yn wynebu heriau ariannol digynsail a thrafferthion recriwtio sylweddol.
"Rydyn ni'n gwneud mwy na gofalu, rydyn ni'n addysgu, ry'n ni'n deulu estynedig ac maen nhw'n talu 拢5.60 [yr awr] i ni i wneud hynny i gyd," meddai Ms Evans.
"Mae pobl sy'n gwarchod plant yn ennill mwy na hynny ac rydyn ni'n wasanaeth proffesiynol sy'n darparu gwasanaeth o ansawdd, felly sut maen nhw'n disgwyl i ni wneud hynny?
"Ac mae'r bwriad i gynnig hyn i bob plentyn heb unrhyw gyfyngiadau yn mynd i gael effaith ariannol enfawr ar fusnesau," ychwanegodd.
'Angen mwy o gydweithio'
Dywedodd cyfarwyddwr rhaglen blynyddoedd cynnar Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Natalie Macdonald, bod y polisi "mewn egwyddor", yn "gam ymlaen ardderchog", ond efallai nad oedd y llywodraeth wedi "ystyried popeth yn ddigon trylwyr".聽
Byddai mwy o gydweithio gyda'r sector wedi sicrhau bod y polisi'n "gynaliadwy", ychwanegodd.聽
Wrth ymateb dywedodd y llywodraeth eu bod yn gweithio mewn partneriaeth 芒'r sector a'u bod wedi cymryd camau i ostwng rhai o'r costau sy'n wynebu meithrinfeydd.
Ar hyn o bryd mae'r ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru'n fwy hael nag yn Lloegr.
Ond yn ei gyllideb fis diwethaf, addawodd y canghellor i ymestyn y ddarpariaeth yn Lloegr i gynnwys - yn y pen draw - plant o naw mis oed, gyda rhai amodau.
Pan ofynnwyd iddi a oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno'r un ymrwymiadau, dywedodd Ms Morgan ei bod hi'n canolbwyntio ar gyflwyno'r polisi ar gyfer plant dwy oed ar hyn o bryd ac yna "byddwn ni'n asesu ble allwn ni fynd".