Ymgyrchwyr eisiau sicrwydd am ambiwlans awyr y canolbarth

Disgrifiad o'r llun, Roedd tua 100 o bobl yn y cyfarfod yn Y Drenewydd i ymgyrchu dros gadw'r gwasanaethau'n lleol y tu hwnt i 2026
  • Awdur, Mari Grug
  • Swydd, Newyddion 91热爆 Cymru

Daeth dros 100 o bobl i gyfarfodydd gafodd eu trefnu yn Y Drenewydd ddydd Mawrth i drafod dyfodol y Gwasanaeth Ambiwlans Awyr yng Nghymru.

Y llynedd ffurfiwyd gr诺p ymgyrchu yn y canolbarth i wrthwynebu'r cynnig i adleoli hofrenyddion brys a cherbydau o'r Trallwng a Chaernarfon i ganolfan yng ngogledd Cymru.

Mae baneri yn gwrthwynebu'r newid wedi cael eu harddangos ar draws Powys ers misoedd.

Ar y pryd, fe ddywedodd elusen y Gwasanaeth Ambiwlans Awyr yng Nghymru y byddai'r newid yn helpu mwy o gleifion ar draws pob ardal o Gymru.

Ond fis Chwefror daeth y tro pedol, gyda'r cytundeb yn Y Trallwng a Chaernarfon yn cael ei ymestyn am dair blynedd arall.

Mae'r ymgyrchu'n parhau i geisio cadw'r gwasanaethau'n lleol y thu hwnt i 2026.

'Mae'n rhaid i ni weld tystiolaeth'

Mae cynnig y Gwasanaeth Ambiwlans Awyr i gau'r ddau safle yn y gogledd a'r canolbarth bellach yn destun proses graffu annibynnol gan Brif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans.

Mae'r cyn-aelod seneddol, Glyn Davies yn dweud bod teimladau cryfion yn y canolbarth.

"Mae'n bwysig iawn i bobl y canolbarth, yn fwy na hynny hefyd yn llefydd fel yr Amwythig," meddai.

"Dydy'r elsuen heb berswadio bobl yn y canolbarth sut byddai'r gwasanaeth yn well o gael gwared ar y safle yn y Trallwng. Mae'n rhaid i ni weld tystiolaeth o hynny.

"O wybod cryfder y teimladau yn y canolbarth, bydd pobl yma yn stopio unrhyw safle rhag cau, os byddwn ni'n gallu gwneud hynny."

Mae Iestyn Meddins yn ffermio ger Llanbrynmair, ym Machynlleth.

Mae wedi gorfod dibynnu ar y ofal gan y Gwasanaeth Ambiwlans Awyr, ym mis Mai 2021, i achub ei fywyd.

"Bues i digon anlwcus i gael damwain ar y beic, ac roedd hi'n hanfodol o fyw mewn lle mor anghysbell i fi gael ambiwlans awyr," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae baneri yn gwrthwynebu'r newid wedi cael eu harddangos ar draws Powys ers misoedd

"Roedden nhw yno o fewn 15 munud. Os byswn i wedi cael anafiadau mwy difrifol byddai'r cwarter awr ychwanegol yna yn ddigon i fi golli fy mywyd.

"Y teimlad, o fod yn y cyfarfod yma, ydy bod nhw ddim yn gwrando ar yr hyn ni'n dweud.

"Dwi'n credu ddylai pawb boeni a gweithio'n galed i drio cadw'r gwasanaeth yn y canolbarth."

'Ddim yn 'neud synnwyr'

Mae gwraig Iestyn, Dr Elin Jones yn gweithio fel oncolegydd yn Ysbyty Bronglais.

Fe ddywedodd: "Byddai cau safle'r Trallwng yn cael effaith ar ysbyty fel Bronglais yn sicr. A dwi ddim yn teimlo bod yr elusen a'r comisiynydd yn sylweddoli hynny.

"Fel gwraig i Iestyn, fyddai byth yn gallu diolch digon i'r ambiwlans awyr. Roedd clywed bod yr ambiwlans awyr ar y ffordd yn gymaint o ryddhad i fi.

"Dwi ddim yn coelio y byddai pob ardal yn elwa o gau y safle yn Y Trallwng. Mae 'na fwy o sg么p am anafiadau yn y canolbarth.

"Maen nhw wedi cyfaddef heno mai yn y canolbarth maen nhw'n cael y busnes mwyaf, ond dydyn nhw ddim yn rhoi yr un pwyslais ar yr angen i gario'r gwasanaeth ymlaen yma."

Disgrifiad o'r llun, Dr Elin Jones a'i g诺r, Iestyn Meddins

Roedd y digwyddiad yn y Drenewydd yn rhan o'r gwaith o gasglu adborth gan y cyhoedd ar gyfer y broses graffu.

Mae cyfarfodydd pellach wedi eu trefnu yn Y Trallwng, Llanelwedd, Wrecsam a Chaernarfon - yn ogystal 芒 chyfarfodydd ar-lein.

Bydd canfyddiadau'r arolwg yn llywio unrhyw benderfyniadau fydd yn cael eu gwneud am strwythur y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf.

'Cyrraedd cymaint o bobl 芒 phosib'

Dywedodd Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans, Stephen Harrhy: "Dwi'n credu bod yna nifer o opsiynau posib sy'n rhaid i ni edrych arno os ydym am geisio ehangu ac ymestyn y gwasanaethau ambiwlans awyr rydym yn gallu ei gynnig i bobl Cymru.

"Byddwn yn edrych ar sut rydym yn cyrraedd cymaint o bobl 芒 phosib, ac hefyd sut allwn gymryd i ystyriaeth safbwyntiau lleol, sef y rheswm bod y broses ymgysylltu yma'n bwysig iawn i mi.

Disgrifiad o'r llun, Stephen Harrhy: "Rydym yn gwybod ein bod yn gallu cyrraedd mwy o bobl nag ydyn ni ar hyn o bryd"

Ychwanegodd: "Mae'n bwysig iawn fy mod yn deall beth mae pobl yn pryderu am, ac wedyn sut i fynd i'r afael efo'r pryderon yna pan rydyn ni'n dod i fyny efo argymhelliad yn y pen draw. Ond nid oes argymhelliad ar hyn o bryd.

"Rydyn ni'n gwybod ein bod yn gallu cyrraedd mwy o bobl nag ydyn ni ar hyn o bryd ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny, oherwydd mae hwn yn wasanaeth gwych i bobl Cymru.

"Byddai pobl yn marw os nad oedd ganddynt fynediad i'r gwasanaeth ac ni fyddai gan bobl ansawdd bywyd mor dda, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn cael hyn yn gywir."