'Bydd pob aelwyd o leiaf 拢600 yn dlotach eleni'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae pobl eisoes wedi cael gwybod bod eu biliau ynni ar fin codi'n sylweddol

Bydd pob aelwyd yng Nghymru o leiaf 拢600 yn dlotach eleni ar gyfartaledd, yn 么l arbenigwyr ariannol.

Maen nhw'n rhybuddio y gallai'r cynnydd ym mhrisiau nwyddau hanfodol a chodiadau pellach ym miliau ynni wasgu fwy fyth ar incymau.

Dywed adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd bod angen i bobl baratoi ar gyfer pwysau "ar raddfa na welwyd yn y DU am ddegawdau" ar safonau byw.

Mae t卯m dadansoddiad ariannol y ganolfan wedi asesu effaith costau cynyddol a chymorth y llywodraeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gwneud "popeth o fewn ein gallu... i helpu teuluoedd Cymru".

Bydd y bil ynni cyfartalog am drydan a nwy yn codi 拢693 y flwyddyn o fis Ebrill, sy'n gyfystyr ag oddeutu 12% o'r incwm sydd ar gael i'w wario yn achos yr aelwydydd mwyaf tlawd.

Ond mae'r adroddiad yn rhybuddio bod disgwyl "cryn ansicrwydd" yn y misoedd nesaf.

Mae rhagor o godiadau ym mhris ynni yn bosib cyn diwedd y flwyddyn wedi i'r rheoleiddiwr Ofgem roi eu datganiad nesaf ynghylch yr uchafswm ar brisiau ym mis Awst.

Disgrifiad o'r llun, Mae Ofgem yn adolygu'r cap, sef y pris uchaf y mae cwmn茂au'n cael codi am un uned o ynni, bob chwe mis

Gan fod gymaint o dai sy'n hen neu wedi'i hinsiwleiddio'n wael, fe allai Cymru gael ei tharo'n arbennig o galed gan godiadau mawr mewn costau ynni yn sgil ymosodiadau Rwsia ar Wcr谩in, medd yr adroddiad.

Mae chwyddiant yn debygol o gyrraedd ei lefel uchaf mewn degawdau, ac yn cynyddu'n gyflymach na chynnydd budd-daliadau.

Bydd y codiad yn Yswiriant Cenedlaethol, o fis Ebrill ymlaen, yn golygu y bydd aelwydydd Cymru, ar gyfartaledd, 拢220 yn dlotach y flwyddyn, medd yr adroddiad.

Dwy flynedd ers dechrau'r pandemig, mae llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig dan bwysau i warchod pobl rhag costau uwch.

Ym mis Chwefror, fy gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn darparu cyllid gwerth 拢340m i helpu pobl gyda'u costau byw.

Mae cynlluniau Llywodraeth y DU yn cynnwys disgownt o 拢200 ar filiau trydan yn yr hydref, y bydd yn rhaid i gwsmeriaid ei dalu'n 么l mewn rhandaliadau dros bum mlynedd.

Ond yn 么l yr adroddiad, hyd yn oed gyda'r holl fesurau cymorth, bydd aelwydydd Cymru sy'n cael ynni ar dariff amrywiol, yn dal 拢400 yn dlotach ar gyfartaledd ym mis Ebrill oherwydd prisiau ynni uwch.

Mae'r ffigwr hwnnw'n codi i 拢600 o gynnwys codiadau treth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae yna rybudd taw'r aelwydydd tlotaf fydd yn cael eu taro waethaf gan y sefyllfa

Yr aelwydydd sydd ymhlith y 10% tlotaf oll sy'n wynebu'r trafferthion mwyaf, o ystyried maint yr incwm sydd gyda nhw ar gael i'w wario.

Dywed yr adroddiad bod cyllid Llywodraeth Cymru'n fwy hael na rhannau eraill y DU ac "wedi ei dargedu fwy at aelwydydd incwm is".

Ychwanegodd awdur yr adroddiad, Cian Si么n: "Er ymyriadau llywodraethau'r DU a Chymru, mae cyfuniad o bwysau chwyddiannol, codiadau treth a thwf incwm sy'n arafu yn golygu bod aelwydydd yn y DU yn wynebu'r wasgfa fwyaf ar safonau byw mewn degawdau."

Dywed Llywodraeth y DU eu bod wedi amlinellu pecyn cymorth gwerth 拢21bn, sy'n cynnwys ad-daliad treth cyngor o 拢150 o fis Ebrill a'r disgownt o 拢200 ar filiau ynni ym mis Hydref, a bod cap ar brisiau ynni er mwyn amddiffyn pobl rhag prisiau nwy eithriadol o gyfnewidiol.

Ychwanegodd llefarydd: "Byddwn ni'n amlinellu strategaeth cyflenwi ynni a fydd yn sbarduno ein capasiti ynni adnewyddol a niwclear i gryfhau ein cyflenwad domestig a helpu lleihau costau ynni."

'Heb weld ei debyg o'r blaen'

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gwneud popeth posib "gyda'r adnoddau a'r pwerau sydd ar gael" i ymateb i "argyfwng costau byw dy'n ni heb weld ei debyg o'r blaen".

Yn 么l llefarydd mae'r Gronfa Gymorth i Aelwydydd yn cynnig "amryw o fesurau", gan gynnwys taliad o 拢200 i bobl sy'n ei chael yn anodd talu biliau ynni'r gaeaf, a thaliad costau byw o 拢150 i gartrefi sydd ym mandiau treth cyngor D-E.

Fe wnaeth gweinidogion Cymru alw ar Lywodraeth y DU i "ddarparu cefnogaeth i fwy o bobl" yn eu datganiad ar gyfer cyllideb y gwanwyn.