Bachgen 13 oed wedi marw yn Afon Taf, Caerdydd

Disgrifiad o'r llun, Aelodau o'r gwasanaethau brys yn chwilio Afon Taf ddydd Mawrth

Mae bachgen 13 oed wedi marw ar 么l cael ei ganfod gan y gwasanaethau brys mewn afon yng Nghaerdydd.

Dywed Heddlu'r De eu bod wedi'u galw i ardal yr Eglwys Newydd am 16:45 brynhawn Mawrth am fod criw o blant wedi mynd i Afon Taf a bod un bachgen ar goll.

Cafodd y bachgen ei ganfod gan y gwasanaethau brys yn yr afon rhyw awr yn ddiweddarach, ond nid oedd modd ei ddadebru, medd y llu.

Ychwanegodd fod ymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad yn parhau.

Disgrifiad o'r llun, Roedd yr heddlu, y gwasanaeth t芒n, ambiwlans, gwylwyr y glannau a hofrennydd yr heddlu yn rhan o'r chwilio

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Abi Biddle: "Am 16:45 ddydd Mawrth 21 Mehefin, cafwyd adroddiad am blant yn Afon Taf ger Heol Fferm y Fforest, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd ac roedd un bachgen ar goll.

"Cafodd chwiliad helaeth ei wneud gan yr heddlu, y gwasanaeth t芒n, ambiwlans, gwylwyr y glannau a hofrennydd yr heddlu.

"Cafodd y bachgen 13 oed a oedd ar goll ei leoli yn yr afon tua 17:45 ac, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, nid oedd yn gallu cael ei adfywio.

"Mae teulu'r bachgen wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd."

Disgrifiad o'r llun, Bal诺ns i goffau'r bachgen ifanc yn Afon Taf

Yn 么l y Cynghorydd Calum Davies, aelod dros Radyr a Threforgan: "Dwi'n siwr mae pobl yng ngogledd-orllewin Caerdydd yn teimlo'n drist iawn oherwydd mae'r pobl yn y cymunedau 'ma, ma' nhw'n agos iawn a dwi'n siwr bydde' nhw'n teimlo'n drist iawn efo'r newyddion heddiw.

"Mae'r boblogaeth yng Nghaerdydd yn enfawr o gymharu 芒 llefydd eraill yng Nghymru, a dyna pam maen nhw eisiau mynd i lefydd fel y Taf.

"Ond mae'n rhaid i ni wrando ar yr authorities pan mae'n dod i hyn oherwydd ni 'di gweld lot o accidental drownings yng Nghymru dros y blynyddoedd, rhywbeth fel 20 i 30 bob blwyddyn a [dydyn] ni ddim eisiau adio i'r rhifau yna, ni eisiau dod a nhw i lawr."