Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pont Tywysog Cymru: Y Brenin yn anhapus ynghylch yr ailenwi
Roedd Brenin Charles III yn anhapus ynghylch ailenwi Ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru, yn 么l cyn-weinidog diwylliant Llywodraeth Cymru.
Fe wnaeth y newid dadleuol yn 2018 ysgogi cwynion am na chafwyd ymgynghoriad cyhoeddus.
Dywed yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod y Tywysog, fel yr oedd ar y pryd, wedi ei sicrhau nad oedd yn gwybod dim am y penderfyniad ac nad ymgynghorwyd ag ef ei hun.
"Doedd o wir ddim yn hapus o gwbl," meddai cyn-arweinydd Plaid Cymru, sydd wedi'i ddyfynnu mewn llyfr newydd am y Brenin.
Yn y gyfrol 'Charles the King and Wales', mae'r awdur - newyddiadurwr 91热爆 Cymru, Huw Thomas - yn disgrifio cyfnod ailenwi'r bont fel y "foment fwyaf peryglus" yn amser Charles fel Tywysog Cymru.
Yr un wythnos 芒'r seremoni i nodi'r ailenwi, ym mis Gorffennaf 2018, aeth y Tywysog Charles ar daith i Lys a Chastell Tret诺r, ger Crucywel, Powys a chwrdd 芒 staff cyn cael sgwrs 芒'r Arglwydd Elis-Thomas.
"Yn ystod yr ymweliad hwnnw y trodd ataf a dweud: 'Rwyf am ddweud un peth wrthych, yr Arglwydd Elis-Thomas. Mae'n ymwneud 芒'r bont hon.'
"'Rwyf am roi gwybod i chi fy mod yn gwybod dim byd am y peth. Ni ymgynghorwyd 芒 mi'.
"Wel, roedden nhw'n cymryd eich enw chi yn ofer, syr,' meddwn i, neu rywbeth felly. A dyma ni'n chwerthin.
"Ond doedd o ddim yn hapus o gwbl mewn gwirionedd."
Ac eto, fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Alun Cairns, wrth awdur y llyfr ei fod wedi dechrau trafod y posibilrwydd o ailenwi Ail Bont Hafren er anrhydedd i Dywysog Cymru yn ystod haf 2016, ar faes yr Eisteddfod yn Y Fenni.
Eglurodd Mr Cairns ei fod wedi cael sgwrs anffurfiol gyda Grahame Davies, dirprwy ysgrifennydd preifat Tywysog Cymru, oedd yn gweld "gwerth archwilio hyn".
Roedd y Prif Weinidog Theresa May a'i hysgrifennydd trafnidiaeth yn "gefnogol", yn 么l yr AS Ceidwadol.
Ar 么l tri llythyr a dwy sgwrs gyda Carwyn Jones, meddai, fe ddaeth Prif Weinidog Cymru hefyd yn gefnogol.
Dechreuodd y trefniadau ffurfiol wedyn, gan gynnwys gofyn am ganiat芒d y Frenhines, a dywedodd ei hysgrifennydd preifat fod Ei Mawrhydi yn fodlon 芒'r syniad.
Mae'r llyfr yn adrodd bod ffynhonnell o'r llywodraeth yn dweud bod Clarence House "wir yn barod" i Dywysog Cymru yrru ei gar Aston Martin dros y bont i gadarnhau'r newid enw, yn ystod trafodaethau cynnar.
Nododd y Tywysog yr ailenwi, ym mis Gorffennaf 2018, mewn seremoni 25 milltir i ffwrdd o'r bont, mewn pabell fawr yng Ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd.
Yn 么l y llyfr, dywedodd uwch was sifil o'r DU, wrth siarad ar yr amod ei fod yn anhysbys, fod y lleoliad yn cyfleu teimladau'r Tywysog yn glir.
"Fe ddadorchuddiodd enw newydd ar bont bum milltir ar hugain o'r bont, ac mae hynny'n dweud y cyfan," meddai'r gwas sifil.
Mae Palas Buckingham wedi cael cais am ymateb.
Bydd Charles the King and Wales gan Huw Thomas yn cael ei gyhoeddi gan Parthian Books ar 1 Mai.