Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cadw safleoedd ambiwlans awyr Caernarfon a'r Trallwng ar agor
Bydd gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru'n parhau o'i dwy ganolfan bresennol yn y gogledd tan o leiaf 2026, yn dilyn cytundeb gyda phartner hedfan newydd.
Fe gyhoeddodd yr elusen gynlluniau y llynedd i stopio gweithredu o feysydd awyr Caernarfon a'r Trallwng, a chanoli ei gwasanaeth ar gyfer y gogledd yng nghanol y rhanbarth.
Dywedodd ar y pryd y byddai hynny'n eu galluogi i ymateb i dros 500 yn fwy o alwadau brys mewn blwyddyn.
Mae'r elusen nawr wedi dod i gytundeb gwerth 拢65m gyda chwmni Gama Aviation, sy'n golygu y bydd y gwasanaeth yn aros yng Nghaernarfon a'r Trallwng am o leiaf dair blynedd arall.
'Y peth cywir i'w wneud'
Dan y cytundeb saith mlynedd sy'n dod i rym ddechrau 2024, Gama Aviation fydd yn gweithredu a cynnal a chadw pedwar hofrennydd yr elusen.
Cwmni Babcock International oedd y partneriaid blaenorol.
Bydd yr elusen yn estyn ei chytundebau gyda'r meysydd awyr yn Ninas Dinlle, ger Caernarfon ac yn Y Trallwng, tra bo'r hofrenyddion eraill yn parhau yng Nghaerdydd a Dafen, yn Llanelli.
Mae un hofrennydd wrth gefn hefyd i sicrhau parhad y gwasanaeth os oes angen gwaith cynnal a chadw i un o'r hofrenyddion eraill.
Mae'r cyhoeddiad yn dilyn proses 18 mis o hyd gan ymddiriedolwyr yr elusen oedd hefyd yn cynnwys adborth gan arbenigwyr o'r sectorau meddygol ac awyrennau.
Maen nhw'n disgrifio Gama Internation fel cwmni "blaengar ac uchelgeisiol gyda phrofiad o wasanaethau hofrennydd meddygol brys yn Guernsey a Jersey, yn ogystal ag yn Yr Alban".
Dywedodd prif weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru, Dr Sue Barnes fod costau cynnal y gwasanaeth heb unrhyw newidiadau o gwbl nawr yn costio dros 拢3m yn fwy bob blwyddyn yn sgil ffactorau byd-eang.
Roedd hynny, meddai, yn gadael dewis o weithredu "o fewn lefel bresennol ein rhoddion a lleihau nifer yr awyrennau, neud ymateb i'r her o barhau gydag ein fflyd presennol, gyda chefnogaeth angerddol pobl Cymru".
"Gwnaethom gytuno mai'r peth cywir i'w wneud oedd parhau gydag ein fflyd presennol," meddai.
Ychwanegodd Dr Barnes: "Bydd rhai yn tynnu sylw at gynigion diweddar i ystyried newid lleoliadau canolfannau ac awgrymu bod hwn yn gynllun arbed arian.
"Ni all hynny fod yn bellach o'r gwir. Fe fydd y costau hyn yr un fyth boed y gwasanaeth yn gweithredu o dair canolfan neu bedair."
Ymgyrchu i barhau
Gan groesawu'r cadarnhad y bydd trefniadau yn y gogledd yn parhau am o leiaf dair blynedd arall, mae'r AS Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi "diolch i'r holl ymgyrchwyr sydd wedi gweithio'n ddiflino i gyrraedd y pwynt hwn".
"R诺an mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i wneud yr achos am yr angen i bedair canolfan yr elusen aros ar agor yn barhaol," meddai.
"Mae'r Ambiwlans Awyr yn golygu cymaint i bob un ohonom a byddwn yn parhau i'w gefnogi'n ariannol oherwydd ei bwysigrwydd, gan wybod ei fod yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i bob ardal yng Nghymru, yn enwedig ein hardaloedd gwledig sydd mor ddibynnol arno."
Cafodd y cyhoeddiad groeso hefyd gan arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, sydd hefyd yn pwysleisio "nad ydy'r ymgyrch yma ar ben".
Ychwanegodd: "Dwi fel sawl un arall yn aros r诺an am fanylion y broses ymgysylltu cymunedol hir-addawedig sydd i fod i ddechrau fis nesaf."