Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Costau byw: 'Diffodd y golau i arbed arian wrth ofalu am Mam'
- Awdur, Gareth Pennant
- Swydd, Newyddion 91热爆 Cymru
Bob dydd ers tair blynedd, mae Ceri Higgins wedi bod yn gofalu am ei mam sydd 芒 phroblemau iechyd gwahanol.
"Mae'n lot o straen," meddai, "ond yn amlwg ni'n rhoi'r gefnogaeth am ein bod ni'n caru ein teuluoedd."
Mae Ceri, sy'n dod o Donteg yn Rhondda Cynon Taf, yn un o dros hanner miliwn o ofalwyr di-d芒l yng Nghymru.
Mae yna alwadau iddyn nhw gael rhagor o gymorth i'w helpu drwy'r argyfwng costau byw.
Yn 么l Llywodraeth Cymru maen nhw'n darparu cefnogaeth "anferthol" i ofalwyr drwy ddarparu grantiau gwahanol.
Mae Ceri yn helpu ei mam i symud, ei bwydo a rhoi meddyginiaethau iddi ymysg pethau eraill. Cyn hynny, bu'n gofalu am ei thad am 15 mlynedd.
"Dwi ar alwad 24 awr y dydd ac mae'r nosweithiau yn clymu i mewn i un," meddai.
"Ar 么l bod yno drwy'r dydd a gadael a dod adref, weithiau mae'r larwm yn mynd, mae'r lifeline yn mynd felly mae'n rhaid i fi fynd yn 么l [ati].
Bellach mae Ceri yn astudio gradd iechyd a gofal cymdeithasol drwy'r Brifysgol Agored.
"Mae [gofalu] wedi newid fy mywyd i a bendant wedi newid pwy ydw i," ychwanegodd.
"Dwi heb gael yr un cyfleoedd 芒 phobl eraill a ddim yn gallu cymdeithasu yn yr un ffordd.
"Fi ddim yn cysgu oherwydd pryderon bod mam yn OK."
'Diffodd y golau a'r teledu'
Gyda chostau bywyd bob dydd yn cynyddu, mae'n rhaid torri'n 么l.
Er mwyn arbed arian dydyn nhw ddim yn rhoi'r teledu ymlaen yn nh欧 ei mam mor aml na'r golau chwaith.
Yn 么l Ceri mae'r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau ychwanegol arnyn nhw fel teulu, ac mae hi'n gofyn: "Ble mae'r help yn dod i dalu am y biliau yna?"
Mae hi hefyd yn ddibynnol ar aelodau eraill o'i theulu i'w helpu gyda'r costau cynyddol.
"Fi'n goro' ymddiried ar bobl eraill i gefnogi fi'n ariannol sydd yn beth ofnadwy rili i orfod dibynnu ar rywun arall achos bo' chi ffaelu cefnogi'n hunan yn ariannol. Mae'n straen ofnadwy."
Mae gwaith ymchwil ar ran Gofalwyr Cymru, elusen sy'n cefnogi gofalwyr di-d芒l yng Nghymru, yn amcangyfrif bod tua 23% o oedolion Cymru (584,134) yn gofalu am aelod o deulu neu ffrind oherwydd cyflyrau cronig.
Cyn y pandemig, maen nhw hefyd yn credu bod gofalwyr di-d芒l yn arbed 拢8.1bn i Gymru bob blwyddyn gan eu bod yn rhoi gofal y byddai'n rhaid i wasanaethau gofal a chymdeithasol ddarparu fel arall.
Mae Gofalwyr Cymru yn dadlau y dylai cefnogi gofalwyr fod yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a'r Deyrnas Unedig.
"Os nad ydyn nhw yn gallu cario ymlaen i ofalu bydd effaith enfawr ar wasanaethau statudol dros Gymru," meddai Beth Evans, swyddog polisi'r elusen.
"Mae o ddiddordeb i bawb i ofalu am ofalwyr a gwneud yn si诺r bod y gefnogaeth a'r gefnogaeth ariannol yna i alluogi nhw i barhau yn eu swyddi."
Mae'r elusen, sy'n rhan o Ofalwyr y Deyrnas Unedig, wedi gwneud nifer o argymhellion i'r ddwy lywodraeth.
Rhan o hynny yw ceisio sicrhau bod 'na gefnogaeth i ofalwyr a'u bod nhw'n cael eu hystyried fel gr诺p sy'n flaenoriaeth ac o dan risg yn holl strategaethau a pholis茂au gwrth dlodi Llywodraeth Cymru.
'Cydnabod r么l gwerthfawr gofalwyr'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n darparu cefnogaeth "anferthol" i ofalwyr di-d芒l yng Nghymru, er enghraifft darparu taliad o 拢500 i'r rheiny sy'n derbyn Lwfans Gofalwyr.
"Ry'n ni hefyd yn darparu grantiau o hyd at 拢300 y flwyddyn drwy'r gronfa Cefnogi Gofalwyr yn ogystal 芒 拢200 i helpu gyda chostau tanwydd," ychwanegodd.
"Dyw'r brif gefnogaeth i ofalwyr di-d芒l - y Lwfans Gofalwyr - heb ei ddatganoli.
"Ry'n ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i geisio gwneud newidiadau i Lwfans Gofalwyr fel bod mwy o bobl yn gymwys."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Ry'n ni'n cydnabod r么l werthfawr gofalwyr di-d芒l ac ry'n ni wedi ein hymrwymo i'w helpu yn ariannol, yn ogystal 芒'u hiechyd, lles a chyfleodd gwaith.
"Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys elfen i ofalwr sydd werth mwy na 拢160 y mis ac ers 2010 ry'n ni wedi cynyddu y Lwfans Gofalwyr, gan roi 拢700 yn ychwanegol yn eu bocedi.
"Mae'r rheiny sy'n derbyn Lwfans Gofalwyr hefyd yn gallu derbyn rhagor o gefnogaeth, gan gynnwys budd-daliadau."