Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am ystyried cau ysgolion yn gynnar cyn y Nadolig
Mae arweinydd Cyngor Gwynedd yn dweud y dylid ystyried cau ysgolion wythnos cyn y Nadolig i atal lledaeniad coronafeirws cyn i bobl ddod at ei gilydd i ddathlu'r 诺yl.
Wrth siarad ar 91热爆 Radio Cymru, dywedodd Dyfrig Siencyn bod cyfraddau Covid y sir "yn ddychrynllyd" ond byddai cyflwyno cyfyngiadau lleol "yn anodd iawn, iawn i weithredu" yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig.
Cadarnhaodd y cyngor ddydd Mawrth bod rhai dosbarthiadau neu flynyddoedd ysgol "ar hyn o bryd yn derbyn eu haddysg yn rhithiol" mewn 10 o ysgolion y sir.
Ychwanegodd bryd hynny bod y cynnydd mewn achosion "wedi effeithio cymunedau ar draws yr ardal gyfan, gydag achosion diweddar i'w gweld yn ardaloedd Caernarfon, Bala, Ffestiniog, Dolgellau a Phen Ll欧n".
Dywed Llywodraeth Cymru fod fframwaith a ddaeth i rym ddechrau'r tymor yn "helpu ysgolion i weithredu'n ddiogel a theilwra ymyriadau i adlewyrchu lefel y risg lleol".
Yn yr wythnosau diwethaf mae cyfradd achosion Covid-19 Gwynedd wedi bod yn sylweddol uwch nag yng ngweddill Cymru, er mae wedi gostwng yn y dyddiau diwethaf.
Dros y saith diwrnod hyd at 09:00 fore Mercher, 1 Rhagfyr roedd y gyfradd achosion yng Ngwynedd yn 837.3 o'i gymharu 芒 464.5 ar gyfartaledd ar draws Cymru.
Ffigyrau 'dychrynllyd'
"Ma'n ffigyra' ni yn ddychrynllyd - o'dd ginnon ni dros 200 o achosion ddoe," meddai Dyfrig Siencyn ar raglen Dros Frecwast.
"Mae'n ymddangos fod o'n lledaenu trwy'r ysgolion a trwy gymdeithasu tu allan i ysgolion."
Ychwanegodd: "Mae'r darogan yn d'eud bod ni 'di cyrra'dd y pegwn a 'dan ni'n gobeithio byddwn ni'n gweld gostyniade."
Mewn ymateb i gwestiwn a oes angen cyflwyno cyfyngiadau lleol, atebodd: "Dwi ddim yn credu bod hynny'n bosib.
"Mi fydda fo'n beth anodd iawn, iawn i weithredu tasan ni'n gosod cyfyngiade cyn y Nadolig r诺an - wrth gwrs, penderfyniad y llywodraeth ydi hynny a ma' rhaid dilyn y cyngor gwyddonol.
"'Dan ni ddim wedi ca'l unrhyw arwydd bod hynny'n mynd i ddigwydd, ond dwi yn credu bod 'na le i ystyried a ddylen ni fod yn edrych ar gau ysgolion am yr wythnos ola' 'na cyn y Nadolig er mwyn rhoi rhyw fath o doriad bach cyn i ni gyd ddechrau cymdeithasu gyda'n gilydd dros Nadolig."
Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd dilyn y camau sylfaenol i atal lledaeniad y feirws - pellter cymdeithasol, golchi dwylo a gwisgo mwgwd.
Fframwaith rheoli heintiau lleol
Ers dechrau'r flwyddyn academaidd bresennol mae gan ysgolion unigol hawl i wneud penderfyniadau eu hunain yngl欧n 芒 rhai o'r mesurau Covid mewn ymateb i'r sefyllfa yn lleol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddydd Gwener: "Dylid gwneud penderfyniadau i symud i ddysgu cyfunol ar lefel ysgol ac Awdurdod Lleol, sydd wedi'u llywio gan gyngor ac ystyriaethau iechyd a diogelwch, megis lefelau staffio, er mwyn lleihau unrhyw amhariad ar ddysgwyr.
"Rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i darfu cyn lleied 芒 phosib ar addysg a gofal plant. I gefnogi hyn, rydym wedi cyhoeddi fframwaith rheoli heintiau lleol, i helpu ysgolion i weithredu'n ddiogel a theilwra ymyriadau i adlewyrchu lefel y risg lleol.
"Mae'r fframwaith yn rhoi canllawiau i ysgolion ar y broses a ddylai ddigwydd pe bai cynnydd mewn risg neu gynnydd mewn achosion."