Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diweithdra yng Nghymru yn parhau i ostwng
- Awdur, Huw Thomas
- Swydd, Gohebydd Busnes 91热爆 Cymru
Mae gostyngiad wedi bod yn nifer y di-waith yng Nghymru, yn 么l data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Roedd 47,000 allan o waith rhwng Hydref a Rhagfyr y llynedd, sef 11,000 yn llai na'r chwarter blaenorol.
Mae hyn yn ostyngiad o 22,000 yn y di-waith o'i gymharu gyda'r un cyfnod yn 2020.
Mae cyfradd ddiweithdra Cymru o 3.1% hefyd yn is na ffigyrau'r DU gyfan (4.1%).
Gwelodd Cymru hefyd y cynnydd mwyaf yn y rheiny mewn gwaith o'i gymharu gyda'r adeg yma'r llynedd, i fyny 2.2 pwynt canran i 74.5%.
Er hyn mae'n parhau ychydig o dan gyfartaledd y DU o 75.5%.