Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llywodraeth yn gorchymyn sinema i gau dros reolau Covid
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gorchymyn i gau sinema yn Abertawe ar sail gwarchod iechyd y cyhoedd.
Roedd Anna Redfern - perchennog caffi a sinema Cinema and Co. ar Stryd y Castell - wedi methu ag ymddangos o flaen llys ddydd Iau mewn cysylltiad 芒 honiadau ei bod wedi torri rheolau coronafeirws a deddfwriaeth iechyd cyhoeddus.
Roedd hi hefyd wedi anwybyddu gorchymyn i gau gan Gyngor Dinas Abertawe ar 18 Tachwedd.
Mae gan weinidogion Cymru bwerau dan Ddeddf Coronafeirws 2020 i gymryd camau yn erbyn eiddo penodol os ydyn nhw o'r farn bod y busnes yn peryglu iechyd y cyhoedd.
Roedd Ms Redfern wedi datgan na fyddai'n fodlon gofyn i gwsmeriaid ddangos pasys Covid er bod hynny'n angenrheidiol ers i reolau newydd ddod i rym ar 15 Tachwedd.
Cafodd yr achos ddydd Iau ei ohirio wrth i'r barnwr ofyn am esboniad o'r angen am orchymyn i gau'r safle.
"I gefnogi Cyngor Abertawe ac i warchod iechyd y cyhoedd, mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi gorchymyn dan y Ddeddf i gau Cinema & Co yn Abertawe," medd datganiad gan Lywodraeth Cymru.
"Yn ddiweddar, fe nododd yr awdurdod lleol gyfres o achosion o dorri'r rheolau coronafeirws ar y safle.
"Fe dderbyniodd y safle orchymyn cyn hynny yn gofyn iddo gau yn sgil y risg i iechyd y cyhoedd.
"Gan fod y perchennog wedi dewis peidio 芒 chydymffurfio gyda'r gorchymyn cyfreithiol yma, mae Gweinidogion Cymru wedi cymryd camau gorfodaeth pellach."
Ychwanegodd y datganiad na fydd Llywodraeth Cymru'n gwneud sylw pellach wrth i'r broses gyfreithiol fynd yn ei blaen.