Chwyddiant am gael 'effaith andwyol' ar waith S4C

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Rhodri Williams fod chwyddiant yn "sicr o gael effaith andwyol" ar y gyllideb i greu rhaglenni newydd i S4C

Mae un o benaethiaid S4C wedi cydnabod fod heriau ariannol mawr ar y gorwel wrth i chwyddiant frathu i'w chyllideb.

Gyda'r wythnos hon yn dynodi 40 mlynedd ers sefydlu'r sianel deledu Gymraeg, mae'r darlledwr yn bodoli o fewn byd cyfryngol gwahanol iawn erbyn hyn.

Tra mai dim ond pedair sianel oedd yn bodoli yng nghanol yr 80au, mae'r her yn un fwy nag erioed gyda chymaint o gystadleuaeth a llai o wylwyr teledu torfol.

Erbyn hyn mae cyllideb gyhoeddus S4C yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl drwy ffi drwydded y 91热爆, gyda Llywodraeth y DU wedi cyfrannu peth o gostau'r sianel yn flaenorol.

Ond er bod cyllid y sianel yn ddiogel am y bum mlynedd nesaf ar 么l sicrhau setliad o 拢7.5m ychwanegol y flwyddyn, mae pryderon y bydd y lefel uchel o chwyddiant yn arwain at benderfyniadau anodd i benaethiaid.

Yn gynharach eleni cadarnhaodd cyn-Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Nadine Dorries, y byddai 9% o gynnydd yng nghyllideb S4C wedi i'w chyllid gael ei rewi am bum mlynedd cyn hynny.

Disgrifiad o'r llun, Mae pencadlys S4C, Yr Egin, yng Nghaerfyrddin

Ond gyda chwyddiant wedi codi'n uwch na 10% am yr eildro eleni, mewn cyfweliad ar raglen Dros Ginio 91热爆 Radio Cymru roedd cadeirydd S4C yn egluro fod heriau mawr yn parhau i wynebu'r sianel.

Dywedodd Rhodri Williams, sy'n gyn-gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg a chyn-chyfarwyddwr Ofcom Cymru: "Y newyddion da yw bod gyda ni sicrwydd ariannol am gyfnod o bum mlynedd, sydd yn beth da.

"Pam glywon ni y newydd hynny rhyw gyfnod yn 么l, oedd e'n newyddion da iawn.

"Ond beth o'n ni ddim wedi paratoi ar ei gyfer bryd 'ny oedd chwyddiant ar y lefel mae e heddi, ac yn debygol o barhau am beth amser.

"Mae hynny yn sicr o gael effaith andwyol ar ein gwaith ni. Ry'n ni wrthi ar hyn o bryd yn gwneud darn o waith yn edrych 'mlaen dros bum mlynedd ac yn trial gweithio mas beth yn gwmws fydd effaith y chwyddiant hwnnw."

Canolbwyntio ar gyrraedd pobl ifanc

Ychwanegodd bod heriau eraill yn wynebu'r sianel i sicrhau amlygrwydd i gynnwys yn yr iaith Gymraeg ar-lein, gyda phobl ifanc "prin y gwylio teledu llinol o gwbl".

"Mae'n rhaid mynd ati i ddysgu ble mae pobl yn edrych, pa fath o hyrwyddo a marchnata sydd yn eu cyrraedd nhw a defnyddio'r technegau hynny yn effeithiol," meddai Mr Williams.

Yn cydnabod y bydd trafodaethau am ddyfodol y drwydded dros y blynyddoedd nesaf, dywedodd Mr Williams nad yw'r system bresennol "yn berffaith", ond "fod y fformiwla bresennol yn gweithio".

Serch hynny, mae'n credu bod lle i edrych ar y ffaith fod y teuluoedd tlotaf a'r mwyaf cyfoethog oll yn talu'r un faint am ddarlledu cyhoeddus.

Ychwanegodd fod "cefnogaeth o bob plaid" tuag at ddyfodol darlledu yn yr iaith Gymraeg.

Disgrifiad o'r llun, Rhodri Williams oedd cyfarwyddwr Ofcom Cymru rhwng 2004 a 2018 cyn dod yn gadeirydd S4C yn 2020

"Bydd 'na ddewisiadau anodd ac i fi cadw'r safon - sicrhau fod 'na raglenni gafaelgar yna - sydd yn gorfod cael y flaenoriaeth," meddai.

"Felly os ydy hynny'n golygu cwtogi rhywfaint ar yr arlwy, cynyddu'r nifer yr ailddarllediadau ar ein gwasanaeth llinol... dyw ailddarllediadau ddim yn bod yn y byd digidol - mae popeth yna am gyfnod hir - ond os dy'n ni'n gorfod gwneud hynny dwi'n credu dyna fydd rhaid gwneud.

"Ar ddiwedd y dydd does 'na ddim pwrpas o gwbl i wanhau ansawdd y gwasanaeth i'r graddau bod neb yn dymuno edrych ar ein cynnyrch ni.

"Dyna fydd y flaenoriaeth a dwi'n gobeithio erbyn yn gynnar yn y flwyddyn newydd, pan fyddwn yn gwybod mwy am yr hyn sy'n digwydd yn economaidd, byddwn ni mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau strategol - rhai falle yn rai anodd - i sicrhau bod yr hyn sydd ganddon ni yn parhau i fod yn ddeniadol i siaradwyr Cymraeg."