Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Arwr' yn achub chwech o badlfyrddwyr ifanc
Mae chwech o blant wedi cael eu hachub gan hwylwyr dingi sydd wedi cael ei ddisgrifio'n "arwr lleol" wedi iddyn nhw fynd i drafferthion wrth badlfyrddio.
Roedd y plant yn defnyddio dau badlfwrdd pan wnaeth pethau ddechrau fynd o chwith oddi ar Draeth Lligwy, Ynys M么n o gwmpas 16:00 brynhawn Sadwrn.
Cafodd bad achub Moelfre a thimau achub Gwylwyr y Glannau Moelfre a Bae Cemaes eu hanfon mewn ymateb.
Ond hwyliwr dingi oedd y cyntaf i gyrraedd y plant.
"Roedd yn croesi'r bae ac fe welodd yn fuan beth oedd yn digwydd," dywedodd llefarydd ar ran canolfan gydlynu gwasanaeth Gwylwyr y Glannau.
Roedd y dyn, meddai, wedi gwneud "job arbennig" gan achub y plant trwy eu codi o'r d诺r.
Cafodd y plant eu trosglwyddo wedi hynny i'r bad achub, eu cludo i'r lan a chael cymorth i gynhesu cyn eu dychwelyd i ofal eu rhieni.
"Roedd un plentyn, merch, yn eithaf s芒l," ychwanegodd y llefarydd. "Fe wnaethon ni roi cyngor i'r rhieni fynd 芒 hi i Ysbyty Gwynedd ym Mangor."
Yn 么l Osian Roberts, sy'n aelod o d卯m bad achub Moelfre, roedd y criw wedi "amau" y byddai trafferthion oherwydd y tywydd braf a'r gwynt ar y diwrnod.
"Oeddan ni'n amau ella' bo ni'n mynd i gael galwad neu ddwy wrth sb茂o allan ar sut oedd cyflwr y m么r a sut oedd amodau'r tywydd.
"Ddiwadd y p'nawn neu ganol p'nawn, dyna oedd yr achos," dywedodd wrth siarad ar Dros Frecwast.
"Fel na'th y bad achub gyrraedd i lle'r oeddan ni'n debygol o ffeindio'r plant, dyna lle oeddan nhw i gyd, neu pedwar o'r chwech yn ista' tu mewn i dingi hwylio un o'r dynion lleol."
"Yn bendant, roeddan nhw mewn trafferthion, oeddan nhw'n defnyddio rhyw botel plastig i gael gwared 芒 d诺r o'r dingi hwylio.
"Dydy dingi hwylio o'r fath ddim yn bwrpasol i bump o bobl neu un oedolyn a phedwar o blant oedd yn ista' yno am unrhyw gyfnod."
Peryglon
Dywedodd mai ei rybudd i bobl sy'n mynd i badlfyrddio yw i sicrhau eu bod wedi gwirio rhagolygon y tywydd a bod cyswllt rhyngddynt 芒 rhywun ar y lan.
"Byddwch yn wyliadwrus i wneud yn si诺r eich bod chi yn gwybod be' 'di cyflwr y m么r cyn i chi fynd allan ac yn bendant i fynd efo life jacket a gwneud yn si诺r bod gynoch chi fodd o gyfathrebu gyda unrhyw un ar y lan a bo' nhw'n gwybod lle 'dach chi.
"Dydan ni ddim yma i stopio hwyl neb ond yn bendant rhaid i chi fod yn ymwybodol o risgiau ac unrhyw botensial peryglon sy'n dod efo defnyddio padlfwrdd ar y m么r.