Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dau yn yr ysbyty ar 么l mynd i drafferthion yn y m么r
Mae dau o bobl yn yr ysbyty ar 么l mynd i drafferthion tra'n padlfyrddio yn Ynys y Barri.
Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod wedi'u galw i'r digwyddiad am 17:56 brynhawn Gwener.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Asiantaeth y M么r a Gwylwyr y Glannau mai achubwyr bywyd yr RNLI oedd wedi rhoi gwybod am y digwyddiad ym Mae Whitmore.
"Anfonwyd T卯m Achub Gwylwyr y Glannau Ynys y Barri a bad achub RNLI Doc y Barri, ochr yn ochr 芒 Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Heddlu De Cymru," meddai.
"Cafodd y padlfyrddwyr eu hachub a'u dychwelyd i'r lan cyn cael eu rhoi yng ngofal y gwasanaeth ambiwlans."
Cafodd ddau berson eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Nid yw eu cyflwr yn glir ar hyn o bryd.
Roedd cannoedd o bobl wedi bod yn mwynhau'r heulwen ar y traeth, ar ddiwrnod poetha'r flwyddyn hyd yma yng Nghymru.