Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 10-34 Iwerddon
Fe gafodd Cymru eu trechu gan Iwerddon yng ng锚m gyntaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni - g锚m gyntaf ail gyfnod Warren Gatland fel hyfforddwr y t卯m cenedlaethol.
Fe wnaeth yr ymwelwyr ddangos pam mai nhw sydd ar frig rhestr prif ddetholion y byd gyda pherfformiad pwerus i sicrhau mantais sylweddol yn yr hanner cyntaf.
Er i Gymru daro'n 么l a sicrhau mwy o feddiant yn yr ail hanner, roedd yna ormod i'w wneud o ran ceisio troi'r fantol.
Liam Williams wnaeth sgorio unig gais Cymru wrth iddyn nhw golli o 10 pwynt i 34 yn Stadiwm Principality - buddugoliaeth gyntaf Iwerddon yng Nghaerdydd yn y Chwe Gwlad mewn 10 mlynedd.
Roedd y Gwyddelod yn gryf o'r dechrau, a dau funud yn unig wedi'r gic gyntaf roedd Caelon Doris wedi croesi'r llinell. Gyda throsiad Johnny Sexton, roedden nhw saith pwynt ar y blaen cyn i'r dorf cael cyfle i setlo wedi'r anthemau cenedlaethol.
Gyda wyth munud ar y cloc roedden nhw wedi dyblu'r fantais, diolch i gais gan y clo James Ryan ac ail drosiad Sexton.
Yn y 12fed munud roedd yna gyfle o'r diwedd i Gymru a gafodd meddiant o'r b锚l diolch i dacl allweddol gan Gareth Thomas. Fe giciodd Rio Dyer y b锚l tua'r llinell a rhuthro ar 锚i h么l ond fe gafodd cefnwr yr ymwelwyr, Hugo Keenan y blaen arno a'i atal rhag tirio.
Fe lwyddodd Dan Biggar i roi pwyntiau ar y sgorfwrdd ar 么l i Gymru sicrhau cic gosb yn dilyn sgrym ymosodol, dim ond i Sexton ychwanegu triphwynt cyfatebol i Iwerddon wedi i hwythau gael cic gosb wrth i'r pwysau barhau ar y t卯m cartref.
Daeth trydydd cais Iwerddon wrth i Gymru geisio ymosod, ond fe ryng-gipiodd James Lowe b谩s gan Biggar ac wrth iddo garlamu 60 metr i lawr y maes roedd hi'n amlwg o'r dechrau nad oedd gan unrhyw un obaith o'i ddal.
Yn dilyn trosiad arall gan Sexton, a chic gosb arall yn fuan wedi hynny, roedd Cymru'n colli o 3-27 wedi 28 munud o chwarae a doedd dim newid i'r sg么r cyn yr egwyl.
Difyr fyddai wedi bod yn bry ar y wal i glywed beth oedd gan Warren Gatland i'w ddweud wedi hanner cyntaf llawn camgymeriadau a diffyg disgyblaeth - ac fe lwyddodd Cymru i leihau'r bwlch yn fuan yn yr ail hanner.
Wedi i'r Gwyddelod ildio cic gosb, fe benderfynodd Cymru i gicio am y gornel. O'r symudiad dilynol - pas byr o'r lein i George North, ac yna i Joe Hawkins a Biggar - daeth cyfle hawdd i Liam Williams groesi'r llinell.
Gyda throsiad Biggar roedd hi bellach yn 10-27, ond fe fethodd Cymru 芒 gwneud y mwyaf o gosb yn erbyn Andrew Porter am dacl hwyr ar Liam Williams wrth iddo dirio, pan wyrodd tafliad y capten Ken Owens.
Roedd yna gyfle gwych i Justin Tipuric a gafodd ei atal gan Caelan Doris ger llinell y Gwyddelod cyn iddo gael ei eilyddio.
Roedd Cymru erbyn hyn yn cael mwy o feddiant o lawer nac yn yr hanner cyntaf, ond roedd angen mynd gam ymhellach a throi meddiant yn bwyntiau. Wrth i'r Gwyddelod ddod dan bwysau, roedden nhw bellach oedd cyflawni m芒n droseddau, gan gynnwys un yn erbyn North oddi ar y b锚l.
Ond gyda 72 o funudau ar y cloc, fe sgoriodd Josh van der Flier bedwerydd cais Iwerddon, a sicrhau pwynt bonws cyntaf pencampwriaeth eleni. Gyda throsiad Ross Byrne roedd hi'n 10-34.
Un cysur i Gymru yw eu bod wedi atal eu gwrthwynebwyr rhag cael pumed cais a throsiad, a fyddai wedi gosod record newydd i Iwerddon yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd.