Cymru'n cyhoeddi gêm gyfeillgar ar 29 Mawrth

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd y tîm cenedlaethol yn chwarae dwy gem gartref o fewn wythnos yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi gêm gyfeillgar i'r tîm cenedlaethol ar 29 Mawrth.

Bydd tîm Robert Page yn herio un ai'r Weriniaeth Tsiec, Sweden neu'r Alban yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda'r gwrthwynebwyr yn ddibynnol ar ganlyniad y gêm yn erbyn Awstria ar 24 Mawrth.

Pe bai Cymru'n fuddugol ac yn cyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd - i'w chwarae fis Mehefin - yna collwyr y gêm rhwng Sweden a'r Weriniaeth Tsiec fydd yr ymwelwyr.

Ond os mai colli yn erbyn Awstria fydd tynged Cymru, Yr Alban fydd yn gwneud y daith i Gaerdydd.

Roedd enillwyr y gêm rhwng Cymru ac Awstria i fod i wynebu enillydd y gêm gynderfynol arall rhwng Yr Alban a Wcráin ar 29 Mawrth, ond gohiriwyd y gêm honno a'r rownd derfynol oherwydd ymosodiad Rwsia ar y wlad.

Mewn datganiad, cadarnhaodd Gymdeithas Bêl-droed Cymru bydd unrhyw elw o'r gêm gyfeillgar - yn ogystal â chasgliad ymysg y chwaraewyr a chefnogwyr - yn mynd tuag at yr apêl ddyngarol ar gyfer pobl Wcráin.