Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Adam Price a Mick Antoniw wedi teithio i Wcráin i ddangos undod
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi bod yn amddiffyn ei benderfyniad i deithio i Wcráin wrth i'r sefyllfa rhwng y wlad a Rwsia waethygu.
Ar ei gyfrif trydar dywedodd Mr Price mai ei "benderfyniad personol" oedd mynd yno er mwyn "cysylltu a deall y sefyllfa ar lefel ddynol ac ystyrlon".
Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, a'r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, gyrraedd y brifddinas Kyiv nos Sadwrn.
Mae gwledydd gorllewinol wedi rhybuddio y gallai Rwsia ymosod ar Wcráin gyda 130,000 o filwyr wedi casglu ger y ffin rhwng y ddwy wlad.
Cyngor y Swyddfa Dramor yw na ddylai unrhyw un deithio o'r DU i Wcráin, ac maen nhw'n cynghori unrhyw un sydd yno i adael os yn bosib.
Dywedodd y Ceidwadwr yn y Senedd, James Evans AS, "nad oes gan wleidyddion y Senedd ran i'w chwarae yn y mater hwn ac na ddylent fod wedi teithio yno yn sgil y peryg" ac fe ddywedodd Gareth Davies, AS Dyffryn Clwyd bod y "trip yn un peryglus" a'i fod yn gobeithio y bydd y ddau yn dychwelyd yn ddiogel ond bod angen iddynt "gyfiawnhau eu siwrne" wedi dod nôl.
'Y sefyllfa yn gwbl ddifrifol'
Ar raglen Bore Sul Radio Cymru dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru nad oedd hi'n syndod bod y ddau wleidydd penodol yma wedi teithio yno.
"Dwi ddim yn gwybod i ba raddau yr oedden nhw wedi trefnu'r daith gyda chydweithrediad y Weinyddiaeth Dramor ond mae'n werth cofio fod Mick Antoniw yn gwnsler cyffredinol ac o dras Iwcranaidd ac mae Plaid Cymru wedi bod yn blaid sydd wedi bod yn pwysleisio heddwch ers ei sefydlu.
"Falle bod hi ddim yn syndod bod y ddau wleidydd penodol yma yn cymryd mwy o ddiddordeb yn y sefyllfa ac mae o yn sefyllfa wirioneddol frawychus.
"Os yw Rwsia, yr hen Undeb Sofietaidd, yn ymosod ar Wcráin 'dan ni'n mynd nôl i'r 30au. Does yna ddim byd cyffelyb i hyn wedi digwydd yn Ewrop ers y 30au - mae hwn yn mynd i newid gwleidyddiaeth ryngwladol yn Ewrop. Allai'm pwysleisio pa mor ddifrifol yw hyn."
Pryder am ymosodiad ar Kyiv
Ddydd Gwener dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden ei fod wedi argyhoeddi fod Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin wedi penderfynu ymosod ar Wcráin, a'i fod yn rhagweld y gallai hynny ddigwydd o fewn dyddiau, gyda Kyiv yn darged amlwg.
Dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson ddydd Sadwrn nad yw'n siŵr o fwriad Mr Putin, ond nad yw pethau'n argoeli'n dda.
Mae gwleidyddion o'r DU wedi penderfynu teithio yno i ddangos undod gyda gweithwyr, a lleiafrifoedd megis pobl LHDT+.
Ychwanegodd Mr Price ei fod wedi talu am y daith "o'i boced ei hun".
"Dwi ddim yma i ddatrys y gyflafan ond dwi yma i ddangos cefnogaeth ac i wneud cysylltiad real gyda phobl yn hytrach na thrydar neu anfon datganiad i'r wasg o glydwch fy nghartref.
"Fydd hi ddim yn gyfnod hawdd i deithio yma am gryn amser ond mae gwyliau'r Senedd yr wythnos hon wedi rhoi cyfle i fi," ychwanegodd.
Bydd ymweliad Mr Price hefyd yn canolbwyntio ar y cysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru a Wcráin, er enghraifft y ffaith mai Cymry wnaeth sefydlu dinas Donetsk yn y 19eg ganrif, a bod amryw o bobl o Wcráin wedi ymgartrefu yn ardaloedd y pyllau clo yng Nghymru.
Wrth siarad cyn yr ymweliad dywedodd Mr Price: "Po fwyaf y caiff pobl Wcráin eu bygwth gan ymddygiad ymosodol ac imperialaeth Rwsiaidd, po fwyaf yw'r brys i sosialwyr, democratiaid a chydwladolwyr gydsefyll ochr yn ochr gyda nhw - i amddiffyn eu hawl i hunan-benderfyniad cenedlaethol ac yn erbyn rhyfelgarwch Putin."
"Mewn gormod o'r trafodaethau am y sefyllfa yn Wcráin, y bobl eu hunain sy'n cael eu hanghofio," meddai Mr Antoniw.
"Rydyn ni eisiau gwrando ar beth sydd gan bobl Wcráin i'w ddweud, a dangos undod gyda nhw."
Wrth gael ei holi ar raglen Sunday Politics fore Sul dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt AS fod ymweliad Mr Antoniw yn "un personol a bod ganddo gysylltiadau teuluol ag Wcráin."
'Tydyn nhw ddim ar ben eu hunain'
Yn siarad ar raglen Oliver Hides ar Radio Wales fore Llun dywedodd Mick Antoniw, yr AS dros Bontypridd, fod pobl y wlad yn "falch iawn o'n gweld".
"Mae'n cadarnhau nad ydyn nhw yn sefyll ar ben eu hunain," meddai.
"Credaf fod ein hymweliad yma wedi cael croeso mawr gan rai o'r grwpiau cymdeithasol a'r grwpiau dinesig, wedi cyfarfod â phobl sy'n gweithio yn y diwydiant rheilffyrdd, y diwydiant adeiladu.
"Yn ddiweddarach heddiw dwi am gyfarfod â Tatars y Crimea, mae'r bobl wedi cael eu herlid yn ddidrugaredd.
"Beth maen nhw eisiau ydy llais, felly drwy weld fi ac Adam yma yn Kyiv, dwi'n meddwl ei fod yn rhywbeth maen nhw'n falch iawn o'i weld."
Ychwanegodd Mr Antoniw ei fod yn anghytuno â'r rheiny sy'n barnu eu hymweliad.
"Dwi'n meddwl ein bod yn cymryd pob rhagofal rhesymol y gallwn yn dod yma," dywedodd.
"Mae hediadau yn dal i ddod i mewn i Kyiv. Pe bai'r risg yn un difrifol yna ni fydda'r hediadau hynny'n digwydd, ond rydym yn adolygu'r sefyllfa o ran diogelwch yn rheolaidd iawn."