Y myfyriwr oedd yn 'ddylanwad drwg' ar y Tywysog Charles

Ffynhonnell y llun, Hulton Deutsch

Disgrifiad o'r llun, Y Tywysog wrth ei ddesg yn ei ddyddiau fel myfyriwr

Mae cyn-gymydog i'r Brenin Charles pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi s么n am yr adeg pan welodd lythyr - gafodd ei ysgrifennu gan Brif Weinidog y cyfnod - yn dweud ei fod yn ddylanwad drwg ar y Tywysog ifanc.

Roedd Geraint Evans yn byw drws nesaf i'r brenin yn Neuadd Pantycelyn pan fu'n aros yno am 10 wythnos yn 1969.

"Fe wnaeth yr awdurdodau edrych i mewn i fy nghefndir, ond ges i ddim gwybod hynny tan nes ymlaen," meddai Mr Evans, sy'n disgrifio ei hun fel cenedlaetholwr.

"30 mlynedd yn ddiweddarach 'nes i ddarganfod bod Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, George Thomas, wedi ysgrifennu llythyr at y prif weinidog Harold Wilson.

"Fe wnaeth e awgrymu y dylai Harold Wilson siarad gyda'r Frenhines am y posibiliad fod y cymydog yn cael 'gormod o ddylanwad' ar y Tywysog Charles."

Dywedodd Mr Evans ei fod wedi cael sioc o wybod am fodolaeth y llythyr.

Daeth y llythyr i wybodaeth gyhoeddus yn 1999 o dan reol '30 mlynedd' - rheol sy'n caniat谩u cyhoeddi dogfennau swyddogol y llywodraeth.

Ffynhonnell y llun, Geraint Evans

Disgrifiad o'r llun, Bu Geraint Evans yn byw drws nesaf i'r Tywysog Charles yn Neuadd Pantycelyn yn ei ddyddiau coleg

"Roedd e'n anodd credu'r peth," meddai Mr Evans wrth siarad 芒 91热爆 Radio 5Live.

"Fe wnaeth e [George Thomas] ysgrifennu'r llythyr yn ei law ei hun, fel nad oedd ei weision sifil yn gallu ei weld."

Bu'r Brenin Charles yn astudio yn y coleg yn y misoedd cyn ei arwisgiad yng Nghaernarfon yn 1969 - gyda'r gobaith y byddai'n dod i wybod mwy am Gymru a'r iaith Gymraeg.

Roedd y penderfyniad yn un dadleuol, gyda rhai yn croesawu'r syniad o arwisgiad, tra bod eraill yn ei weld fel symbol o ormes a choncwest Cymru.

"Roedd e'n benderfyniad beiddgar," meddai Mr Evans.

'Dim cyfle gwych i gymdeithasu'

"Dwi'n meddwl fod myfyrwyr wedi anghofio ei fod o'n royal.

"Doedd myfyrwyr ddim yn talu cymaint 芒 hynny o sylw, ond pan fyddai'n mynd o'r neuadd breswyl i'r dref i gael ei ddarlithoedd yna fe fyddech chi'n gweld pobl yn ymgynnull y tu allan i'r coleg er mwyn ei weld.

"Doedd 'na ddim llawer o gyfle i gymdeithasu, ac roedd 'na deimlad fod cymaint o'r peth yn staged."

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin

Disgrifiad o'r llun, Tyrfa yn aros i'r Tywysog Charles gyrraedd Aberystwyth, ond roedd yna hefyd brotestio yn ei erbyn

Dywedodd fod y Tywysog wedi dod draw i d欧 ei rieni yn Nhalybont unwaith i gael te, a hynny gydag un o'r swyddogion heddlu oedd yn ei warchod.

"Fe ddaeth i gwrdd 芒 fy nheulu, cwrdd 芒 fy rhieni," meddai Mr Evans.

"Un o'r rhesymau iddo fod yno oedd i gwrdd 芒 Chymry ac i ddeall sut beth oedd hi i fyw yma.

"Fe wnaeth o gyrraedd, a daeth nifer o fy nghyd-fyfyrwyr hefyd [i'r t欧].

"Fe ddaeth y plismon hefyd, mae'n si诺r rhag ofn i ni roi rhywbeth yn y te!

"Yn y pendraw roedd e'n achlysur hapus. Rwy'n gobeithio ei fod o'n gofiadwy hefyd iddo fe.

"Roedd e'n achlysur cofiadwy i fy rheini ac i fy nghyd-fyfyrwyr."