Marchnad tai rhent yng Nghaerdydd yn 'boncyrs'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae ffigyrau gwefan dai yn dangos bod rhent am eiddo yng Nghaerdydd ar gyfartaledd dros 拢1,000 y mis
  • Awdur, Gareth Pennant
  • Swydd, Newyddion 91热爆 Cymru

Pan wnaeth y landlord godi rhent Martha Ifan a'i chariad o 拢950 i 拢1,300 y mis, fe ddaethon nhw i'r casgliad nad oedd hynny'n fforddiadwy.

Fe benderfynon nhw symud, a dyna pryd y sylweddolon nhw pa mor anodd oedd ffeindio lle i'w rentu yng Nghaerdydd.

Daw hynny wrth i un gwerthwr tai ddweud eu bod wedi derbyn 126 o ymholiadau am d欧 teras tair ystafell am 拢1,050 y mis - a bod hynny'n "eithaf cyffredin" yn y brifddinas.

Mae deddf newydd a fydd yn dod i rym yng Nghymru yn rhoi rhagor o hawliau i denantiaid, ond mae rhai yn ofni y bydd hi'n gwneud pethau'n fwy anodd i landlordiaid.

Beth ydy'r sefyllfa?

Mae ffigyrau gan y wefan eiddo Rightmove yn dangos bod costau rhentu yng Nghymru yn cynyddu'n gynt nag yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig tu allan i Lundain.

Mae un corff sy'n ymwneud 芒 thai yn dweud bod y pandemig a'r argyfwng costau byw wedi rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar farchnad rentu, ble roedd prinder eiddo yn barod.

Mae cyfraddau llog uchel, chwyddiant, diffyg tai a landlordiaid yn gwerthu oherwydd rheolau newydd yn cael eu cynnig fel rhesymau dros y galw a'r costau cynyddol yn y farchnad rentu.

Mae ffigyrau Rightmove hefyd yn dangos bod rhent am eiddo yng Nghaerdydd rhwng mis Gorffennaf a Medi eleni ar gyfartaledd yn 拢1,041, o'i gymharu 芒 拢870 yr un adeg y llynedd - cynnydd o 19.6%.

Yng Nghymru, mae'n awgrymu bod y gost am eiddo i'w rentu ar gyfartaledd yn 拢974 - 15% yn uwch na'r llynedd.

Disgrifiad o'r llun, Penderfynodd Martha Ifan a'i chariad symud t欧 oherwydd 拢350 o gynnydd yn eu rhent

Ym mis Mai fe glywodd Martha a'i chariad bod eu rhent am gynyddu 拢350.

"Oedd e'n dipyn o sioc," meddai. "Fe wnaethon ni feddwl am y peth a doedden ni jyst methu fforddio talu gymaint 芒 hynny bob mis.

"Oedden ni'n goro' mynd ati wedyn ar bach o hast i ffeindio rhywle newydd a dyna pryd wnaethon ni ffeindio mas gymaint o her yw hi i ddod o hyd i rywle i fyw, i rentu yng Nghaerdydd."

Dywedodd bod y prisiau yn "silly o uchel" a bod ciw o bobl y tu allan i dai wrth iddyn nhw ymweld.

"Oedd e'n awyrgylch eithaf amhleserus," ychwanegodd.

Ar 么l tua wyth wythnos o chwilio fe gawson nhw le, ond mae eu profiad nhw yn gyffredin yn y brifddinas.

Disgrifiad o'r llun, Does dim digon o dai a fflatiau ar gael i'w rhentu yng Nghaerdydd meddai'r gwerthwr tai Gwyn Davies

Mae'r cwmni gwerthu tai Jeffrey Ross wedi disgrifio marchnad rentu Caerdydd fel un "boncyrs".

Dywedodd Gwyn Davies, sy'n gweithio yn eu hadran rentu: "Mae gormod o bobl yn edrych a does dim digon o dai a flats iddyn nhw symud mewn i.

"Mae'n dda i landlords achos mae lot o bobl yn dangos diddordeb, ond pan mae'n dod i'r tenant sy'n edrych, ma' fe'n anodd i ni i ddangos y llefydd i bawb."

Mae'r gwerthwr tai yn dweud fod tua 100 o bobl yn gallu dangos diddordeb mewn eiddo yn y brifddinas, ac roedd yna 250 o ymholiadau ar gyfer un eiddo.

Pryder am fwy o ddigartrefedd

Mae deddf newydd a fydd yn dod i rym yng Nghymru yn rhoi rhagor o hawliau i denantiaid.

Ond mae rhai yn dadlau y bydd Deddf Rhentu Tai Cymru yn gwneud pethau'n anoddach ac yn fwy cymhleth i landlordiaid.

Mae rhai yn credu y bydd nifer yn gwerthu eu tai, gan olygu y bydd hyd yn oed llai o dai rhent ar gael.

Disgrifiad o'r llun, Mae pryder y bydd cynnydd yn nifer y digartref oherwydd prinder tai cymdeithasol, medd Matt Dicks

Mae Sefydliad Tai Siartredig Cymru yn dweud bod cost eiddo yn y sector rhentu preifat yn aml yn rhy uchel oherwydd y galw, a'r ffaith fod bod nifer yr eiddo sydd ar gael yn lleihau.

Dywedodd eu cyfarwyddwr, Matt Dicks: "Mae yna brinder sylweddol o dai ar rent sy'n rhai fforddiadwy a chymdeithasol hefyd, felly beth sy'n bryderus yw gallwn ni weld cynnydd yn nifer y digartref o ganlyniad.

"Dyma ganlyniad dim digon o dai cymdeithasol a fforddiadwy yn hanesyddol. Byddai mwy o dai fforddiadwy yn ein hynysu rhag tueddiadau anweladwy'r farchnad ry'n ni'n weld ar hyn o bryd.

"Ond roedd hynny yn wir am gyfnod hir cyn y pandemig a'r argyfwng costau byw. Mae'r ddau ddigwyddiad yma wedi darparu chwistrelliad o steroid i beth oedd yn barod yn brinder mawr o dai."

Disgrifiad o'r llun, "Mae'r esgid fach yn gwasgu ar landlordiaid hefyd," meddai Heddyr Gregory o Shelter Cymru

Un o'r prif resymau am y sefyllfa bresennol yw'r diffyg tai cymdeithasol - tai sy'n rhatach na'r rheiny sydd ar y farchnad agored. Mae 'na 89,000 o aelwydydd erbyn hyn ar y rhestr aros yn disgwyl am un.

"Oherwydd bod y prinder stoc tai yna mae'n rhaid i bobl ddibynnu ar y sector rhentu preifat," meddai Heddyr Gregory o elusen Shelter Cymru.

Mae hi'n dweud bod landlordiaid bellach yn dechrau gwerthu eu heiddo a bod yna "nifer o resymau" am hynny.

"Ry'n ni'n gwybod bod prisiau tai ar eu hucha' a bod darogan bod crash am ddigwydd, ac felly mae pobl eisiau gwerthu eu heiddo tra bod eu prisiau ar eu huchaf," meddai.

"Mae'r esgid fach yn gwasgu ar landlordiaid hefyd - mae'n rhaid i ni beidio anghofio hynny - oherwydd y cyfraddau llog uchel bellach ar forgeisi a nifer wedi cymryd benthyciadau prynu er mwyn rhentu.

"Dyw hynny ddim bellach yn fodel busnes cynaliadwy."