Eisteddfod Genedlaethol 2022: Esyllt Maelor yn ennill y Goron

Disgrifiad o'r fideo, Esyllt Maelor: 'Does gen i ddim geiriau'

Esyllt Maelor ydy enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.

Daeth y bardd o Forfa Nefyn - gyda'r ffugenw 'Samiwel' - i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 24 o geisiadau.

Cafodd y Goron ei chyflwyno yn Nhregaron eleni am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc 'Gwres'.

Wrth gyfeirio at safon y gystadleuaeth, dywedodd y beirniaid mai "digon cyffredin oedd ei hansawdd at ei gilydd" ond fod y dosbarth teilyngdod wedi eu "plesio yn arw".

Roedd y beirniaid yn unfrydol mai Esyllt Maelor oedd yn fuddugol.

"Bydd, fe fydd Tregaron yn troi'n 'dre'r goron'," meddai Cyril Jones, un o'r beirniaid, wrth draddodi'r feirniadaeth.

Mewn cyfweliad yn fuan wedi'r seremoni, dywedodd Esyllt Maelor: "Does gen i ddim geiriau. Dwi'n reit emosiynol."

Pwy ydy Esyllt Maelor?

Yn enedigol o Harlech, Meirionnydd, cafodd ei magu a'i haddysgu yn Abersoch, Ll欧n.

Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Botwnnog, cyn mynd i'r Brifysgol ym Mangor a graddio yn y Gymraeg.

Esyllt Maelor oedd y fenyw gyntaf i ennill cadair Eisteddfod yr Urdd 'n么l yn 1977 yn Y Barri.

Mae dylanwad ei rhieni - Brenda a Gareth - a'i hathrawon wedi bod yn bwysig iddi.

Mae ganddi hi a'i g诺r Gareth dri o blant - Dafydd, Rhys a Marged - ond bu farw eu mab hynaf, Dafydd Tudur, mewn gwrthdrawiad ffordd yn 2015 ac yntau ond yn 27 oed.

Dywedodd yr Eisteddfod fod "么l dylanwad Dafydd ei mab ar y cerddi" buddugol ac mai "ef yn y b么n fu yno'n gefn iddi ac ef a'i gyrrodd i sgwennu".

'Rwy'n ddieiriau': Y feirniadaeth

Y beirniaid eleni oedd Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Wiliams - i gyd yn gyn-enillwyr y Goron.

Dechreuodd Cyril Jones ei draddodiad o lwyfan y Pafiliwn gan atgoffa'r gynulleidfa fod yr ymgeiswyr wedi anfon eu cerddi i mewn ar gychwyn y pandemig ym mis Ebrill 2020.

"Mae Samiwel yn chwilio am ystyr i'w hynt ddaearol yng nghanol manion ein byw beunyddiol yma yng Nghymru a'i gororau," meddai.

"Dyma fel yr ymatebodd y tri ohonom - ar wah芒n - ar 么l darllen cerddi Samiwel. 'Rwy'n ddieiriau,' meddai Gerwyn - dim yn aml mae Gerwyn yn cael ei daro'n fud!"

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Disgrifiad o'r llun, "Dewin geiriau go iawn": Roedd y beirniaid yn unfrydol mai Esyllt Maelor oedd yn fuddugol

Ychwanegodd: "'Aiff gwreiddioldeb ei ddelweddau 芒'n gwynt weithiau,' oedd geiriau Glenys. Ac fe 'wedes innau: 'cyn i fi gyrraedd diwedd y gerdd gynta' roeddwn i wedi codi ar fy nhraed ac yn darllen yr ail gerdd yn uchel.'

"'Mae'n fardd sy'n mynd 芒 ni ar siwrnai greadigol ac emosiynol ac yn feistr ar drin iaith yn fyw' - a dyna Gerwyn yn crynhoi'r cyfan yn dwt. 'Mae e'n gwybod sut mae procio'r deall a'r teimlad,' meddai Glenys.

"Byddai'r tri ohonom wedi bod wrth ein bodd yn coroni Kairos a Dyn Bach Gwyrdd. Ry'n ni'n gobeithio y bydd y ddau yn cyhoeddi eu cerddi yn fuan.

"Ond yn gwbl annibynnol ar ein gilydd, cyn i ni drafod, roedd y tri ohonom yn gyt没n taw eiddo Samiwel yw coron Ceredigion yma yn Nhregaron."

Dywedodd ei bod hi'n "fraint" cael coroni "dewin geiriau go iawn".

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Esyllt Maelor nad oedd hi'n disgwyl y fath ganmoliaeth gan y beirniaid

Esyllt Maelor hefyd yw Cadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd 2023.

Mae'n dweud ei bod yn hynod ddiolchgar i bobl ardal Morfa Nefyn am eu cynhaliaeth a'u hanogaeth, i ffrindiau arbennig fu'n glust iddi, i'w theulu am eu cefnogaeth ac i Aled Jones Williams a chriw y gr诺p darllen yn Llanystumdwy am ei symbylu 芒'u hegni positif.

Mae'n credu fod yna sgwennwr ymhob plentyn ac mae'n ymfalch茂o yn llwyddiannau ei chyn-ddisgyblion ym Mrynrefail, Edern a Botwnnog sydd wedi dal ati i sgwennu a chyfrannu i'w cymunedau.

Eleni mae'r goron wedi ei chynhyrchu a'i chynllunio gan yr artist, Richard Molineux ac mae'n ddathliad o ddiwylliant Ceredigion a Chymru mewn cyfres o 12 o ffasedau gwydr lliw.

Mae'r elfennau diwylliannol yn cynnwys Castell Aberteifi, Cors Caron, y barcud coch, Afon Teifi, Abaty Ystrad Fflur a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bridfa Ryngwladol Cobiau Cymreig Derwen sy'n rhoi'r goron eleni ac Ifor a Myfanwy Lloyd o'r fridfa sy'n rhoi'r wobr ariannol o 拢750.