Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y Trallwng: Cyfarfod i drafod dyfodol safle'r Ambiwlans Awyr
- Awdur, Craig Duggan
- Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru
Daeth tua 60 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Y Drenewydd nos Wener wrth i ymgyrchwyr wrthwynebu cynlluniau i gau safle'r Ambiwlans Awyr yn y canolbarth.
Pe bai'r cynlluniau'n mynd yn eu blaenau, byddai'r hofrennydd a'r cerbyd ymateb brys yn Y Trallwng yn cael eu symud i safle yn y gogledd.
Ond mae'r penderfyniad wedi cythruddo ymgyrchwyr, sydd wedi datgan "pryder gwirioneddol".
Yn 么l yr elusen, canoli'r ddarpariaeth yn y gogledd a'r de yw'r "ffordd fwyaf effeithlon o ddefnyddio adnoddau".
Mae'r gwrthwynebwyr yn dweud ei bod hi'n hanfodol bod y ganolfan yn aros yn Y Trallwng a bod y gwasanaeth yn "hynod bwysig i Bowys" oherwydd natur wledig y sir.
Mae bron i 12,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein a miloedd o lofnodion eraill ar ddeisebau papur.
Dywedodd Aelod y Senedd Ceidwadol Sir Drefaldwyn, Russell George wrth y cyfarfod ei bod yn debygol y bydd elusen Ambiwlans Awyr Cymru (AAC) yn gwneud penderfyniad terfynol cyn diwedd y flwyddyn, ond y byddai unrhyw newidiadau yn cymryd dwy i dair blynedd i'w gweithredu.
Galwodd hefyd ar AAC i ryddhau'r data a ddefnyddiwyd er mwyn cynnig yr ad-drefnu, fel bod modd eu hasesu yn annibynnol.
Cafodd y ddeiseb ar-lein ei lansio gan y Cynghorydd Joy Jones o'r Drenewydd - ble fu'r cyfarfod yn cael ei gynnal.
"Mae angen i ni roi'r cyfle i'r cyhoedd ddweud pam ei bod yn bwysig i'r ardal hon i gadw'r Ambiwlans Awyr a'r cerbydau ymateb cyflym," meddai cyn y cyfarfod.
"Yng nghanolbarth Cymru, ry'n ni'n cael trafferth gydag ambiwlansys sy'n gorfod mynd dros y ffin i Swydd Amwythig neu'n bellach i ffwrdd, lle maen nhw'n aml yn gallu eistedd am oriau lawer, a methu dod yn 么l i mewn i'r sir i helpu pobl sydd angen cymorth."
Ond mae ymddiriedolwyr AAC yn credu y byddai ad-drefnu'r canolfannau yn eu galluogi i helpu mwy o bobl - gan gynnwys trigolion y canolbarth.
Ar hyn o bryd mae pedair canolfan - yn Y Trallwng, Caernarfon, Llanelli a Chaerdydd.
Byddai'r cynnig yn golygu uno'r Trallwng a Chaernarfon i un lleoliad yng ngogledd Cymru, a chynnydd mewn oriau gweithredu o'r ganolfan newydd o 12 i 18 awr y dydd.
Mwy o deithiau
Mae AAC - oedd ddim wedi gyrru cynrychiolydd i'r cyfarfod cyhoeddus nos Wener - yn credu y byddai'r newidiadau yn golygu y gallai'r gwasanaeth "fynychu hyd at 583 o deithiau ychwanegol bob blwyddyn".
Mae'r ambiwlansys awyr yn cario meddygon adrannau brys sy'n gallu rhoi gofal o ansawdd uwch i gleifion yn y fan a'r lle. Dywed AAC bod y gwasanaeth bellach fel "mynd 芒'r ysbyty at y claf".
Dywedodd Mark James, un o ymddiriedolwyr yr elusen: "Mae pobl yn meddwl bod yr hofrennydd yn Y Trallwng dim ond yn cyfro'r canolbarth - wel dim ond tua 30% o'r galwadau mae'r hofrennydd yna yn ymateb iddyn nhw sydd yn y canolbarth, mae'n mynd dros Gymru gyfan."
Ychwanegodd Mr James nad yw'r ad-drefnu yn ymwneud 芒 thorri costau.
Tra bod dadansoddiad AAC yn awgrymu cynnydd posib yn y cleifion sy'n cael eu helpu gan y gwasanaeth ym mhob sir yng Nghymru, mae gwrthwynebwyr yn ofni y bydd ardaloedd trefol yn elwa mwy nag ardaloedd gwledig.
Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan sy'n cynrychioli ardal yn nyffryn Dyfi ger Machynlleth: "'Da ni yn clywed fod yna fap sy' ddim yn gyhoeddus eto efo llinell arno o Langrannog hyd at Bumlumon, yn cynnwys Dyffryn Dyfi, fyny tuag at Harlech a Phen Ll欧n a gorllewin M么n..."
Dywedodd mai'r bobl yn yr ardaloedd yma "fydd ar eu colled, lle bydd yn cymryd yn hirach i ymateb i alwadau".
Ond dywed Mark James bod y gwasanaeth wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn cyrraedd pob ardal, ac y bydd rhan o'r ad-drefnu yn cynnwys technoleg hedfan yn y nos newydd mewn o leiaf un hofrennydd ychwanegol, fydd yn cryfhau'r gwasanaeth.
Achub bywyd
Pan oedd yn fachgen naw oed, dywed Brian Jackaman o'r Drenewydd, fod ei fywyd wedi ei achub gan ambiwlans awyr Y Trallwng. Fe dorrodd ei benglog ar 么l cwympo oddi ar feic ar ffordd anghysbell.
Cafodd ei hedfan i ysbyty yn Birmingham lle treuliodd ddyddiau mewn uned gofal dwys.
Mae Brian wedi codi cannoedd o bunnoedd i AAC - ac yn dweud y bydd yn parhau i wneud hynny - ond mae'n poeni am y newidiadau arfaethedig: "Gallwn i fod wedi marw oni bai am gyflymder ac arwriaeth Ambiwlans Awyr Cymru.
"Does dim ffordd y byddai ambiwlans cyffredin wedi gallu cyrraedd safle'r ddamwain."
Ambiwlans Awyr Cymru yw'r elusen fwyaf o'i math yn y DU.
Tra bod gwasanaeth iechyd Cymru yn ariannu'r meddygon sy'n trin y cleifion, mae'r hofrenyddion a'r cerbydau brys yn cael eu hariannu gan roddion elusennol.
Mae angen codi 拢8m bob blwyddyn i'w cadw yn weithredol.
Canslo taliadau i'r elusen
Ers i'r newyddion dorri am y cynllun i symud o'r Trallwng, mae rhai pobl ar gyfryngau cymdeithasol wedi bygwth rhoi'r gorau i godi arian i'r elusen.
Dywed Joy Jones: "Dwi'n meddwl ei fod yn bryderus iawn bod pobl wedi canslo eu debydau uniongyrchol.
"Ond dwi'n deall pam, am eu bod yn teimlo eu bod yn cael cam, ar 么l i lawer o bobl yn yr ardal gasglu at yr elusen ers blynyddoedd."
Dywed Mark James o AAC: "Ry'n ni wedi gofyn dro ar 么l tro i bobl ymddiried yn yr hyn ry'n ni'n ei gyflawni, a sut ry'n ni'n bwriadu ehangu ein gwasanaethau.
"A dyna'n syml beth ry'n ni'n ei wneud eto, gallwn weld ffordd ymlaen a fyddai'n gwella'r gwasanaeth i Gymru gyfan."