Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diwygio'r Senedd: Rhaid i ymgeisydd fyw yng Nghymru
Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd ar gyfer etholiadau'r Senedd yn y dyfodol fyw yng Nghymru o dan gynlluniau'r llywodraeth.
Mae gweinidogion hefyd yn bwriadu atal Aelodau o'r Senedd rhag gadael plaid wleidyddol ym Mae Caerdydd i ymuno ag un arall.
Cynigir y newidiadau fel rhan o becyn ehangach o ddiwygiadau i'r Senedd, a fydd yn gweld nifer yr Aelodau o'r Senedd yn cynyddu o 60 i 96.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n rhoi'r newyddion diweddaraf am eu cynlluniau erbyn y Pasg.
Dywedodd Plaid Cymru, sy'n gweithio gyda'r llywodraeth ar ddiwygio'r Senedd fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu, y bydd y newidiadau "yn garreg filltir arwyddocaol yn nhaith gyfansoddiadol Cymru".
'Dim mandad'
Ond dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, y dylai Llywodraeth Cymru "ganolbwyntio ar drwsio ein GIG yng Nghymru, ein system addysg a'n heconomi".
"Does gan Lafur ddim mandad etholiadol ar gyfer eu cynigion ac maen nhw'n hapus i ASau yn San Steffan groesi'r llawr i blaid arall pan fo'n gyfleus iddyn nhw," meddai.
"Mater i'r etholwyr yw penderfynu sut y c芒nt eu cynrychioli, ac ni ddylai democratiaeth Gymreig gael ei thanseilio gan Lafur a Phlaid."
Byddai'r cynlluniau i newid y Senedd yn gweld 96 Aelod yn cael eu rhannu ar draws 16 o etholaethau, gyda phob un yn ethol chwe chynrychiolydd.
Mae cwot芒u rhywedd hefyd yn cael eu cynnig er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth o fenywod, er bod rhywfaint o ansicrwydd ynghylch pwerau cyfreithiol y Senedd i gyflwyno'r newid.
Y nod yw cyflwyno'r newidiadau mewn pryd ar gyfer etholiad nesaf y Senedd yn 2026.
Mae gweinidogion Cymru a Phlaid Cymru yn gweithio ar y manylion cyn cyhoeddi deddf ddiwygio arfaethedig i'r Senedd erbyn hydref 2023.
Beth yw'r awgrymiadau newydd?
Mae 91热爆 Cymru wedi cael gwybod bod newidiadau pellach y cytunwyd arnynt yn cynnwys:
- Ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd fod yn preswylio yng Nghymru;
- Gwaharddiad ar newid plaid, fel na fydd Aelodau o'r Senedd sy'n cael eu hethol i gynrychioli plaid yn gallu ymddiswyddo ac ymuno 芒 phlaid arall yn y Senedd - bydd yn rhaid iddynt eistedd fel aelodau annibynnol;
- Bydd yn rhaid i ymgeiswyr annibynnol ddatgelu eu haelodaeth o unrhyw bleidiau gwleidyddol yn y flwyddyn cyn etholiad.
Yn 2009, Mohammad Asghar oedd y gwleidydd cyntaf ym Mae Caerdydd i groesi'r llawr wrth iddo .
Gadawodd chwech o'r saith gwleidydd a etholwyd i gynrychioli UKIP yn etholiad Senedd 2016 i ymuno 芒 phleidiau eraill.
Byddai'r rheol breswyl arfaethedig yn atal y sefyllfa yn y Senedd ddiwethaf lle bu arweinydd UKIP, Neil Hamilton, yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru ond yn byw yn Wiltshire.
Mewn cyfarfod o gorff rheoli Llafur Cymru cyn y Nadolig, dywedwyd bod "cefnogaeth gyffredinol" ymhlith cynrychiolwyr y pleidiau.
Ond dywedir bod Pwyllgor Gwaith Llafur Cymru wedi cwestiynu a allai newid rheol preswylio Cymru "atal ymgeiswyr talentog sy'n byw rhywle arall yn y DU a fyddai'n gyndyn o fentro symud i Gymru pe na bai modd iddynt fod yn sicr o gael eu hethol".
Dywedir bod y prif weinidog wedi "cydnabod bod y pwynt hwn wedi'i ystyried ond nad oedd yn bryder digonol i gyfiawnhau rhoi'r gorau i'r cynnig".
'Democratiaeth gryfach'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i weithio i symud yr argymhellion a wnaed gan y pwyllgor ar ddiwygio'r Senedd yn eu blaenau, a byddwn yn rhoi diweddariad pellach erbyn y Pasg."
Dywedodd Plaid Cymru fod creu "democratiaeth gryfach, fwy effeithiol, a mwy cynrychioliadol i wasanaethu pobl Cymru'n well wrth galon" ei chytundeb yn y Senedd gyda llywodraeth Lafur Cymru.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y blaid: "Bron i 25 mlynedd ers sefydlu'r Senedd, bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn garreg filltir arwyddocaol yn nhaith gyfansoddiadol Cymru.
"Mae arweinydd Plaid Cymru yn gweithio'n agos gyda'r prif weinidog ar ddatblygiad y ddeddfwriaeth, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i'r Senedd maes o law."