Lluniau: Dydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd

Ar ddydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 mae'r torfeydd wedi dod yn eu miloedd i ddathlu g诺yl ieuenctid fwyaf Ewrop.

Dyma rywfaint o'r golygfeydd oedd i'w weld o amgylch y Maes ddydd Llun.

Disgrifiad o'r llun, Y cogydd enwog, Bryn Williams, yn helpu i gyfeirio'r traffig ben bore
Disgrifiad o'r llun, Ciw am Cyw...rhieni yn aros yn eiddgar am docynnau ar gyfer sioe boblogaidd Cyw ar y maes
Disgrifiad o'r llun, Madi o Landderfel ac Owi o Lanuwchllyn
Disgrifiad o'r llun, Plant Ysgol Gynradd Bontnewydd wrth eu boddau ar 么l ennill y gystadleuaeth cerddorfa blwyddyn 6 ac iau.
Disgrifiad o'r llun, Plant Adran Penrhyd, Rhydaman, wedi gwirioni ar 么l ennill y gystadleuaeth Dawnsio Gwerin blwyddyn 4 ac iau
Disgrifiad o'r llun, Dydi Eisteddfod yr Urdd ddim yn Eisteddfod yr Urdd heb lun gyda Mr Urdd. Un i'r albwm luniau i Joshua a Lauren o Ddinbych
Disgrifiad o'r llun, Dylan o Lan Conwy, yn cael gwersi sielo gan ei dad Simon yn yr Arddorfa
Disgrifiad o'r llun, Annest, 6 oed, yn mwynhau yn yr Arddorfa
Disgrifiad o'r llun, Argoeli i fod yn Eisteddfod lwyddiannus
Disgrifiad o'r llun, Un ffordd i ddod dros y nerfau cyn mynd ar y llwyfan...
Disgrifiad o'r llun, Lisa Jones o'r Fali a Lowri Carlisle o Gaergybi...y ddwy yn paratoi at bob math o dywydd
Disgrifiad o'r llun, Deio gyda'i daid, yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd
Disgrifiad o'r llun, Tasg pwysig y prynhawn - cludo telyn o amgylch y Maes
Disgrifiad o'r llun, Y chwiorydd Elan a Myfi o Nebo, ger Llanrwst, ac Elsi o Landrillo yn y canol