Chwe Gwlad 2023: Rhys Webb i ddechrau yn erbyn Yr Eidal

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Daeth Webb ymlaen yn nwy g锚m gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth eleni

Bydd y mewnwr Rhys Webb yn dechrau ei g锚m gyntaf yn y Chwe Gwlad ers 2017 wrth i Gymru wynebu'r Eidal yn Rhufain ddydd Sadwrn.

Mae'n un o chwe newid i'r t卯m a gafodd eu trechu gan Loegr yn Stadiwm Principality bron i bythefnos yn 么l.

Bydd Webb, 34, yn cymryd lle Tomos Williams, tra bod Rio Dyer wedi'i ddewis yn lle Louis Rees-Zammit ar yr asgell.

Mae'r prif hyfforddwr Warren Gatland hefyd wedi galw Dafydd Jenkins, Jac Morgan, Liam Williams a Wyn Jones yn 么l i'r 15 fydd yn dechrau'r g锚m.

Byddan nhw'n cymryd llefydd Alun Wyn Jones, Christ Tshiunza, Leigh Halfpenny a Gareth Thomas.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Rio Dyer wedi'i ddewis yn hytrach na Louis Rees-Zammit ar yr asgell

Mae Owen Williams yn cael cyfle i barhau yn safle'r maswr, a dyw Dan Biggar ddim wedi'i ddewis yn y garfan o 23.

Does dim maswr cydnabyddedig ar y fainc, felly pe bai Williams yn cael anaf mae'n debyg mai'r canolwr Joe Hawkins fyddai'n chwarae fel rhif 10.

"Rydyn ni wedi bod yn siomedig gyda'r canlyniadau hyd yma, ac i mi mae'n anodd cymryd am mai dyma'r tro cyntaf i fi golli tair g锚m gyda Chymru yn y Chwe Gwlad," meddai Gatland.

"Rydyn ni wedi cael lot o bethau'n mynd 'mlaen oddi ar y cae hefyd, ond does dim esgusodion.

"Y neges i'r chwaraewyr ydy bod yn rhaid i ni fod yn glyfar o ran y ffordd 'dyn ni'n chwarae, ond mae'n rhaid i ni fod yn ddewr hefyd a sicrhau ein bod ni'n symud y b锚l pan mae'r cyfleoedd yna."

'Tensiwn o fewn y garfan'

Yn y cyfamser, mae Gatland yn credu bod rhwyg o fewn gwersyll Cymru wedi tanseilio eu g锚m yn erbyn Lloegr.

Roedd chwaraewyr Cymru wedi bygwth peidio 芒 chwarae yn eu g锚m ddiwethaf ar 25 Chwefror mewn protest yn erbyn yr ansicrwydd ariannol parhaus o fewn rygbi Cymru.

"Wrth feddwl, roedd y stwff oddi ar y cae yn bendant wedi cael effaith," meddai.

"Roedd yna rwyg eitha' sylweddol yn y gr诺p yngl欧n 芒 pha ffordd i fynd a dwi'n meddwl bod hynny'n bendant wedi achosi rhywfaint o densiwn o fewn y gr诺p am ychydig wythnosau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Owen Williams yn cadw ei le fel maswr, a dyw Dan Biggar ddim yn garfan o 23

Mae Cymru wedi colli eu tair g锚m gyntaf yn y bencampwriaeth - 10-34 yn erbyn Iwerddon, 35-7 yn Yr Alban, a 10-20 gartref yn erbyn Lloegr.

Mae'r Eidal hefyd wedi colli eu tair g锚m gyntaf, ond wedi creu mwy o argraff na Chymru hyd yma.

Llwyddodd yr Eidalwyr i sicrhau pwynt bonws tra'n colli yn erbyn Ffrainc, sy'n golygu eu bod un pwynt ar y blaen i Gymru, sydd 芒'r un pwynt yn y bencampwriaeth eleni.

Ymysg y chwaraewyr fydd yn dechrau'r g锚m i'r Eidal mae'r Cymro Cymraeg o'r Preseli, Stephen Varney, fel mewnwr.

T卯m Cymru

Liam Williams; Josh Adams, Mason Grady, Joe Hawkins, Rio Dyer; Owen Williams, Rhys Webb; Wyn Jones, Ken Owens (capten), Tomas Francis, Dafydd Jenkins, Adam Beard, Jac Morgan, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Scott Baldwin, Gareth Thomas, Dillon Lewis, Rhys Davies, Tommy Reffell, Tomos Williams, George North, Louis Rees-Zammit.

T卯m Yr Eidal

Tommaso Allan; Edoardo Padovani, Juan Ignacio Brex, Tommaso Menoncello, Pierre Bruno; Paolo Garbisi, Stephen Varney; Danilo Fischetti, Giacomo Nicotera, Simone Ferrari, Niccolo Cannone, Federico Ruzza, Sebastian Negri, Michele Lamaro (capten), Lorenzo Cannone.

Eilyddion: Luca Bigi, Federico Zani, Marco Riccione, Edoardo Iachizzi, Giovanni Pettinelli, Manuel Zuliani, Alessandro Fusco, Luca Morisi.