Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Perfformio c芒n Gymraeg yn seremoni goroni'r Brenin Charles
Bydd c芒n Gymraeg yn cael ei pherfformio yn seremoni goroni'r Brenin Charles fis nesaf - y tro cyntaf i hynny ddigwydd yn 么l Palas Buckingham.
Syr Bryn Terfel fydd yn canu cyfansoddiad Paul Mealor o Sir Ddinbych, a hynny gyda Ch么r Abaty Westminster.
Disgrifiodd Mr Mealor y g芒n, o'r enw Coronation Kyrie, fel "cri o enaid dwfn bryniau a chymoedd Cymru am obaith, heddwch, cariad a chyfeillgarwch".
Bydd y coroni yn digwydd ar 6 Mai.
Ymysg y cerddorion eraill fydd yn perfformio mae'r delynores frenhinol, Alis Huws, fydd yn chwarae trefniant newydd o g芒n Sir Karl Jenkins, Tros Y Garreg, gyda cherddorfa'r coroni - c芒n a gomisiynwyd gan Charles dros 20 mlynedd yn 么l pan oedd yn Dywysog Cymru.
Mae cerddorfa'r coroni yn cynnwys rhai o'r cerddorion gorau yn y DU, gan gynnwys aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y 91热爆 a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.