Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi 拢100m i gryfhau darpariaeth gofal plant
- Awdur, Llyr Edwards
- Swydd, Newyddion 91热爆 Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n buddsoddi 拢100m yng ngofal plant yng Nghymru.
Mae'r cyllid yn cynnwys 拢26m ar gyfer cam nesaf ehangu gofal plant rhan-amser Dechrau'n Deg a 拢70m ar gyfer gwelliannau a gwaith cynnal a chadw hanfodol i bob lleoliad gofal plant.
Hefyd bydd 拢3.8m yn cael ei roi i ddarparwyr gofal plant ar gyfer gwella eu darpariaeth Gymraeg.
Mae'r buddsoddiad yn rhan o gynllun graddol i ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg, sydd yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Si芒n Gwenllian y cyllid wrth ymweld 芒 meithrinfa Cylch Meithrin yn Abergele.
Dywed Ceri Bailey o Abergele bod ei thri phlentyn wedi cael addysg feithrin Gymraeg drwy Dechrau'n Deg ac na fyddai hynny wedi digwydd heb y cynllun.
"Mae sicrhau llefydd fel hyn yn gwbl allweddol," meddai, "ac mae'n rhoi dechrau da i blant."
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig y byddai'n well cael trefn rhoi taleb i bob teulu sy'n derbyn Credyd Cynhwysol.
"Ar hyn o bryd mae loteri cod post yn golygu bod rhai teuluoedd cefnog yn elwa ar y cynllun tra bod rhai teuluoedd difreintiedig yng Nghymru ddim yn gymwys," meddai.
Dechrau'n Deg
Mae Dechrau'n Deg yn helpu teuluoedd sydd 芒 phlant ifanc yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ac mae'n cynnwys gofal plant safonol rhan-amser am ddim i blant rhwng dwy a thair oed sy'n byw yn yr ardaloedd hynny.
Fis Ebrill cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai hyd at 2,500 yn fwy o blant yn gymwys ar gyfer gwasanaethau Dechrau'n Deg ar draws Cymru. Dechreuodd cam cyntaf y rhaglen ym mis Medi.
Bydd ail gam yr ehangu yn gwneud mwy na 3,000 yn fwy o blant dwy oed yn gymwys ar gyfer gofal plant Dechrau'n Deg o fis Ebrill 2023, gyda 拢11.65m wedi ei ddyrannu ar gyfer 2023/24 a 拢14.3m ar gyfer 2024/25.
Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol yn ystyried pa ardaloedd fydd yn cael eu cynnwys fel rhan o gam dau, a bydd teuluoedd cymwys yn cael gwybod am hynny yn y flwyddyn newydd.
Mae'r 拢70m ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau a gwaith cynnal a chadw ar gael i bob lleoliad gofal plant cofrestredig, a gallant ymgeisio drwy eu hawdurdod lleol. Bydd ceisiadau yn amrywio o wneud m芒n waith diweddaru i ofodau awyr agored i adeiladu cyfleusterau newydd.
Mae'r gefnogaeth o 拢3.8m ar gyfer darpariaeth Gymraeg yn cynnwys cynyddu nifer y clybiau ar 么l ysgol cyfrwng Cymraeg cofrestredig yn ogystal 芒 hyfforddi a chynorthwyo ymarferwyr i wella eu Cymraeg a throsglwyddo hynny i'r plant yn eu lleoliadau.
'Darparu cyfleusterau rhagorol'
Dywedodd Julie Morgan: "Mae ein buddsoddiad parhaus yn y sector gofal plant yn helpu i ddarparu cyfleusterau rhagorol i blant ar draws Cymru yn ogystal 芒 chefnogi effeithiau cadarnhaol hirdymor ar fywydau plant a theuluoedd drwy'r rhaglen Dechrau'n Deg.
"Mae'n amlwg bod darpariaeth o safon uchel yn ystod y blynyddoedd cynnar yn cefnogi datblygiad y plentyn ac yn chwarae r么l bwysig o safbwynt sicrhau bod gan bob plentyn y dechrau gorau mewn bywyd a bod pob plentyn yn mwynhau dysgu, yn ehangu ei wybodaeth ac yn gwireddu ei botensial.
"Rwy'n arbennig o falch o fuddsoddi mewn darpariaeth Gymraeg er mwyn cynyddu nifer y lleoliadau cyfrwng Cymraeg a nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y gweithlu."
Ychwanegodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Si芒n Gwenllian: "Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu mai sicrhau mynediad at ofal ac addysg blynyddoedd cynnar yw un o'r camau pwysicaf y gallwn eu cymryd i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant.
"Drwy symud ymlaen ac ehangu darpariaeth gofal plant am ddim, a'i gyflwyno'n raddol i bob plentyn dwy oed, gallwn wneud gwir wahaniaeth i flynyddoedd ffurfiannol plant ledled Cymru.
"Mae plant yn dysgu ac yn elwa cymaint ar ddarpariaeth gofal plant safonol - mewn gwirionedd mae'r hyn sydd yn edrych fel chwarae syml yn brofiad addysgol pwysig lle mae plentyn yn dysgu ac yn cymdeithasu mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar.
"Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio 芒 Llywodraeth Cymru er mwyn darparu'r ymrwymiad pwysig hwn i'n holl gymunedau."
'Manteisio ar y cynnig'
Dr Gwenllian Lansdown Davies ydy Prif weithredwr y Mudiad Meithrin, ac mae hi wedi croesawu'r cyhoeddiad.
Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mae ehangu'r cynllun Dechrau'n Deg a darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o brif amcanion y cynllun yma a'n gobaith ni felly ydi y bydd 'na genhedlaeth o blant a fyddai heb gael mynediad i ofal plant cyfrwng Cymraeg, o'r diwedd yn gallu manteisio ar hynny oherwydd fod y cynllun Dechrau'n Deg yn cael ei ehangu i bob plentyn dwy flwydd oed maes o law.
"Mae hynny'n bwysig oherwydd mae o'n galluogi rhieni na fyddai'n gallu fforddio yn draddodiadol i dalu ffioedd preifat i yrru plentyn i gylch meithrin yn ddwy oed, i gymryd mantais ar y cynnig yma.
"Felly mae'n arbennig o bwysig bod cylchoedd meithrin a meithrinfeydd dydd cyfrwng Cymraeg yn manteisio ar y cynnig yma i ehangu pan fydd y cynnig ar gael iddyn nhw yn eu hardal nhw."