Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Marwolaeth Afon Taf: Teulu bachgen yn rhybuddio rhieni eraill
Mae teulu bachgen 13 oed fu farw yng Nghaerdydd wedi erfyn ar rieni eraill i rybuddio eu plant am y peryglon o chwarae mewn afonydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal yr Eglwys Newydd brynhawn Mawrth am fod criw o blant wedi mynd i Afon Taf a bod un bachgen ar goll.
Cafwyd hyd i gorff Aryan Ghoniya yn yr afon yn ddiweddarach.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd ei deulu eu bod wedi eu "llorio" gan golled Aryan, ond bod ymateb y gymuned wedi bod yn gysur.
Dywedodd y teulu bod Aryan yn "wych gyda mathemateg, yn dda ar bopeth academaidd".
"Roedd yn gariadus gyda phersonoliaeth gynnes oedd yn cael ei garu gan bawb oedd yn ei adnabod.
"Ni fydd diwrnod pan na fyddwn yn ei golli, a bydd yn ein calonnau am byth."
Bu'r heddlu yn chwilio yn yr afon eto ddydd Mercher.
Dywedodd yr heddlu bod y crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth, a bod yr ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.
Mewn datganiad pellach ddydd Iau, dywedodd y teulu eu bod yn "hynod ddiolchgar i'r gwasanaethau brys am eu hymdrechion yn chwilio am Aryan".
"Rydym yn erfyn yn gryf ar bob rhiant i egluro wrth eu plant am y peryglon o chwarae mewn afonydd," meddai'r teulu.
"Ni fyddwn yn dymuno i unrhyw riant fynd drwy'r drasiedi yr ydym yn mynd drwyddi."
'Disgybl cydwybodol'
Dywedodd Andrew Williams, Pennaeth Ysgol Gyfun Radur: "Fe fydd Aryan yn cael ei gofio fel disgybl cydwybodol amlwg 芒 phersonoliaeth cynnes, a oedd yn gweithio'n galed drwy'r amser.
"Roedd yn glod i'w deulu a chymuned yr ysgol, ac roedd yn bleser pur cael bod o'i gwmpas.
"Mae ein cydymdeimlad twymgalon gyda theulu Aryan."