Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Saith mlynedd i gael rhestrau aros i lefel cyn-pandemig
Fe allai gymryd saith mlynedd neu fwy i ddychwelyd rhestrau aros i lefelau cyn y pandemig, yn 么l Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Mae'r archwilydd, Adrian Crompton, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy er mwyn osgoi niwed i gleifion.
Mae bron i 700,000 o gleifion yn aros am ofal sydd wedi'i gynllunio, cynnydd o 50% ers ffigyrau Chwefror 2020.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cynllun adfer wedi'i lunio, gyda 拢185m o gyllid blynyddol dros y pedair blynedd nesaf.
'Methu gwario arian oherwydd diffyg capasiti'
Mae'r adroddiad yn dweud ei bod yn bosib nad yw mwy na hanner y rhai sy'n aros yn gwybod beth maen nhw'n dioddef ohono gan nad ydyn nhw wedi derbyn eu hapwyntiadau cyntaf.
Mae hefyd yn nodi y gallai hyn olygu nad yw eu gofal yn cael ei flaenoriaethu'n effeithiol.
Yn ogystal, mae'r adroddiad yn rhybuddio y gallai 550,000 arall o atgyfeiriadau "a allai fod ar goll" - sy'n uwch nag amcangyfrifon Llywodraeth Cymru ei hun o hanner miliwn - ganfod eu ffordd yn 么l i'r system, gan gynyddu'r risg o niwed i gleifion.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru sicrhau bod 拢200m yn ychwanegol ar gael i fyrddau iechyd ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2021/22 er mwyn taclo amseroedd aros.
Ond, cafodd mwy na 拢12m o'r 拢200m ei ddychwelyd gan gyrff iechyd gan na allent wario'r cyfan.
Roedd capasiti staff, diffyg lle ffisegol a chapasiti preifat cyfyngedig yn eu hatal rhag gallu gwario'r swm llawn ac mae angen goresgyn "rhwystrau difrifol" i fynd i'r afael 芒'r arosiadau parhaus, meddai'r adroddiad.
Cyfres o alwadau
Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys dull o ddangos data er mwyn cymharu amseroedd aros rhwng gwahanol fyrddau iechyd a mathau o driniaethau.
Mae'n dangos - trwy ffigurau'r ONS hyd at fis Mawrth eleni - fod 380,289 o gleifion yn aros hyd at 26 wythnos, a 168,502 yn aros mwy na blwyddyn.
O ganlyniad, mae'r adroddiad yn galw am:
- Weithio gyda chyrff iechyd i osod targedau cyflawni sy'n cynnwys uchelgais priodol;
- Cynhyrchu strategaeth ariannu eglur gan gynnwys buddsoddiad cyfalaf hirdymor;
- Datblygu cynllun y gweithlu i feithrin a chynnal capasiti gofal wedi'i gynllunio;
- Rhoi trefniadau arweinyddiaeth system ar waith i gyflawni'r cynllun;
- Sicrhau bod ei threfniadau'n canolbwyntio ar reoli risgiau clinigol sy'n gysylltiedig ag arosiadau hir, cefnogi cleifion tra'u bod yn aros, a darparu gofal yn effeithlon ac yn effeithiol.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: "Bydd pandemig COVID-19 yn achosi i'r GIG fod 芒 sawl gwaddol parhaus, yn anad dim yr effaith sylweddol y mae wedi'i chael ar amseroedd aros ar gyfer gofal wedi'i gynllunio.
"Yn union fel yr ymatebodd y GIG i her y pandemig, bydd angen iddo ymateb i her mynd i'r afael 芒 rhestr aros sydd wedi tyfu i faint anferth.
"Bydd angen gweithredu ar y cyd mewn sawl cyfeiriad gwahanol, a bydd angen goresgyn rhai heriau hirsefydlog.
"Trefnwyd fod arian ychwanegol ar gael a rhaid ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol i sicrhau bod dulliau teg ac wedi'u targedu sy'n diwallu anghenion gofal wedi'i gynllunio pobl Cymru," dywedodd Adrian Crompton.
Dywedodd Darren Hughes, cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, eu bod yn croesawu canlyniadau'r adroddiad a'u bod yn ymwybodol o'r heriau.
Ychwanegodd bod staffio yn "ffocws enfawr" i arweinwyr y gwasanaeth iechyd ond fe alwodd eto am ragor o fuddsoddiad i'r sector iechyd a gofal.
Ar Dros Frecwast, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan ei bod yn "hyderus y byddwn ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir" ac yn gwella'r ffigyrau "erbyn diwedd y Senedd yma".
"Mae'r arian i gyd sydd gyda ni mewn lle. Arian sydd yn ein stopio ni rhag 'neud mwy."
"Felly, rydym ni wedi dweud bod 拢1bn yna.
"Pobl sydd yn bwysig yn yr NHS. Beth sydd ishe arnoch chi yw pobl gyda'r sgiliau cywir...
"Dyna pam y' ni yn mynd i sicrhau bod yna hyfforddiant yna ar gyfer 12,000 o bobl yn ychwanegol."
'Targedau uchelgeisiol ond realistig'
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei fod yn gweithio gyda byrddau iechyd a'i bod wedi gosod "targedau uchelgeisiol ond realistig" i daclo amseroedd aros y pandemig.
"Mae hyn wedi ei gefnogi gyda buddsoddiad hirdymor ychwanegol sylweddol.
"Mae ein cynllun adfer, gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf, eisoes yn amlinellu'n cynlluniau i fynd i'r afael 芒 phum argymhelliad yr adroddiad hwn, gan gynnwys sut y byddwn ni'n cefnogi cleifion tra'u bod nhw'n aros a chreu gweithlu cynaliadwy gydag arweiniad effeithiol."