Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwahardd canu 'Delilah' yn ystod gemau rygbi Cymru
Mae corau sy'n perfformio yng ngemau rhyngwladol Cymru yn Stadiwm Principality wedi cael eu gwahardd rhag canu'r glasur 'Delilah' gan Tom Jones.
Dyw'r g芒n heb gael ei chwarae ar uchelseinyddion y stadiwm ers 2015, ac mae'r stadiwm wedi cadarnhau na fydd bellach yn cael ei pherfformio gan gorau chwaith.
Mae'r g芒n wedi denu beirniadaeth ers tro am fod y geiriau yn disgrifio dyn cenfigennus yn llofruddio ei bartner.
Er hynny, mae wedi bod yn boblogaidd gyda chefnogwyr t卯m rygbi Cymru, ac mae Tom Jones ei hun wedi ei pherfformio cyn g锚m ryngwladol yn y gorffennol.
Daw penderfyniad y stadiwm wedi i honiadau o rywiaeth a chasineb at fenywod gael eu gwneud yn erbyn Undeb Rygbi Cymru (URC) ar raglen 91热爆 Wales Investigates.
Dywedodd llefarydd ar ran Stadiwm Principality: "Ni fydd Delilah yn cael ei chanu gan gorau ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol yn Stadiwm Principality.
"Fe wnaeth URC dynnu'r g芒n oddi ar y rhestr chwarae ar gyfer gemau rhyngwladol yn 2015.
"Yn fwy diweddar mae corau wedi cael cais i beidio 芒 chanu'r g芒n yn ystod eu perfformiadau cyn ac yn ystod gemau.
"Mae URC yn condemnio trais domestig o unrhyw fath."
Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn "ymwybodol fod y g芒n yn broblemus ac yn achosi gofid i rai cefnogwyr oherwydd ei chynnwys".
'Datrys dim'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar chwaraeon, Tom Giffard, fod y weithred wedi'i amseru er mwyn ceisio "lleddfu'r pwysau sydd ar URC ar hyn o bryd".
"Yr hyn mae pobl wedi galw amdano ydy newid sefydliadol, gwell arferion gweithio a phroses gwynion gwell ar gyfer URC, ond yn hytrach, maen nhw'n dewis gwahardd c芒n boblogaidd gan Tom Jones," meddai.
"Bydd y weithred yma'n datrys dim."