Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Plaid Cymru eisiau codi trethi i bobl ar incwm uwch - cofnodion
- Awdur, James Williams
- Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 91Èȱ¬ Cymru
Mae grŵp Plaid Cymru yn Senedd Cymru wedi cefnogi codiadau treth incwm mawr ar gyfer pobl ar gyflogau uwch.
Pleidleisiodd mwyafrif o Aelodau o'r Senedd y blaid dros godiad o 4c i bobl oedd yn ennill dros £50,000, a chynnydd o 5c mewn cyflogau dros £150,000.
Dywedodd grŵp y blaid y gallai'r codiadau gael eu cyflwyno fel "treth undod" i helpu ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn ystod argyfwng costau byw.
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid eu bod wedi "galw'n gyson ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r holl rymoedd sydd ar gael iddi... i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw a diogelu gwasanaethau cyhoeddus".
Mae gan Lywodraeth Cymru rai pwerau treth incwm ers 2019, ond nid yw erioed wedi eu defnyddio.
Gall gweinidogion addasu pob cyfradd dreth - y gyfradd sylfaenol, y gyfradd uwch, a chyfradd ychwanegol - 10c ym mhob £1.
Ond nid oes gan weinidogion Cymru bwerau dros y lefelau incwm y mae pobl yn talu'r cyfraddau treth gwahanol arnynt.
Beth yw cyfraddau a bandiau treth incwm Cymru?
Lwfans Personol - hyd at £12,570 - 0c
Cyfradd sylfaenol: £12,571 - £50,270 - 20c ymhob £1
Cyfradd uwch - £50,271 - £150,000 - 40c ymhob £1
Cyfradd ychwanegol - dros £150,000 - 45c ymhob £1
Yn ôl cofnodion cyfarfod grŵp Plaid Cymru yn y Senedd a gynhaliwyd ym mis Hydref, pleidleisiodd saith Aelod o'r Senedd (AS) Plaid Cymru dros gynnydd mawr mewn treth incwm i'r rhai sy'n ennill dros £50,271, gyda thri AS yn pleidleisio yn erbyn y cynigion.
Cynhaliwyd y bleidlais ar "godi'r gyfradd dreth uwch 4c, a'r gyfradd dreth ychwanegol 5c".
Dywedodd y cofnodion: "Roedd nifer o aelodau'n cytuno â'r angen i godi'r cyfraddau uwch ac ychwanegol er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
"Gellir cyflwyno hyn fel treth undod tymor byr, at ddibenion penodol.
"Roedd rhai aelodau'n teimlo'r angen i ystyried goblygiadau gwneud hyn ymhellach, a'r annhegwch posib o godi'r dreth uwch ac ychwanegol i'r un graddau," meddai'r cofnodion.
Yn 2023/24, byddai cynnydd o 4c yn y gyfradd uwch o dreth incwm yn codi amcangyfrif o £132m, a byddai cynnydd o 5c yn y gyfradd ychwanegol yn codi £25m yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru.
'Treth undod'
Yn ei araith yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru, fe wnaeth arweinydd y blaid Adam Price AS godi'r posibilrwydd o "dreth undod" a dadlau y dylai pwerau treth incwm Cymru gael eu "defnyddio'n gynyddol i warchod y bregus ac amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus".
Ond mewn cyfweliad gyda rhaglen 91Èȱ¬ Politics Wales ar benwythnos cynhadledd Plaid Cymru, gwrthododd Adam Price ddweud faint fyddai'r blaid yn codi trethi incwm.
Dywedodd mai dim ond yn dilyn Datganiad yr Hydref gan Lywodraeth y DU, a gyflwynwyd ar 17 Tachwedd, y byddai'n bosibl "i roi'r manylion hynny".
"Ond gadewch i ni fod yn glir, mae angen i ni godi mwy o refeniw hefyd, ond dylid gwneud hynny mewn ffordd flaengar, ei wneud mewn ffordd sy'n seiliedig ar egwyddor y dylai'r rhai sy'n gallu cyfrannu ychydig yn fwy yn yr amser hwn o argyfwng wneud hynny" ychwanegodd.
Ar 18 Hydref, ychydig ddyddiau cyn cynhadledd y blaid, soniodd Adam Price am syniad o "dreth undod" yn y Senedd, a galwodd ar y prif weinidog i ystyried codi'r ddwy gyfradd uchaf o dreth incwm er mwyn "ein helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau ar wasanaethau lleol".
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford nad oedd "dim siawns" y byddai'r codiadau treth incwm "yn dechrau talu am y rhestr hir honno o ddibenion y dywedodd y byddai modd defnyddio'r arian hwnnw ar eu cyfer".
'Un o'r gaeafau caletaf'
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae holl Aelodau o'r Senedd Plaid Cymru wedi galw'n gyson ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r holl rymoedd sydd ganddi, gan gynnwys pwerau amrywio trethi, i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ac amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus.
"Mae Plaid Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig - cefnogi'r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau trwy un o'r gaeafau caletaf rydyn ni wedi'u hwynebu.
"Rydym yn edrych ymlaen at archwilio sut y gallai hyn edrych yn ymarferol dros yr wythnosau nesaf drwy graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru ac ymgysylltu â sefydliadau arbenigol allanol gan gynnwys Canolfan Llywodraethiant Cymru."
Mae disgwyl i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 gael ei chyhoeddi ar 13 Rhagfyr.