Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dim angen p脿s Covid ar gyfer digwyddiadau dan do
Mae'r cynllun p脿s Covid ar gyfer digwyddiadau mawr, sinem芒u, theatrau a chlybiau nos yng Nghymru yn dod i ben am hanner nos ddydd Gwener.
Ni fydd yn rhaid i leoliadau ofyn i ymwelwyr am y p脿s, a all ddangos a yw rhywun wedi cael dau bigiad Covid, neu wedi cael prawf llif unffordd negyddol yn ddiweddar.
Dywedodd gweinidogion y byddai'n helpu busnesau i aros ar agor, ond roedd beirniaid wedi codi pryderon moesegol.
Roedd yn un o'r ychydig gyfyngiadau coronafeirws sydd ar 么l yng Nghymru.
'Dim arwydd o lwyddiant'
Mae gwrthwynebwyr wedi cwestiynu effeithiolrwydd y cynllun - mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud nad ydyn nhw "erioed wedi dangos unrhyw arwydd o lwyddiant".
Os bydd y lleoliad neu'r digwyddiad ei hun am fynnu p脿s, mae croeso iddyn nhw wneud hynny, meddai Llywodraeth Cymru.
Dylai teithwyr rhyngwladol edrych beth yw rheolau'r wlad y maen nhw am fynd iddi o ran y p脿s Covid rhyngwladol, gan gynnwys edrych a oes trefniadau gwahanol ar gyfer plant.
Mae gr诺p hawliau sifil yn awgrymu bod gweinidogion Cymru wedi derbyn mai effaith gyfyngedig fyddai'r pasys yn ei chael ar Covid.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru, yn 么l y gr诺p rhyddid sifil Big Brother Watch, y gallai'r cynllun "wneud cyfraniad bach yn unig, ac mae'n debyg yn anfesuradwy, at leihau (neu arafu'r twf mewn) achosion difrifol o Covid-19, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau".
Fe wnaeth y sylwadau, meddai'r gr诺p, mewn llythyr yn ymateb i'w camau cyfreithiol arfaethedig yn erbyn y pasys.
'Cadw busnesau'n agored'
Ond dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: "Pan gafodd ei gyflwyno gyntaf, roedd y p脿s Covid yn un o nifer o fesurau i ennyn hyder, i gadw busnesau'n agored ac i ddiogelu Cymru.
"Hoffwn ddiolch i bob sector am eu cydweithrediad a'u hymateb yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Gyda mwy a mwy o bobl wedi cael y brechlyn a'r brechlyn atgyfnerthu erbyn hyn a diolch i waith caled pawb ledled Cymru, rydyn ni'n hyderus bod cyfraddau'r coronafeirws yn cwympo a bod yr haul o'r diwedd ar fin dod ar fryn."
Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at un o'r Eidal, yr Almaen a Ffrainc, a gyflwynodd dystysgrifau Covid - roedd yr astudiaeth yn awgrymu bod pasys yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn, yn atal colledion economaidd ac yn lleihau'r pwysau ar ofal dwys.
Beth yw'r cynllun i gael gwared ar reolau Covid Cymru?
Cael gwared ar basys Covid yw'r cam cyntaf mewn cynllun tair wythnos i lacio rheolau coronafeirws Cymru.
Ar 28 Chwefror, bydd rheoliadau mygydau wyneb yn cael eu llacio fel mai dim ond mewn siopau, gan gynnwys siopau trin gwallt a salonau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol y bydd eu hangen.
Ni fydd eu hangen mwyach mewn lleoliadau eraill - gan gynnwys amgueddfeydd a sinem芒u - o'r dyddiad hwnnw.
Gallai gweinidogion Cymru gael gwared ar y rheoliadau sy'n weddill, gan gynnwys cyfyngiadau hunan-ynysu a'r rheolau mygydau, erbyn diwedd y mis nesaf.
Nid oes dyddiad penodol wedi'i bennu, er bod disgwyl i weinidogion wneud eu penderfyniad ar neu o gwmpas 3 Mawrth.
Mae rheolau mygydau eisoes wedi'u diddymu yn Lloegr a gallai cyfyngiadau hunan-ynysu ddod i ben yno y mis hwn.