Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Eisteddfod: Lansio Prifwyl 2024 yn Rhondda Cynon Taf
Mae Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf wedi ei lansio mewn gŵyl arbennig yn Nhreorci.
Gyda'r bwriad o gynnig blas o'r hyn sydd i'w ddisgwyl ym Mhrifwyl 2024, dyma fydd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn yr ardal ers 1956.
Wrth ledaenu'r neges, dywed y trefnwyr eu bod wedi gweithio gyda pherfformwyr, artistiaid a grwpiau cymunedol ar draws y sir er mwyn creu rhaglen arbennig.
Nos Sadwrn roedd y digwyddiad i gynnwys gig gan y band roc, Y Candelas.
Ond roedd cydnabyddiaeth hefyd y byddai'r broses o gasglu arian "yn heriol" yn sgil yr argyfwng costau byw.
'Eisteddfod yn perthyn i ni gyd'
Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Gwaith fod yr ŵyl yn nodi dechrau'r gwaith paratoi ar gyfer yr Eisteddfod, sy'n dychwelyd i'w gwreiddiau, gan i'r ŵyl fodern gyntaf gael ei chynnal yn Aberdâr yn 1861.
Ond cadarnhaodd hefyd nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ar union leoliad y brifwyl.
"Ein prif neges wrth i ni lansio'r prosiect yw fod yr Eisteddfod yn perthyn i ni i gyd," meddai Helen Prossser.
"Rydyn ni am i bawb ymuno â ni, yn ddysgwyr, siaradwyr Cymraeg hyderus a phawb sydd wedi colli cysylltiad gydag ein hiaith ers yr ysgol neu sydd heb gael cyfle i ddysgu.
"Mae gennym ni ddigonedd o waith i'w wneud dros y deunaw mis nesaf, yn trefnu cystadlaethau, hyrwyddo'r ŵyl a chodi arian, ac rydyn ni eisiau i bobl o bob cymuned, pentref a thref ar draws y tri chwm i fod yn rhan o'r paratoadau."
Ychwanegodd, "'Da ni'n disgwyl cael gwybod [y lleoliad] erbyn yr haf.
"Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yw hi, 'da ni yn Nhreorci heddi, bydd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf ym Mhontypridd, bydd y cyhoeddi yn Aberdâr felly yn ni'n defnyddio'r ardal gyfan."
Argyfwng costau byw
Serch hynny, roedd cydnabyddiaeth y byddai'r broses o arian yn "heriol", gan "nad yw hi'r ardal gyfoethocaf a does na ddim traddodiad o Eisteddfod yno chwaith".
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, fod y syniad o Eisteddfod deithiol hefyd yn cynnig cyfleoedd i ardal fel y Rhondda "fod ar y llwyfan cenedlaethol rhyngwladol".
"Mae'r ardal yma wirioneddol ar dan ishe' datblygu cyfleoedd i bobl i godi arian. ond hefyd i ddod at eu gilydd," meddai.
"Mi ydan ni mewn argyfwng costau byw a dyna pam mae angen edrych ar sut mae codi hwyl yn ogystal a chodi arian.
"Mae'r daith hyd at yr ŵyl gyn bwysiced a'r ŵyl ei hun."
Ychwanegodd, "Mae dod i ardal fel hyn yn holl bwysig, mae'n rhoi cyfleoedd i bobl glywed y Gymraeg ac i ymarfer.
"Mae'n ardal glos iawn... wrth gwrs mae'n dalcen caled ond dyna pan ry' ni'n gweithio gyda'r cyngor sir ac yn edrych ar y cyfleoedd."