Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Lefelau ffliw i gyrraedd uchafbwynt dros 诺yl y Nadolig
Mae nifer y bobl gyda'r ffliw sydd wedi gorfod mynd i'r ysbyty "wedi cynyddu yn yr wythnosau diwethaf", medd arbenigwyr iechyd.
Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) mae'r niferoedd uchaf ymhlith pobl rhwng 60 a 79 oed ond mae achosion ymhlith pobl hyd at 39 oed hefyd ar gynnydd.
Y disgwyl yw, medd ICC, i lefelau achosion gynyddu a chyrraedd uchafbwynt yn ystod gwyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Mae yna hefyd lefelau uchel yn y gymuned o feirysau anadlol eraill, fel Covid a'r Feirws Syncytiol Anadlol (RSV).
Newid ym mhatrwm arferol feirysau
"Rydym yn gwybod bod y ffliw wedi dechrau lledu yn y gymuned yn gynt na'r arfer eleni," meddai Christopher Williams, epidemiolegydd ymgynghorol gydag ICC.
"Ers March 2020, mae patrwm lledaeniad arferol sawl feirws anadlol wedi ei ddrysu ac wrth i'n bywydau fynd yn 么l i'r arfer mae rhai feirysau'n dychwelyd mewn niferoedd uwch ac ar adegau gwahanol o'r flwyddyn o'i gymharu 芒 thymhorau blaenorol."
Lefelau cynyddol o achosion yn y gymuned sydd i gyfrif am y niferoedd sydd wedi gorfod mynd i'r ysbyty, meddai, ac mae'r nifer sydd wedi gweld meddyg teulu gyda salwch tebyg i'r ffliw wedi cynyddu hefyd "i lefelau cymedrol".
Dywedodd bod Cymru eisoes wedi gweld ail don o RSV eleni - cyflwr sydd yn aml yn achosi'r haint bronciolitis ar y fron yn achos babanod a phlant bach - er mae'n don ddiweddaraf yn arafu erbyn hyn.
Mae yna gynnydd hefyd yn nifer yr unigolion gyda Covid-19 sydd wedi gorfod mynd i'r ysbyty.
Gyda mwy o gymdeithasu dros gyfnod y Nadolig a'r Calan, mae ICC yn pwysleisio pwysigrwydd cael brechiad ffliw, ac i gymryd gofal arbennig o gwmpas pobl fwy bregus.
"Mae'r ffliw'n gallu bod yn ddifrifol, yn enwedig i'r rhai sy'n h欧n neu 芒 chyflwr iechyd sy'n fwy tebygol o gael cymhlethdodau oherwydd y ffliw," meddai Christopher Williams.
Mae'n annog pobl 芒 pheswch neu annwyd "i osgoi ei ledu, yn enwedig i bobl fregus, trwy aros adref tra eich bod yn s芒l".