Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y Brenin Charles i gael ei goroni fis Mai nesaf
Bydd y Brenin Charles yn cael ei goroni'n swyddogol ym mis Mai 2023.
Dywedodd Palas Buckingham y bydd y seremoni'n cael ei gynnal yn Abaty Westminster ar 6 Mai.
Archesgob Caergaint fydd yn arwain y seremoni a bydd y Frenhines Gydweddog, Camilla, yn cael ei choroni hefyd.
"Adlewyrchu r么l y Brenin heddiw ac edrych i'r dyfodol" fydd nod y seremoni, yn 么l y Palas.
Ond dywedon nhw y bydd "wedi ei wreiddio mewn traddodiadau a phasiant".
Mae'r seremoni yn ddathliad ac yn wasanaeth grefyddol sydd wedi ei gynnal ers canrifoedd.
Dywedodd y Palas y bydd y seremoni yn "cynnwys yr un elfennau creiddiol" tra'n "cydnabod ysbryd ein hoes".
Mae disgwyl i'r Brenin arwyddo proclomasiwn sy'n cyhoeddi dyddiad y Coroni yn swyddogol mewn cyfarfod gyda'r Cyfrin Gyngor yn ddiweddarach eleni.