Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Canolfan newydd i elusen iechyd meddwl yn Llanelli
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, Gohebydd Arbennig 91热爆 Radio Cymru
Ers wythnosau mae criw o wirfoddolwyr a staff elusen Mind Llanelli wedi bod wrthi yn adnewyddu ac atgyweirio hen siop yn y dref.
Bydd y ganolfan amlbwrpas newydd yn cynnig gwasanaeth cwnsela, hyfforddi a hyd yn oed llety dros nos i bobl mewn argyfwng.
Yn eu plith mae Mathew Bowler, 25 oed. Mae e wedi wynebu iselder yn y gorffennol.
"Fe es i drwy gyfnod tywyll. Nes i ddim cael lot o lwyddiant yn yr ysgol a methu arholiadau TGAU i gyd," meddai.
"Mae gyda fi 'chydig o awtistiaeth felly doedd hynna ddim yn help chwaith. Ro'n i byth yn teimlo bo' fi yn ffitio mewn.
"Nawr fi mas o hynna fi moyn helpu pobl, a fi'n gobeithio gweithio ym maes iechyd meddwl a gwirfoddoli gyda Mind yn Llanelli."
'Dim lot o help i gael'
Mae Mathew yn edrych ymlaen at ddechrau pennod newydd yn ei fywyd ar 么l cyfnod anodd a heriol.
Mae'n dweud bod galw cynyddol am help ymysg pobl ifanc yn yr ardal, ac yn gobeithio y bydd y ganolfan newydd yn help i sicrhau bod ieuenctid eraill yn cael y cyfle a'r help sydd ei angen arnyn nhw wrth wynebu iselder.
"Mae canolfan fel hyn yn bwysig iawn i bobl ifanc fy oedran i, a phobl iau," meddai.
"S'dim lot o help i gael mas yna. Chi'n gorfod cael referrals, mae hynna'n gallu cymryd amser, a chi'n cael eich troi lawr wedyn.
"Rwy 'di colli cymaint o ffrindiau - pobl ifanc sy' wedi lladd eu hunain achos bo' nhw ddim yn cael eu gweld mewn pryd."
Bydd y ganolfan newydd yn cynnig gwasanaeth tu fas i oriau swyddfa, ac mae galw am ehangu gwasanaethau o'r fath ar hyd a lled Cymru.
Yn 么l elusen Mind Cymru mae galw am gefnogaeth i bobl pan fod angen, a hefyd mae'n rhaid gneud yn si诺r ei bod hi yn hawdd cael mynediad ato.
"Mae gwasanaethau gyda'r nos yn hynod bwysig," medd Mathew Bowler.
"Mae lot o bobl sy ag iselder yn aros lan yn hwyr y nos, a does neb o gwmpas bryd hynny a ma' ishe rhywun arnyn nhw i gefnogi nhw ac i siarad 芒 nhw.
"Fe fydden i'n hoffi gweld gwasanaethau a help ar gael 24 awr y dydd."
Cyrraedd a helpu mwy o bobl
Mae Mind Llanelli yn dweud eu bod wedi siarad 芒 thua 10,000 o bobl yn y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cynnig gwasanaethau cymorth i tua 1,500.
Maen nhw yn gobeithio y bydd y ganolfan newydd yn eu helpu nhw i gyrraedd a helpu mwy o bobl eto, a hefyd yn fodd i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl.
Eu nod yw sicrhau mwy o lwyddiant fel stori Mathew, sydd nawr yn dweud ei fod wedi troi cornel, yn "dod allan o iselder, yn teimlo yn rili dda ac yn edrych 'mlaen nawr at y cyfle i helpu pobl eraill a gwirfoddoli gyda Mind Llanelli".