Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynlluniau i gau safle Ambiwlans Awyr Caernarfon
- Awdur, Elen Wyn
- Swydd, Newyddion S4C
Mae Newyddion S4C yn deall bod Ambiwlans Awyr Cymru (AAC) yn ystyried cau ei safle yng Nghaernarfon fel rhan o gynlluniau i symud gwasanaethau i un ganolfan yn y gogledd.
Mae'r elusen yn gwrthod cadarnhau hyn ond yn dweud bod nifer o opsiynau yn cael eu hystyried gyda'r bwriad o gryfhau gwasanaethau.
Bydd Caffi AAC yng nghanolfan Dinas Dinlle yn cau ddiwedd y mis.
Mae'r cynlluniau i gau safle'r Trallwng eisoes wedi denu gwrthwynebiad cryf yn y canolbarth, a r诺an mae ymgyrch wedi dechrau i achub y safle yng Ngwynedd.
Yn 么l yr elusen byddai'r ad-drefnu yn caniat谩u iddyn nhw wneud hyd at 600 o hediadau ychwanegol ar draws Cymru mewn blwyddyn.
Mae rhai gwleidyddion lleol yn galw am ymchwiliad i'r cynlluniau,ac fe fydd cyfarfod brys i drafod y newidiadau posib yn Ninas Dinlle ddydd Sadwrn.
Ymgyrch
Mae'r 91热爆 wedi gofyn i AAC am eglurhad yngl欧n 芒'u cynlluniau ar gyfer y safle yng Nghaernarfon, ond dywedodd llefarydd ar ran yr elusen eu bod yng nghamau cynnar y broses, ac "y byddan nhw'n parhau i ddiweddaru ein cefnogwyr wrth i bethau fynd yn eu blaenau".
Mae deiseb ar-lein i achub safle Caernarfon wedi denu dros 2,500 o lofnodion.
Dechreuodd Andy O'Regan ymgyrch Facebook a deiseb ddechrau Hydref ar 么l dilyn a chefnogi ymgyrch tebyg yn Y Trallwng.
"Mae Elusen AAC angen ein cefnogaeth, mae ein cymunedau angen ein cefnogaeth," meddai.
"Mae ein gr诺p a'n deiseb wedi'u sefydlu i godi ymwybyddiaeth o'r cynigion posib i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru Caernarfon a'r Trallwng a'u symud i leoliad o bosib yn Rhuddlan, ger y Rhyl, ac i ddangos yr effaith andwyol y bydd hyn yn ei gael ar y cymunedau lleol dan sylw."
Ar hyn o bryd, mae pedair canolfan - yn Y Trallwng, Caernarfon, Llanelli a Chaerdydd.
Pe bai'r cynlluniau arfaethedig yn mynd yn eu blaenau, mae disgwyl y byddai'r hofrennydd a'r cerbyd ymateb brys yn Y Trallwng a Chaernarfon yn cael eu symud i safle arall gyda chynnydd mewn oriau gweithredu o 12 i 18 awr y dydd.
Y gred ydy mai hen ganolfan hofrennydd Heddlu Gogledd Cymru yn Rhuddlan, Sir Ddinbych ydy'r safle sy'n cael ei ffafrio, ond nid oedd yr elusen yn fodlon cadarnhau.
Mae gwrthwynebwyr y cynlluniau yn poeni y bydd ardaloedd gwledig ar eu colled.
Gwirfoddolwr yn siomedig
Dywedodd Alun Shorney o Gaernarfon, sy'n gwirfoddoli efo'r Ambiwlans Awyr ers 2014, y byddai symud canolfannau Caernarfon a'r Trallwng i un lleoliad canolog yn golled.
"Yr oriau gwaith a ddyfynnwyd gan Brif Swyddog Gweithredol y AAC yw 8 tan 8 ar gyfer un awyren a 2 tan 2 ar gyfer yr awyren arall," meddai.
"I mi, mae hyn yn golygu pe bai dau ddigwyddiad ar yr un pryd yn y gogledd - dim ond un hofrennydd fyddai ar gael i fynd.
"Mae hyn yn bendant yn golled neu'n ostyngiad o gymharu 芒'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd.
"Yn gyffredinol, dwi'n credu mai'r hyn sydd ei angen cyn cymryd y cam enfawr yma ydy ymestyn yr oriau gwaith yn y canolfannau presennol."
Ychwanegodd: "Mae AAC yn gwneud gwaith gwych yn gofalu am yr arian sy'n cael ei roi, ei wario mewn siopau, ei gasglu, ewyllysiau ac ati ac maen nhw wedi datblygu'n gyflym iawn i fod yn elusen gwirioneddol dda, effeithiol ac effeithlon - yn gweithio i bobl Cymru."
'Safio pres dim safio bywydau'
I Mattie Bostock a Myra Cook, dwy chwaer sy'n byw yn Llandwrog, y pentref agosaf at yr Ambiwlans Awyr yn Ninas Dinlle, mae'r cynlluniau posib i gau'r safle yn siom.
"'Di o'm yn 'neud sens i mi... mae'r mynyddoedd yn fan hyn," meddai Myra.
"Mae cymaint o bobl yn dod i'r Wyddfa a'r mynyddoedd eraill, a mae'r maes awyr yn fa'ma efo'r ambiwlans yn barod yma tydi?
"Cuts 'di hynna i gyd, ia? Safio pres dim safio bywydau," meddai Mattie.
Gwadu hynny mae Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae'r elusen yng nghanol proses o ad-drefnu ac yn dweud mai cryfhau'r gwasanaeth ydy'r bwriad.
Cyrraedd mwy o gleifion
Maen nhw'n credu y byddai'r newidiadau yn eu galluogi i gyrraedd mwy o gleifion bob blwyddyn, ond maen nhw'n pwysleisio nad oes penderfyniad terfynol wedi ei wneud.
Dywedodd Mark James, un o'u hymddiriedolwyr: "Fel rhan o'r broses ry'n ni wedi gofyn odi'r hofrenyddion iawn 'da ni, yn y llefydd iawn, gyda'r criwie iawn yn gweithio'r shiffts gore.
"Yn gyflym iawn da'th y ffigyre n么l i ddweud allwn ni 'neud pethe'n wahanol a chyrraedd mwy o gleifion bob blwyddyn. Rhywbeth fel 600 o gleifion ychwanegol i gymharu 芒 be ni'n 'neud nawr.
"Mae'n bwysig dweud gyda llaw, ni 'di bod yn hedfan dros ugain mlynedd a bob tro ry'n ni'n trio ehangu, trio datblygu'r gwasanaeth, ry'n ni'n treial 'neud y peth gore posib i bobl Cymru, ac nid dim ond mewn un lleoliad, ond Cymru gyfan a 'na beth sy'n digwydd fan hyn.
"Mae'n rhaid i ni 'neud rhywbeth. Os ry'n ni ddim yn 'neud y newidiadau mae'r ffigyrau yn awgrymu, fyddwn ni byth yn mynd i'r 600 o gleifion ychwanegol ry'n ni'n s么n amdano a fydd pobl falle'n dweud bod yr elusen yn esgeulus yn y ffordd i ni'n bihafio."
Pwysleisiodd hefyd nad oedd y cynlluniau yn ymwneud ag arbed arian: "Alla'i ddweud yn glir, dyw hwnna ddim byd i 'neud 芒'r holl beth."
Mae鈥檔 flin gennym ein bod yn cael trafferth dangos y post hwn.
Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.Diwedd neges Facebook
Mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth AS wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o ffigyrau'r elusen.
"Dydw i ddim wedi cael fy argyhoeddi efo ffigyrau sy'n awgrymu y gallai symud hofrenydd ymhellach oddi wrth bobl, roi gwasanaeth gwell iddyn nhw," meddai.
"Ar hyn o bryd, yr hyn dwi'n ei weld ydy cynigion allai waethygu gwasanaeth i filoedd o bobl yn rhai o'r ardaloedd anodd eu cyrraedd yng Nghymru."
Mae rhai o aelodau senedd Plaid Cymru wedi sgwennu at y prif weinidog yn gofyn iddo gynnal arolwg annibynnol i'r data sy'n sail i ystyriaethau'r adrefnu.
Mewn ymateb, dywedodd swyddfa'r prif weinidog y bydd Mark Drakeford yn ymateb i'r llythyr maes o law.