拢10m i helpu cleifion Cymru ddychwelyd adref o'r ysbyty

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Nod yr arian yw lleihau'r pwysau ar wardiau ysbytai

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bydd 拢10m yn rhagor o arian ar gael i geisio lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd wrth i'r pandemig a phwysau'r gaeaf ar ysbytai barhau.

Nod yr arian yw galluogi cleifion i gael gofal yn eu cartrefi ar 么l gadael ysbyty.

Dywedodd y gweinidog iechyd Eluned Morgan mai bwriad y cynllun yw sicrhau bod y cleifion sy'n ddigon iach i adael yr ysbyty yn gallu gwneud hynny.

"Mae gyda ni tua 1,000 o bobl dal yn yr ysbyty sy'n barod i adael ond sydd yn methu oherwydd bod y sector gofal mor fregus," meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

'Y gweithlu'n fregus'

Dywedodd Ms Morgan y byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i brynu offer ar gyfer cleifion sy'n dychwelyd adref ac addasu eu tai pe bai angen.

Fe wnaeth y gweinidog gydnabod fod y sector gofal dan bwysau a bod angen denu mwy o bobl i weithio ynddo.

Bydd 拢2.5m hefyd, meddai, yn cael ei roi i fferyllwyr i helpu cleifion heb eu bod yn gorfod gweld meddygon teulu.

Dywedodd Ms Morgan fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi 拢88m yn y sector gofal, a'u bod am gyflwyno cyflog byw i weithwyr y sector.

"'Dan ni'n gobeithio y bydd y mesurau ychwanegol yn denu mwy o bobl i'r gweithlu ond mae hi'n weithlu sy'n fregus iawn ac mae rhaid parchu'r bobl sy'n gweithio ynddi a denu mwy o bobl i weithio," meddai.

Disgrifiad o'r fideo, Eluned Morgan: "Lle ychwanegol" i fferyllfeydd helpu

Dywedodd ei bod dal yn rhy gynnar i ddweud a oedd y don ddiweddara Omicron wedi cyrraedd y brig, ac felly a fyddai unrhyw lacio yn y rheolau Covid.

"Dwi ddim yn meddwl ei bod yn iawn i ddweud ein bod yn sicr ein bod wedi cyrraedd brig y don, mae angen mwy o amser ond gobeithio ein bod o fewn golwg."

Ar hyn o bryd, meddai, roedd rhwng 6% ac 8% o staff y gwasanaeth iechyd yn absennol oherwydd salwch.

"Y pwysau ar hyn o bryd yw pwysau o bobl yn colli eu gwaith yn fwy na dim byd, yn cynnwys yn y sector iechyd," ychwanegodd.

"Ac felly os byddwn yn gweld bod yna gyfle i lacio ar y cyfyngiadau wrth gwrs y byddwn yn gwneud hynny, ond mae'n annhebygol y byddwn yn gwneud hynny wrth i ni dal fod yn ansicr ein bod wedi cyrraedd y brig."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai adrannau mamolaeth wedi gorfod ailstrwythuro oherwydd y pwysau ar staff yn ystod y pandemig

Yn y cyfamser, mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru wedi dweud fod gwasanaethau yn ei chael hi'n "gynyddol anodd" i ymdopi oherwydd coronafeirws.

Dywedodd Vicky Richards o'r Coleg fod staff eisoes wedi blino'n lan, "ac mae nifer y rhai sy'n absennol yn eithaf uchel, felly mae'n rhaid gweithio yn fwy caled fyth".

Ond ychwanegodd ei bod yn bwysig rhoi sicrwydd i ferched fod gwasanaethau, er wedi eu newid rhywfaint, yn parhau i fod yn ddiogel ac ar gael.

Dywedodd ei bod yn bwysig wrth symud ymlaen i sicrhau fod y gwasanaeth yn cael ei ariannu'n iawn wrth ddod yn 么l i drefn ar 么l y pandemig.

"Mae angen i ni fuddsoddi a sicrhau'r amgylchedd cywir i gefnogi'r gwasanaeth ac i sicrhau fod y maes mamolaeth yn un mae staff am weithio ynddo, ac nad ydynt yn blino'n ddidrugaredd ac yna'n gadael," meddai. "Mae hynny o hyd yn bryder."