Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymru i wynebu Awstria yng ngêm ail gyfle Cwpan y Byd
Awstria fydd gwrthwynebwyr Cymru yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle i geisio sicrhau lle yng Nghwpan y Byd 2022 yn Qatar.
Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het mewn seremoni yn Zurich brynhawn Gwener.
Gan fod tîm Rob Page ymhlith y prif ddetholion, Cymru sydd â'r fantais o gael chwarae gartref.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 24 Mawrth.
Ar hyn o bryd mae Cymru'n 19eg yn rhestr detholion FIFA, tra bod Awstria yn y 30ain safle.
Bydd yr enillwyr yn wynebu'r Alban neu Wcrain yn y rownd derfynol ar 29 Mawrth.
Petai Cymru yn curo Awstria, fe fyddai'r gêm derfynol yn erbyn Yr Alban neu Wcrain yng Nghaerdydd.
Sicrhaodd Cymru eu lle yn y gemau ail gyfle ar ôl gorffen yn ail i Wlad Belg yn eu grŵp rhagbrofol.
Dim ond teirgwaith mewn 10 gêm y mae Cymru wedi trechu Awstria - ond mae dwy o'r buddugoliaethau hynny wedi dod yn y blynyddoedd diwethaf.
Fe enillodd y crysau cochion o 2-1 mewn gêm gyfeillgar yn 2013, a chyfartal 2-2 oedd hi yn Vienna yn 2016, cyn i gôl Ben Woodburn sicrhau buddugoliaeth yng Nghaerdydd yn 2017 ar y daith aflwyddiannus i Gwpan y Byd 2018.
Mae'r record ddiweddar yn erbyn Yr Alban yn ffafrio Cymru, sydd ond wedi colli unwaith mewn wyth gêm - fe wnaethon nhw ennill ddwywaith yn eu herbyn nhw yn ymgyrch Cwpan y Byd 2014.
Dim ond tair gwaith y mae Cymru a'r Wcrain wedi chwarae ei gilydd, gyda'r crysau cochion yn cael dwy gêm gyfartal ac yna colli mewn gêm gyfeillgar yn 2016.