'Mor anodd i'r diwydiant lletygarwch gynllunio'

Disgrifiad o'r llun, Fe agorodd Anwen Rosser McConochie ei chaffi ym mis Mai eleni
  • Awdur, Garry Owen
  • Swydd, Gohebydd Arbennig 91热爆 Radio Cymru

Wrth i gyfyngiadau Covid tynnach ddod i rym yng Nghymru, dywed perchnogion gwestai, tai bwyta, caffis a thafarndai eu bod yn wynebu cyfnod heriol.

Dywed nifer eu bod wedi gorfod addasu'n gyson yn ystod y pandemig a bod y misoedd nesaf eto yn ansicr.

Mae wedi profi'n Nadolig heriol wrth i gwsmeriaid ganslo part茂on a phrydau bwyd yn sgil amrywiolyn Omicron.

Un sy'n cynllunio ar gyfer 2022 yw Anwen Rosser McConochie.

Fe ddechreuodd hi fusnes yn rhedeg caffi a llety gwyliau yng Ngheredigion ar ddechrau'r pandemig.

Pan ddaeth t欧 a hen efail ynghlwm wrtho ar werth ym mhentref Llanrhystud, fe welodd hi gyfle i fentro.

Dechreuodd ar y gwaith o weddnewid yr hen adeilad carreg ym mis Rhagfyr 2020. Mae'n ei ddisgrifio fel ei "phrosiect clo".

Fe agorodd y caffi ym mis Mai 2021 ac mae'n cyfaddef bod y misoedd cyntaf, dros gyfnod yr haf, wedi bod yn sialens wrth iddi ddysgu ymdopi 芒 rheolau'r pandemig.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Anwen Rosser McConochie fod cyflogi gweithwyr Cymraeg yn bwysig iddi

"Mae 'di bod yn heriol iawn, gyda ni yn dechre ym mis Mai," meddai. "Ro'n i'n disgwyl cyfnod bach tawel i gychwyn i ddod yn gyfarwydd a phethe ond stret off o'n ni fflat owt!

"Mae'n lleoliad deniadol ger Afon Wyre. Roedd lot o bobl yn pasio a'n galw mewn ac roedd gyda ni lot o gwsmeriaid o'r safleoedd carafanau gerllaw.

"Nethon ni gyflogi merched lleol - pawb yn siarad Cymraeg o gefndir lleol a gwledig, ac roedden nhw yn denu cwsmeriaid lleol hefyd.

"Ry'n ni 'di cael cefnogaeth ffantastig a bobl yn dod 'ma o lefydd fel Llanddeiniol, Llangwyryfon, Trefenter, ac ma nhw'n dod mor bell ag Aberaeron ac Aberystwyth."

'Anodd cael staff'

Gan fod misoedd yr haf wedi bod yn brysurach na'r disgwyl i'r busnes, dywed Anwen ei bod wedi gorfod dysgu'n gyflym i reoli busnes a chegin ond ar ben hynny roedd rhaid ymdopi 芒 heriau rheolau a threfniadau fel dilyn ac olrhain - track and trace.

"Gyda'r rheolau yn newid mor aml roedd hi'n anodd iawn i ddala lan gyda rheolau bob dydd," meddai.

"Gyda lot o'r ymwelwyr yn dod dros y ffin roedd rhaid i fi atgoffa nhw i wisgo masgiau achos bo nhw ddim yn ymwybodol o'r rheolau.

"Ni wedi trio ein gorau i ymdopi ac ry'n ni'n edrych mla'n nawr at 2022. Fi yn awyddus iawn i gadw y staff achos ni di cael eu cefnogaeth nhw trwy'r haf ac ry'n ni gyd wedi gweithio mor galed.

"Ond fi'n meddwl hefyd bydd rhaid cael staff proffesiynol mewn i helpu yn enwedig gyda'r gegin. Mae 'di bod mor brysur oherwydd bod pobol yn aros adre ar eu gwyliau a ddim yn mynd dramor.

"Ond, mae'n anodd i gael staff profiadol a phroffesiynol - yn enwedig rhai 芒 sgiliau Cymraeg sy'n bwysig i ni fel busnes.

"Mae hwn yn rhywbeth mae'r ardal i gyd yn wynebu sef ffeindio staff proffesiynol yn y diwydiant arlwyo."

'Omicron yn ergyd fawr'

Wrth edrych ymlaen at 2022 dywed y darlithydd busnes, Dr Robert Bowen, bod cychwyn y flwyddyn newydd yn heriol i fusnesau o ran cynllunio ac mae'n pwysleisio pwysigrwydd cael gwybodaeth glir o ran sut mae delio ac ymateb i'r pandemig.

"Mae'n anodd iawn ar hyn o bryd ar 么l cyfnod y Nadolig - anodd i fusnesau bach, yn enwedig i'r diwydiant lletygarwch ar adeg sydd yn draddodiadol yn llewyrchus iawn.

"Mae Omicron 'di bod yn ergyd fawr i'r sector. Mae mis Ionawr yn draddodiadol yn amser tawel i'r sector ac mae'n anodd gweld lle mae'r hyder yn y sector ac mae mwy o ansicrwydd i ddod yngl欧n 芒 be' sy'n digwydd o ran yr amrywiolyn.

"Mae'n anodd cynllunio yn y tymor hir, ond anoddach yn y tymor byr. Mae angen i wybodaeth ddod allan yn gyflym iawn i fusnesau bach," ychwanegodd.

Disgrifiad o'r llun, "Ry'n ni'n dibynnu'n helaeth ar gadwyni cyflenwad cyflym," medd Dr Bowen

"Law yn llaw 芒 phroblemau y pandemig mae costau a phrisiau yn codi yn her arall i'r cwsmer ac i fyd busnes," ychwanegodd Dr Bowen.

"Rwy'n credu fod pawb yn gweld fod prisiau wedi mynd i fyny - nid jyst y busnesau ond y cwsmeriaid hefyd," meddai.

"Mae chwyddiant wedi codi yn ddiweddar ac wedi bod yn codi dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae y gadwyn gyflenwad hefyd wedi cael ei heffeithio gan hynny.

"Ry'n ni yn dibynnu'n helaeth ar gadwyni cyflenwad cyflym - y rhan fwyaf ohonyn nhw o Ewrop ac mae Brexit wedi cael effaith ar hynny, ond mae Covid hefyd wedi cael effaith ar y gadwyn," ychwanegodd.

Mae'r pandemig wedi gwthio y diwydiant arlwyo a lletygarwch i ymateb ac addasu yn gyflym iawn ac mae nifer yn obeithiol y bydd eu profiad yn help iddyn nhw yn 2022.

Ond erbyn hyn mae prinder cyflenwadau a nwyddau, pwysau chwyddiant a chyfraddau llog, problemau recriwtio a chyfyngiadau pellach yn creu nerfusrwydd ac ansicrwydd mewn diwydiant sydd eisoes dan straen.