Gŵyl Fwyd Caernarfon: Costau byw yn her newydd ar ôl Covid

Disgrifiad o'r fideo, Nici Beech yw cadeirydd pwyllgor gwaith yr ŵyl fwyd
  • Awdur, Maia Davies
  • Swydd, 91Èȱ¬ Cymru Fyw

Mae'r gost o gynnal gŵyl fwyd boblogaidd sydd wedi dychwelyd i Wynedd ddydd Sadwrn wedi cynyddu yn sgil yr argyfwng costau byw, yn ôl y trefnwyr.

Cafodd Gŵyl Fwyd Caernarfon ei chanslo yn 2020 a 2021 yn sgil y pandemig, ar ôl denu 30,000 o ymwelwyr ar gost o £32,000 yn 2019.

"Mae costau'r ŵyl eleni'n uwch oherwydd bod costau bob dim yn uwch," meddai cadeirydd pwyllgor yr ŵyl, Nici Beech.

Dyma'r pumed tro i'r ŵyl undydd gael ei chynnal yng Nghaernarfon, ac er gwaetha'r her newydd mae Ms Beech wedi amcangyfrif bod "ymhell" dros 30,000 wedi ymweld â'r digwyddiad eleni.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ŵyl wedi tyfu'n sylweddol o'i gymharu â'r tro cyntaf iddi gael ei chynnal

Er i'r trefnwyr ganslo'r ŵyl ddwywaith yn sgil Covid-19, nid oedd hyn yn ergyd ariannol medd Ms Beech wrth 91Èȱ¬ Cymru Fyw.

"O'ddan ni'n 'neud gwaith codi arian trwy gydol y flwyddyn cyn yr ŵyl 'naethon ni ganslo yn 2020.

"O'ddan ni'n barod i fynd... be' 'di'r effaith ariannol ydy bod prisiau pob dim wedi codi.

Disgrifiad o'r llun, Roedd dros 130 o stondinau yn yr ŵyl eleni

"Mae costau tanwydd yn uwch, felly mae dod â phethau, adeiladau, toiledau, barriers er mwyn diogelwch, bob dim felly 'di codi yn ofnadwy."

Gwirfoddolwyr sydd yn trefnu'r ŵyl, gyda'r arian yn mynd tuag at gostau megis isadeiledd ac adloniant ac at drefnu'r ŵyl nesaf.

Dywedodd Ms Beech na fyddai'n "syndod" petai'r gost eleni yn uwch na'r £32,000 aeth tuag at ŵyl 2019, "ond dan ni'n trio cadw i'r gyllideb yna".

'Awyddus i ddod at ei gilydd'

Fodd bynnag, mae cefnogaeth leol a grantiau wedi sicrhau fod pob dim yn ei le ar gyfer ŵyl lwyddiannus ddydd Sadwrn, medd Ms Beech.

Ynghyd â grant o £10,000 gan Lywodraeth Cymru, mae Hwb Caernarfon, busnesau lleol, a chynghorau Caernarfon a Gwynedd ymhlith cefnogwyr yr ŵyl.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ar Faes Caernarfon a rhai o'r strydoedd cyfagos

"Dwi'n hyderus iawn - mae pob dim yn ei le a phawb yn edrych ymlaen at ddydd Sadwrn," meddai Ms Beech cyn i'r miloedd heidio am ganol y dref ddydd Sadwrn.

"Mae pawb 'da chi'n gweld yn dweud bo' nhw'n dod, so 'swn i'm yn synnu os oedd 'na fwy yn dod eleni - yn enwedig ar ôl y ddwy flynedd ddiwetha'.

"Mae pobl yn awyddus iawn i ddod at ei gilydd i gymdeithasu a dathlu a mwynhau."

Bydd dros 130 o stondinau, pedwar llwyfan adloniant a lloc anifeiliaid, gyda mynediad yn rhad ac am ddim.

Fe fydd y cyfan wedi ei wasgaru'n fwy na'r arfer yn sgil Covid-19, ychwanegodd Ms Beech.

Disgrifiad o'r llun, Roedd yna gryn edrych ymlaen at weld yr ŵyl yn dychwelyd wedi'r pandemig

"Dwi'n meddwl bod pobl angen digwyddiadau eto, erbyn hyn. A ma' gymaint o fwyd a diod dda yn y rhan helaeth o Gymru, mae'n bwysig bod ni'n cefnogi cynhyrchwyr bwyd a'r diwydiant arlwyo.

"Mae naws yr ŵyl hefyd yn ofnadwy o Gymraeg - Cymraeg di'r iaith 'da chi'n clywed.

"'Dan ni'n edrych ymlaen yn ofnadwy - mae gymaint o frwdfrydedd, ac mae'r tywydd yn braf eto."