Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
3,000 o gwynion yn erbyn swyddogion heddlu y llynedd
Cafodd dros 3,000 o gwynion eu gwneud yn erbyn swyddogion heddlu Cymru yn y flwyddyn hyd at ddiwedd Mawrth y llynedd yn 么l yr ystadegau diweddaraf i'w cyhoeddi gan y Swyddfa Gartref.
Roedd y cwynion yn cynnwys cyfanswm o 7,060 o honiadau gwahanol, yn ymwneud 芒 4,684 o swyddogion heddlu.
Ac o'r 5,318 o honiadau arweiniodd at ymchwiliad gan y pedwar llu Cymreig, dim ond naw honiad - llai na 0.2% o'r holl achosion - wnaeth arwain at wrandawiad disgyblaethol ffurfiol.
Mae 91热爆 Cymru wedi cysylltu gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru am ymateb i'r ystadegau.
Ffyrdd amgen o ddisgyblu
Mae'r canlyniadau yng Nghymru yn debyg iawn i'r darlun ar draws holl luoedd Cymru a Lloegr, gyda mwyafrif llethol yr ymchwiliadau yn arwain at ganfyddiad nad oedd achos i'w ateb, a llai na 0.2% o'r achosion neu 158 ar draws Cymru a Lloegr yn arwain at wrandawiadau ffurfiol.
Does dim ystadegau penodol i Gymru o ran faint o swyddogion gafod eu diarddel o'u swydd nac ychwaith am natur yr honiadau yng Nghymru, ond dim ond naw o swyddogion gafodd eu diswyddo ar draws Cymru a Lloegr.
Er hynny mae 'na ffyrdd eraill o ddisgyblu yn cael eu rhestru ymysg ystadegau'r Swyddfa Gartref, gyda swyddogion yn dilyn cyrsiau neu raglenni i ddysgu, neu i ddysgu drwy 'fyfyrdod'.
Mae data'r Swyddfa Gartref yn dangos bod saith o swyddogion Heddlu Dyfed Powys wedi'u rhoi ar gyrsiau o'r fath, 158 yng Ngogledd Cymru a 588 ar draws ardal Heddlu'r De.