Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Simon Hart dal yn cefnogi Johnson 'os fydd dirwyon pellach'
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud nad yw'n credu y dylai Boris Johnson ymddiswyddo, hyd yn oed os ydy'r Prif Weinidog cael cosb bellach am dorri rheolau Covid.
Dywedodd Simon Hart wrth 91热爆 Cymru na fyddai ras arweinyddiaeth er budd y cyhoedd.
Pan ofynnwyd iddo a ddylai'r Prif Weinidog roi'r gorau iddi os ydyw'n derbyn mwy o ddirwyon, dywedodd Mr Hart: "Yr un yw'r egwyddorion, p'un ai yw hi'n mynd i fod yn un ddirwy neu'n ddwy".
Fe wynebodd Boris Johnson alwadau i ildio'r awenau ddydd Mawrth ar 么l iddo ef, ei wraig a'r Canghellor gael dirwy am fynychu parti pen-blwydd yn Downing Street ym Mehefin 2020.
"Ychydig iawn sy'n dweud y dylai unrhyw un oedd mewn unrhyw un o'r part茂on yma... golli ei yrfa ar unwaith," meddai Mr Hart, AS Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro.
Dywedodd nad oedd y ddirwy yn "ddigwyddiad ymddiswyddo".
"Mae pawb o'r farn, gan gynnwys y Prif Weinidog o ran hynny, na ddylai hyn fod wedi digwydd."
Ychwanegodd Mr Hart ei fod yn credu taw hysbysiadau cosb ydy'r "sancsiynau priodol mewn achosion fel hyn".
"Ond dydw i ddim yn meddwl ei fod yn dilyn yn awtomatig y dylai unrhyw un mewn bywyd cyhoeddus golli ei swydd os ydyn nhw yn y sefyllfa yma."
'Difaru hyn yn fawr'
Dywedodd Mr Hart nad oedd am weld proses "arweinyddiaeth hir, swnllyd" ar adeg "dyngedfennol cyn belled ag y mae ein hymgysylltiad yn Wcr谩in yn y cwestiwn".
"I mi nid yw'n ymddangos bod hynny er budd y cyhoedd.
"Roedd y Prif Weinidog yn difaru hyn yn fawr. Does neb yn teimlo mwy o rwystredigaeth nag ef am y camgymeriadau a wnaed bron i ddwy flynedd yn 么l."
Dywedodd Mr Hart mai ychydig o'i etholwyr oedd yn galw am ymddiswyddiad.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl dwi'n siarad 芒 nhw wedi eu cythruddo... eisiau ymddiheuriad, eisiau'r sicrwydd yna fod y math yma o beth... y problemau all fod wedi arwain at hyn wedi cael eu datrys.
"Ond ychydig iawn sy'n dweud y dylai unrhyw un a oedd mewn unrhyw un o'r part茂on hyn, beth bynnag fo'u rheswm neu eu hesgusodion, fod wedi colli ei yrfa ar unwaith - ychydig iawn o bobl sydd wedi gwneud y galw hwnnw arnaf."