'Tawelu meddwl' drwy gael trefn ar ddillad
- Cyhoeddwyd
"Mae 'na le i bob dim ac mae hynna'n rhywbeth sy'n tawelu meddyliau."
Dyma eiriau Alys Mererid Roberts sy' wedi rhoi trefn a thrawsnewid ei chwpwrdd dillad a'i lloft gyda help y trefnydd proffesiynol Gwenan Rosser.
Meddai Alys am y profiad: "'Oedd o'n emosiynol - ond eitha' cathartic hefyd i ymweld 芒'r dillad yma a meddwl, mae hwnna wir yn golygu rhywbeth i fi a sut dwi'n mynd i barchu fo a chadw fo? Ddim jyst stwffio fo mewn i focs.
"Dwi'n meddwl bod o'n helpu mendio rhywun rhywsut, mae rhywbeth eitha' healing am y broses. Ac 'oedd o'n hwyl hefyd."
Roedd y gantores opera o Gaerdydd yn ymddangos ar raglen Ffasiwn Drefn ar S4C lle mae Gwenan a'r cyflwynydd Lara Catrin yn rhoi trefn ar gypyrddau dillad a llofftydd.
Mae'r rhaglen yn dangos y ddwy yn wynebu'r her o drefnu cypyrddau dillad sy'n gwegian gydag esgidiau a dillad, gan chwynnu a didoli cyn rhoi trefn newydd ar bethau.
Byw mewn bocsys
Storio bob dim mewn bocsys ac yna anghofio amdanynt oedd prif broblem Alys, fel mae'n cydnabod: "Mae gen i lot o ddillad vintage a dillad ail-law, mae gen i gasgliad eitha' mawr.
"A gan mod i wedi symud o gwmpas lot yn ddiweddar, dyna'r peth dwi angen help gyda mwy na dim. Unwaith mae rhywbeth yn mynd mewn bocs, mae o'n cael ei anghofio gen i.
"O'n i newydd symud i fewn i d欧 newydd ac roedd (y rhaglen) yn gychwyn ffres a siawns i gael trefn newydd ar bethau.
"Mae wedi gwneud i fi feddwl am y ffordd dwi'n meddwl am fy nillad ac am fy mhethau, jyst herio hynny ychydig bach.
"'Nes i ailfeddwl, falle bod fi ddim angen pedwar crys-T du - ella' bod un yn oce!"
Emosiwn
Fel llawer ohonom, mae gan Alys ymrwymiad emosiynol at ddillad sy'n ei hatgoffa hi o bobl a phrofiadau: "Mae atgofion [ynghlwm wrth ddillad], yn enwedig dillad dwi wedi cael ar 么l fy nhad. Mae lot o emosiynau ynghlwm 芒 galar ac ynghlwm 芒 dillad person achos mae'n rhywbeth mor bersonol.
"O'n i yn eithaf pryderus cyn y broses ond 'oedd o'n haws nag o'en i wedi meddwl buasa fo. O'n i'n meddwl buaswn i'n ffeindio fo'n anoddach na nes i i adael i bethau fynd."
Mae Alys yn disgrifio ei hun fel pioden oherwydd ei chariad at gasglu dillad ac mae ganddi gasgliad mawr o ddillad perfformio.
Meddai: "On i'n teimlo'n ysgafnach ar 么l cael trefn. 'Nes i gael gwared ar gymaint o bethau. Dwi wedi symud cymaint oherwydd y pandemig gan mod i'n gantores opera.
"O'n i wedi bod yn byw allan o focsys ar 么l gadael fy nh欧 yn Llundain. Bues i'n byw efo Mam am sbel, bues i'n byw efo rhieni fy mhartner am gyfnod - o'n i ddim wedi setlo 'nunlle yn iawn.
"Oedd pob dim ar chw芒l - doedd gen i ddim gwaith ac o'n i mewn cartref dros dro. Dwi'n meddwl bod y bocsys wedi dilyn fi o gwmpas cyhyd oherwydd fod pob dim yn fl锚r mewn ffordd.
"Cyn gynted a nes i adael Llundain achos doedd dim ffordd o dalu i fyw yno heb waith, 'nes i dynnu'r ffrogau canu o'r wardrob lle oeddan nhw'n hongian yn ddel a stwffio nhw mewn bocs ac 'oedd rhywbeth eitha poenus a thrist am hynny.
"Mae'r byd wedi bod yn agor allan eto, mae canu'n digwydd ac roedd rhoi y ffrogiau n么l yn y wardrob yn rhywbeth neis. Dwi'n teimlo mwy gwastad a sefydlog."
Diagnosis
Mae Alys wedi cael diagnosis o ADHD yn ddiweddar sy' hefyd wedi effeithio arni, fel mae'n dweud: "Mae ADHD yn effeithio ar y ffordd mae'r ymennydd yn gweithio - mae'n effeithio lot ar drefn a sut ti'n trefnu dy hun.
"'O'n i wedi ffeindio bod gen i systemau o'n i wedi adeiladu fy hun fel bod fi'n gweld pethau mewn drors ond doedden nhw ddim cweit yn gweithio felly roedd o'n ddefnyddiol cael rhywun oedd wir yn deall ac hefyd yn deall beth fyddai'n helpu fi fel unigolyn.
"Mae yn golygu bod 'na ddim overwhelm pan dwi' n agor cwpwrdd - mae pob dim yn dwt, mae'n un peth yn llai i feddwl amdano.
"Mae o wedi ngwneud i yn fwy trefnus ac mae o'n haws cadw trefn ar bethau r诺an. Mae o'n neud fi yn fwy calm rhywsut, dim gymaint o stres o gwmpas llanast yn y llofft.
"Oherwydd bod y dillad mewn trefn well dwi'n gallu bod yn fwy creadigol a gwisgo mwy ohonyn nhw a bod yn fwy chwareus efo'n nillad.
"A bod gan bob un ei lle a bod nhw'n cael eu defnyddio r诺an yn hytrach na cael eu anwybyddu mewn bocs bach trist."
Cyngor gan y trefnydd Gwenan Rosser
"Dwi'n credu yn gryf mewn lle i bopeth a phopeth yn ei le." Dyma mantra Gwenan ond ble mae dechrau? Dyma ei chyngor hi:
Sut i ddechrau tacluso
- PENDERFYNU ar y dasg - beth wyt ti'n mynd i daclo gynta'? Dechreua drwy gerdded o gwmpas y t欧 neu adnabod rhan/ardal sydd angen sylw.
- PENDERFYNU beth yw'r canlyniad delfrydol - sut wyt ti eisiau i bethau 'edrych' erbyn y diwedd?
- DEWIS/PENNU AMSER - nodi pryd ti'n mynd i wneud hyn - mae hyn yn rhoi ffocws/gosod tasg pendant!
- CREU LLE - os yn 'tynnu pethau allan', mae angen lle i'w gosod, i'w gweld, er mwyn gallu didoli ee bwrdd/worktop/arwyneb clir.
O RAN DILLAD a threfnu - ffyrdd o 'gadw' yn ddibynnol ar pa sefyllfa sydd efo chi adre - pa fath o wardrob? Oes yna lawer o lefydd hongian neu blygu? Oes llawer o ddroriau? Hefyd pa fath o ddillad - oes mwy o ffrogiau sydd angen lle hongian yn hytrach na siwmperi gall gael eu plygu/rolio ayyb?
COFIO - dyw cowdel ddim wedi ymddangos dros nos, felly cofia beidio rhoi pwysau a disgwyliad ar dy hun i gwblhau y broses didoli dros nos!
Hefyd peidio mynd allan a phrynu llwyth o fasgedi a systemau storio nes ar 么l mynd trwy'r broses o ddidoli...dim ond bryd hynny fyddi di'n gwybod beth fydd wir ei angen!
Pethau defnyddiol
- papur a beiro wrth law - i wneud nodyn/rhestr o unrhyw beth sydd falle angen amnewid ee perlysiau, sawsiau sydd wedi pasio dyddiad defnyddio / dillad sydd wedi mynd yn ddyran (bl锚r)....
- clwtyn damp/sugnwr llwch er mwyn 'glanhau' y gwagle cyn rhoi pethe n么l yn eu lle...
- bag neu focs wrth law - i roi pethau sydd angen eu gwaredu ynddynt yn syth a'u cymryd allan o'r t欧 cyn gynted a phosib! Tip da yw gwybod cyn cychwyn ble fydd yn derbyn y rhoddion ee siop elusen/lloches anifeiliaid/elusen digartref/project ailgylchu ayyb.
- Mae cael cwmni yn gallu helpu - dwi wastad efo'r radio mlaen, yn gwrando ar podcast neu gerddoriaeth.
Gwyliwch Ffasiwn Drefn ar nos Lun am 8.25 ar S4C neu ar 91热爆 iplayer