Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bachgen, 13, wedi marw ar 么l mynd i drafferthion yn Afon Taf
Bu farw bachgen 13 oed ar 么l mynd i drafferthion yng ngherrynt cryf Afon Taf wrth chwarae gyda'i ffrindiau yr wythnos ddiwethaf.
Dyna glywodd llys y crwner ym Mhontypridd ddydd Iau yn dilyn marwolaeth Aryan Ghoniya ar 21 Mehefin.
Ar 么l i'r bachgen fynd i drafferthion, fe wnaeth ei ffrindiau ffonio'r gwasanaethau brys.
Clywodd y llys fod Aryan, oedd yn ddisgybl ym mlwyddyn 8 Ysgol Gyfun Radur, wedi cael ei ddarganfod gan ddeifwyr yr heddlu 55 munud yn ddiweddarach.
Ond, doedd hi ddim yn bosib i'w achub.
Mae'r cwest wedi cael ei ohirio tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.