Swyddog heddlu wedi anfon negeseuon ff么n 'amhriodol'

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Cwnstabl Robert Davies o Heddlu Gwent yn gwadu camymddygiad difrifol

Anfonodd swyddog gyda Heddlu Gwent negeseuon "hollol amhriodol ac amhroffesiynol" at dair dynes, clywodd gwrandawiad disgyblu.

Mae'r Cwnstabl Robert Davies wedi'i gyhuddo o anfon negeseuon ff么n "awgrymog a digywilydd" gyda ff么n symudol o eiddo'r heddlu rhwng Ionawr a Mai 2020.

Clywodd gwrandawiad ei fod wedi methu 芒 chadw'r ffin hyd braich rhwng yr heddlu ac aelodau o'r cyhoedd.

Mae'r Cwnstabl Davies yn gwadu torri safonau oedd yn gyfystyr 芒 chamymddwyn difrifol.

Does dim cysylltiad rhwng y gwrandawiad ac ymchwiliad gan Heddlu Wiltshire i gyhuddiadau o gasineb at wragedd, llygredd a hiliaeth o fewn Heddlu Gwent.

'Breuddwydion drygionus'

Dywedodd Jonathan Walters QC fod ymddygiad PC Davies yn ymdebygu i "fflyrtio" a cheisio dilyn "perthynas rywiol neu fan lleiaf, berthynas emosiynol" gyda'r merched.

Clywodd y panel, yn hen bencadlys Heddlu Gwent ger Cwmbr芒n, fod y Cwnstabl Davies wedi anfon neges at un fenyw yn Ionawr 2020 oedd yn s么n am "freuddwydion drygionus".

Roedd y ddynes, gafodd ei hadnabod fel Ms A, yn adnabod PC Davies cynt, ond roedd wedi adnewyddu'r cysylltiad pan ofynnwyd iddo ymchwilio i drosedd yn erbyn ei chwaer.

Ar 么l i'r cysylltiad proffesiynol gyda Ms A ddod i ben, fe gysylltodd 芒 hi fis yn ddiweddarach.

Ysgrifennodd: "Dim hygs tan fod hyn drosodd, a wedyn efallai cusan hefyd."

Mewn neges arall fe ysgrifennodd: "Mae'n si诺r dy fod dal yn gymaint o hwyl ag erioed.

"Ro'n i'n meddwl amdanat yn bod yn ddrwg efo fi. Os ydi hynny'n swnio'n OK. Dwi angen rhywun sy'n hwyl."

Disgrifiad o'r llun, Clywodd y gwrandawiad bod y negeseuon dan sylw wedi eu gwneud o ff么n symudol o eiddo'r heddlu rhwng Ionawr a Mai 2020

Clywodd y panel bod Robert Davies mewn cysylltiad gyda dynes arall, Ms B, a oedd wedi treulio cyfnodau yn y carchar, ac a oedd "yn brwydro gyda dibyniaeth ar gyffuriau" yn Chwefror 2020.

Cyfarfu Ms B 芒'r heddwas pan oedd o'n delio gyda materion yn ymwneud 芒'i mab yn 2018, ac yn ddiweddarach gyda'i phartner yn 2020.

Cytunodd Ms B gyda chwnsler Cwnstabl Davies, David Sapiecha, pan ofynnodd iddi os oedd yr heddwas wedi bod yn "ofalgar, tosturiol a pharod ei gymorth".

Ond er iddi ddweud bod y negeseuon yn "ddiniwed" ar y cyfan, roedden nhw'n gallu bod yn "ddi-baid" gan "achosi dig ar brydiau".

Roedd rhai negeseuon, meddai, yn "anghyffredin" a doedd hi ddim yn si诺r o'i fwriadau.

Ychwanegodd: "Roedd o'n bod yn llawer mwy sylwgar a chyfeillgar na fyddai heddwas normal."

Mae'r gwrandawiad yn parhau ac mae disgwyl iddo bara am bedwar diwrnod.